Croeso.
Mae Cymdeithas Gwaith Maes yn bodoli i hyrwyddo addysg yr
amgylchedd yng Nghymru trwy gyhoeddi deunydd ar gyfer ysgolion.
Hwyl am y tro
Gwaith Maes is a voluntary society which supports environmental
education in Wales by publishing materials for use in schools.
Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1989 fel Cymdeithas Addysg Amgylchedd Gwynedd ac ers hynny datblygodd i gwmpasu Cymru gyfan. Y mae'n gwbl wirfoddol, yn dibynnu ar nawdd gan nifer o gyrff eraill, ac nid oes unrhyw un o'r aelodau yn derbyn tâl am ei waith.
Bu pob math o weithgareddau dros oes y Gymdeithas, ond darparu adnoddau i’w defnyddio gan athrawon prysur yn eu gwaith beunyddiol fu’r prif nod erioed, ac fe bair hynny o hyd. Tan 2001, y cylchgrawn oedd prif gynnyrch y Gymdeithas, ond ers hynny, cyhoeddir erthyglau a deunyddiau ar y we ddwy waith y flwyddyn (diwedd misoedd Tachwedd a Mai.) Pan gyhoeddir y gwerifyn newydd bob tro, symudir cynnwys yr un blaenorol i’r ffolderi storio pynciol perthnasol, i’w hagor a’u defnyddio yn ôl y galw.
Y mae copïau o’r cylchgrawn yn dal gan rai ysgolion, a gellir cael rhai ohonynt oddi wrth gadeirydd y Gymdeithas. Yn ogystal, o dro i dro ailgyhoeddir addasiadau o hen erthyglau yn y gwerifynnau a nodir y rhai hynny mewn coch ar restr gynnwys yr ôl-rifynnau.