Rhifyn 38

Defnyddio dŵr ar gyfer hamdden – Rhys Thomas

Tybed faint ohonoch chi sydd wedi defnyddio dŵr ar gyfer hamdden. Ydach chi wedi bod yn canŵio ar lyn, yn pysgota mewn afon neu yn ymdrochi yn y môr?

 

Mae llawer o bobl ar draws y wlad yn defnyddio dŵr ar gyfer wahanol weithgareddau er mwyn mwynhau eu hunain. Mae’r gweithgareddau yma yn cael eu gwneud yn defnyddio afonydd, llynnoedd neu’r môr. Mae yna ddigon o gyfleoedd i fwynhau gweithgareddau hamdden dŵr yng Nghymru gan fod yna dros 4000 cilomedr o afonydd, tros 1400 cilomedr o arfordir a 650 o lynnoedd.

Mae’r arfordir o amgylch Ynys Môn yn boblogaidd iawn gyda llawer o bobl yn defnyddio’r môr i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol.

Mae rhai yn defnyddio’r môr o amgylch Ynys Môn ar gyfer gweithgareddau egniol iawn megis sgïo jet, brigdonni (surfing), hwylfyrddio (windsurfing), môrdirio (coasteering), Brigdonni hefo barcud (kitesurfing), a sgïo dŵr.

Mae eraill yn defnyddio’r môr ar gyfer gweithgareddau mwy hamddenol megis hwylio, pysgota, ymdrochi, rhwyfo a caiacio.

Gweithgaredd 1

  1. Ydach chi’n byw ger y môr, neu yn agos i afon neu lyn? Ceisiwch feddwl am y gwahanol weithgareddau hamdden sydd yn cymryd lle yn defnyddio’r dŵr yma.

Lleoliad  Gweithgaredd Gwrthdaro posibl
e.e. môr

Er bod y gweithgareddau yma yn llawer o hwyl i’r rhai hynny sydd yn cymryd rhan, maent yn gallu achosi anfodlonrwydd a dicter i eraill. Pan mae yna lawer o bobl yn ceisio defnyddio dŵr ar gyfer mwynhau eu hunain yn yr un ardal mae gwrthdaro yn gallu digwydd. 

Er enghraifft ar ddiwrnod braf a chynnes o haf mae llawer o bobl yn hoffi mynd i’r traeth ac i nofio yn y môr. Mae eraill yn cymryd y cyfle i fynd i sgïo jet allan yn y môr. Os yw’r gweithgareddau yma yn cymryd lle yn yr un ardal yna mae hyn yn gallu achosi tensiwn. Mae’r sgiwyr jet angen lle i wibio o gwmpas heb orfod poeni am nofwyr yn y ffordd, tra mae’r nofwyr eisiau llonydd i fwynhau eu hunain yn y dŵr heb orfod poeni am gael eu taro gan y moduron. Felly mae rhai gweithgareddau hamdden yn y dŵr yn gallu amharu ar weithgareddau eraill ac mae hyn yn gallu arwain at wrthdaro.

Kiteboarders Llugwy
Kiteboarders yn Llugwy @AHNE Ynys Môn

Carfan o bobl sydd yn draddodiadol wedi gwrthdaro dros ddefnydd dŵr yw pysgotwyr a caiacwyr, yn enwedig ar afonydd, ble mae lle yn gyfyng. Mae pysgotwyr yn cwyno fod y caiacwyr yn amharu ar eu pysgota gan eu bod yn gorfod stopio castio i adael caiacwyr basio, tra mae’r caiacwyr yn cwyno fod y pysgotwyr yn cael yn eu ffordd ac yn amharu ar eu gweithgaredd.

Gwaith maes - hamdden dŵr yn eich ardal leol.

 Pan fyddwch allan wrth y môr, neu ger afon neu lyn, defnyddiwch y tabl isod i arsylwi pa weithgareddau hamdden dŵr sydd yn cymryd lle yn eich ardal leol chi.

  • Ysgrifennwch pa weithgaredd yr ydych yn ei weld, faint o bobl sydd yn cymryd rhan yn y gweithgaredd yma, ac unrhyw ffordd y gall y gweithgaredd yma amharu ar weithgareddau eraill sydd yn cymryd lle yn yr un ardal.
  • Fedrwch chi feddwl am unrhyw ffordd i osgoi gwrthdaro rhwng gwahanol ddefnyddwyr dŵr? Efallai gallech greu côd ymddygiad ar gyfer y gweithgareddau sydd yn gwrthadro.
  • Am bob un o’r gweithgareddau gwahanol yr ydych wedi sylwi arnynt ceisiwch feddwl am effeithiau ehangach y gweithgaredd ar yr ardal leol. I’ch helpu meddyliwch am effeithiau amgylcheddol - difrod i'r tir, cymdeithasol - sŵn ac economaidd - a ydynt yn gwario llawer yn lleol.

 

Dylunio a Cyflwyno gan WiSS
Hawlfraint Gwaith Maes 2009