blue spacer cymdeithas gwaith maesspacer
arwain addysg yr amgylchedd yng nghymruhafancysylltuchwilio
spaceramdanom nipwy 'di pwyffolderidolenni defnyddiol
blue line

llun o blant ysgolrhifyn newydd: 35gwe rifynnauol rifynnauffolderi gwaith maes

 

 

 

amdanom ni

 
 

Pwrpas y Gymdeithas yw hyrwyddo gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o’r amgylchedd trwy ei astudio, a thrwy rannu gwybodaeth a phrofiad ohono. Ynghlwm wrth hyn mae’r gred fod diwylliant, hanes a iaith yn rhan annatod o’r gwerthfawrogiad, fel y mae dulliau gwyddonol yn sicrhau dealltwriaeth. Credwn hefyd bod perspectif Cymreig trwy’r iaith Gymraeg yn hanfodol i gyflawni hyn.

Os oes gennych chi syniad am erthygl neu eitem i’w cyhoeddi ar safwe
Gwaith Maes, yna byddem yn croesawu derbyn eich cyfraniad.
Hoffem hefyd glywed eich hymateb i’r fenter ac unrhyw awgrymiadau i’w hyrwyddo. Cliciwch yma i gyfrannu

Gwaith Maes - plant ar y traeth

Bu pob math o weithgareddau dros oes y Gymdeithas, ond darparu adnoddau i’w defnyddio gan athrawon prysur yn eu gwaith beunyddiol fu’r prif nod erioed, ac fe bair hynny o hyd. Tan 2001, y cylchgrawn oedd prif gynnyrch y Gymdeithas, ond ers hynny, cyhoeddir erthyglau a deunyddiau ar y we ddwy waith y flwyddyn (diwedd misoedd Tachwedd a Mai.) Pan gyhoeddir y gwerifyn newydd bob tro, symudir cynnwys yr un blaenorol i’r ffolderi storio pynciol perthnasol, i’w hagor a’u defnyddio yn ôl y galw.

Y mae copïau o’r cylchgrawn yn dal gan rai ysgolion, a gellir cael rhai ohonynt oddi wrth gadeirydd y Gymdeithas. Yn ogystal, o dro i dro ailgyhoeddir addasiadau o hen erthyglau yn y gwerifynnau a nodir y rhai hynny mewn coch ar restr gynnwys yr ôl-rifynnau.

Yn yr ysgol

Y mae’n anochel mai ar baratoi deunyddiau i athrawon y mae’r pwyslais mwyaf, gan mai arnynt hwy y gorffwys y prif gyfrifoldeb am gyflwyno addysg yr amgylchedd a chynaladwyedd i ieuenctid y wlad. Fodd bynnag, y mae cyhoeddi Gwaith Maes ar y we yn ei gwneud yn haws cyrraedd pawb sydd yn ymwneud â holl agweddau amrywiol meysydd yr amgylchedd.

Ceir llawer o eitemau sydd o fudd arbennig i ddisgyblion llai rhugl a hyderus eu hiaith. Gellir addasu deunyddiau gweledol fel mapiau a lluniau yn ôl y gofyn, ond ceir hefyd ddewis da o erthyglau a thaflenni sydd eisoes yn addas o ran cyflwyniad a geirfa.

Gellir dadlwytho cynnyrch Gwaith Maes oddi ar y we i raglenni Microsoft Word, yna ei olygu a’i addasu yn ôl eich doethineb. O hynny ymlaen, gallwch argraffu a llungopïo yn y modd traddodiadol neu ddefnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol. Mantais bellach yw medru llunio tasgau gwahaniaethol trwy symleiddio neu fireinio mynegiant, amrywio ac aralleirio cwestiynau neu addasu tafodiaith yn ôl y galw.

Gwaith Maes - plant yn y coed

Hamdden

Ydych chi’n gyfrifol am Glwb Ieuenctid neu Ffermwyr Ifanc?
Ydych chi’n trefnu cyrsiau amgylcheddol mewn canolfan awyr agored?

Y mae dewis da gan Gwaith Maes i gyfarfod â llu o ofynion – gwybodaeth berthnasol, syniadau diddorol, golwg gam i hyrwyddo trafodaeth a dadl, ac ambell i bwt defnyddiol i lenwi congl sbâr mewn cynllun astudio neu raglen weithgareddau.

Gweithgareddau

A ddarlleno, ystyried;
A ystyrio, cofied;
A gofia, gwnaed;
A wnaed, parhaed.
Ellis Wynne, Y Lasynys (18ed ganrif)

Nid oedd awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsg yn aelod o Gymdeithas Gwaith Maes, ond gallai’n hawdd fod yn ein plith! Efallai yr hoffem newid trefn ei eiriau ychydig a gosod y “cofio” ar ôl y “gwneud” gan mai wrth wneud yr ydym yn cofio ac wrth gofio yr ydym yn dyfalbarhau.

Ein gobaith yw ysgogi ysgolion a grwpiau eraill i drefnu ymweliadau a gweithgareddau yn y maes yn lleol. Gofalwch sicrhau eich bod yn digoni rheolau diogelwch eich hysgol a’r awdurdod addysg perthnasol cyn dilyn rhai o awgrymiadau ymarferol Gwaith Maes.

Pob hwyl … cofiwch mai’r hwn sy’n mentro sy’n ennill!

 

 

 

Beth hoffech chi weld ar wefan Gwaith Maes yn y dyfodol? Cliciwch yma i gysylltu

 

Dylunio a Cyflwyno gan WiSS © 2007