Pan fyddwch yn edrych yn fanwl ar ddarn o dir sylwch ei fod yn llawn amrywiaeth o wahanol rywiogaethau, nid 'gwair' yn unig.
Beth sydd yn y lluniau yma? Mae yma fwy na gwair.
 |
 |
| Welwch chi fod yna wahanol fathau o ddail yma, rhai yn fain ac eraill yn wastad. Rhai yn 'llabedog' fel deilen coed derw ac os edrychwch yn fanwl iawn, rhai gyda blew. |
Welwch chi flodyn melyn, glaswellt tal a glaswellt byr? Edrychwch eto a falle welwch chi droed y ffotograffydd ?
|
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddau lun? Mae nifer y planhigion gwahanol yn amrywio rhwng y ddau lun. Mae gwahaniaeth mewn lleoliad. Y cyntaf ble caiff pel droed ei chwarae yn aml, a'r llall ar gyrion y cae ble nad yw'r torrwr gwair yn cyrraedd.
Beth am wneud arbrawf? Byddwch angen
Taflen gofnodi pren mesur pensil Thermomedr
Rhagdybiaeth; Mae mwy o blanhigion, a phlanhigion talaf iw gweld ar ymyl cae na sydd yna yn y canol.
| Safle |
Nifer o blanhigion gwahanol
|
Uchder 5 planhigyn
|
Nifer pryfaid yn y tir
|
Tymheredd |
| Canol cae pel droed |
|
|
|
|
| Ymyl cae pel droed |
|
|
|
|
| Gardd wyllt |
|
|
|
|
Os oes gennych ardaleoedd eraill o amgylch yr ysgol e.e. ardal goediog gallwch ychwanegu'r rhain at y rhestr.
Gwnewch lun o'r planhigion gwahanol, a'r blodau os oes yna rai neu'r pen had fel arall fel y gallwch edrych mewn llyfr iw adnabod.
Meddyliwch;
Ble mae'r nifer mwyaf o rywiogaethau iw gweld. Gallwch weld hyn yn glir gan greu graff bar. Pam? Beth sy'n cael effaith ar nifer y planhigion; plant neu dymheredd?
Fedrwch chi feddwl am ragdybiaethau eraill?