Amdanom ni

Pwrpas y Gymdeithas yw hyrwyddo gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o’r amgylchedd trwy ei astudio, a thrwy rannu gwybodaeth a phrofiad ohono.
Ynghlwm wrth hyn mae’r gred fod diwylliant, hanes a iaith yn rhan annatod o’r gwerthfawrogiad, fel y mae dulliau gwyddonol yn sicrhau dealltwriaeth. Credwn hefyd bod perspectif Cymreig trwy’r iaith Gymraeg yn hanfodol i gyflawni hyn.

Cyfrannu a Cysylltu

Os oes gennych chi syniad am erthygl neu eitem i’w cyhoeddi ar safwe Gwaith Maes, yna byddem yn croesawu derbyn eich cyfraniad. Hoffem hefyd glywed eich hymateb i’r fenter ac unrhyw awgrymiadau i’w hyrwyddo.

I gyfrannu neu gysylltu â Gwaith Maes, gyrrwch e-bost neu ysgrifennwch at y cyfeiriad canlynol: Golygydd Gwaith Maes. Gwasanaeth Addysg, Plas Tan y Bwlch. Maentwrog. Gwynedd. LL43 3YU

Yn yr ysgol

Y mae’n anochel mai ar baratoi deunyddiau i athrawon y mae’r pwyslais mwyaf, gan mai arnynt hwy y gorffwys y prif gyfrifoldeb am gyflwyno addysg yr amgylchedd a chynaladwyedd i ieuenctid y wlad. Fodd bynnag, y mae cyhoeddi Gwaith Maes ar y we yn ei gwneud yn haws cyrraedd pawb sydd yn ymwneud â holl agweddau amrywiol meysydd yr amgylchedd.

Ceir llawer o eitemau sydd o fudd arbennig i ddisgyblion llai rhugl a hyderus eu hiaith. Gellir addasu deunyddiau gweledol fel mapiau a lluniau yn ôl y gofyn, ond ceir hefyd ddewis da o erthyglau a thaflenni sydd eisoes yn addas o ran cyflwyniad a geirfa.

Gellir dadlwytho cynnyrch Gwaith Maes oddi ar y we i raglenni Microsoft Word, yna ei olygu a’i addasu yn ôl eich doethineb. O hynny ymlaen, gallwch argraffu a llungopïo yn y modd traddodiadol neu ddefnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol. Mantais bellach yw medru llunio tasgau gwahaniaethol trwy symleiddio neu fireinio mynegiant, amrywio ac aralleirio cwestiynau neu addasu tafodiaith yn ôl y galw.

Gweithgareddau

A ddarlleno, ystyried; A ystyrio, cofied; A gofia, gwnaed; A wnaed, parhaed.
Ellis Wynne, Y Lasynys (18ed ganrif)

Nid oedd awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsg yn aelod o Gymdeithas Gwaith Maes, ond gallai’n hawdd fod yn ein plith! Efallai yr hoffem newid trefn ei eiriau ychydig a gosod y “cofio” ar ôl y “gwneud” gan mai wrth wneud yr ydym yn cofio ac wrth gofio yr ydym yn dyfalbarhau. Ein gobaith yw ysgogi ysgolion a grwpiau eraill i drefnu ymweliadau a gweithgareddau yn y maes yn lleol. Gofalwch sicrhau eich bod yn digoni rheolau diogelwch eich hysgol a’r awdurdod addysg perthnasol cyn dilyn rhai o awgrymiadau ymarferol Gwaith Maes.

Pob hwyl … cofiwch mai’r hwn sy’n mentro sy’n ennill!

Hamdden

Ydych chi’n gyfrifol am Glwb Ieuenctid neu Ffermwyr Ifanc? Ydych chi’n trefnu cyrsiau amgylcheddol mewn canolfan awyr agored? Y mae dewis da gan Gwaith Maes i gyfarfod â llu o ofynion – gwybodaeth berthnasol, syniadau diddorol, golwg gam i hyrwyddo trafodaeth a dadl, ac ambell i bwt defnyddiol i lenwi congl sbâr mewn cynllun astudio neu raglen weithgareddau.

Hoffwn ddiolch i'r canlynol am eu cefnogaeth:

Dylunio a Cyflwyno gan WiSS
Hawlfraint Gwaith Maes 2009

Ebost:
Allweddair:
Gyrrwch y cyfrinair