Rhaglenni Ystafell Ddosbarth Fyw ar warchodfeydd yr RSPB yng Nghymru
Arweinir eich rhaglen diwrnod cyfan neu hanner diwrnod, a gynlluniwyd i ysgogi chwilfrydedd a’r broses o ddarganfod, gan athro maes proffesiynol yr RSPB. Bydd eich grŵp yn cael cyfle i archwilio byd natur drwy astudio’r adar, yr anifeiliaid a’r planhigion ar un o warchodfeydd natur hyfryd yr RSPB neu ar safleoedd etholedig eraill.
Dywedodd Cherryl Hodges, Rheolwr Athrawon Maes RSPB Cymru:
“Mae pob safle dysgu a gweithgaredd wedi eu hasesu o ran risg ac mae’r rhaglenni dysgu yn adlewyrchu tirlun naturiol a chyfleusterau pob safle - fe’u cynlluniwyd i sicrhau profiad dysgu gwych i’ch grŵp. Gelli’r cysylltu pob rhaglen ddysgu gyda phynciau’r cwricwlwm. Mae’r rhaglen yn adlewyrchu gwahanol ddulliau dysgu, oedran a lefelau’r unigolion neu’r grwpiau sy’n ymweld.”
Gwarchodfa natur RSPB Conwy
Mae RSPB Conwy yn gymysgfa o gynefinoedd gwlypdir, prysgwydd ac arfordirol a saif ar lannau aber Conwy ger Llandudno. Mae’r warchodfa yn lle bendigedig i weld bywyd gwyllt unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae 'na nifer helaeth o adar i’w weld o rhostogod a hwyiaid yr eithin i dros 200 o rywogaethau eraill.
Mae plant wrth eu bodd yn dysgu wrth gyffwrdd ac yng Nghonwy mae Llwybrau Darganfod Arbennig fydd yn rhoi profiadau bythgofiadwy iddynt. Mae ‘na rhaglenni perthnasol ar gyfer plant iau i ddisgyblion TGAU, Lefel A neu Addysg Bellach.
|
Canolfan Addysg Awyr-agored Dôl-y-Gaer.
Lleoli'r y ganolfan yma ar ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ger Merthyr Tydfil. Amgylchynir y canolfan gan gynefinoedd ddŵr, coedwig a glaswelltir. Yma chaiff disgyblion y siawns i ddarganfod natur ac astudio adar, anifeiliaid a phlanhigion eu hunain. Caiff cynefinoedd eu archwilio trwy Chwedlau Tylwyth Teg, rhwydo pyllau a chwilfa man greaduriaid.
|

Holl luniau ©(rspb-images.com)
|
RSPB Llyn Efyrnwy
Mae’r warchodfa yma yn lle delfrydol ar gyfer ymweliad ysgol oherwydd yr holl gynefinoedd sydd ar gael. Uwchben y gronfa ddŵr mae 'na filiynau o hectarau o wahanol gynefinoedd, o rostir grug, dolydd a choetir. Gallwch weld a chlywed y gwybedog brith a’r tingoch. Hefyd, wrth y llyn a’r nentydd serth mae bronwen ddwr yn nythu.
RSPB Ynys-hir
Ar gyrion yr aber Dyfi mae gwarchodfa RSPB Ynys-hir. Yma fe geir cymysgedd o goedlannau derw, glaswelltir gwlyb a morfa heli. Drwy gydol y misoedd oeraf, mae hwyaid a gwyddau’n symud i mewn, ond ellir gweld y barcud coch a hebogau tramor trwy gydol y flwyddyn. Cynigir cymysgedd o weithgareddau yma er enghraifft gemau amgylcheddol a theithiau tywys. I fyfyrwyr Lefel A mae 'na nifer wahanol o weithgareddau ar gael, er enghraifft sgwrsio am y gwahanol dechnegau rheolaeth cadwraeth sydd ar gael.
Canolfan Addysg Amgylcheddol ac Ymwelwyr Gwlyptiroedd Casnewydd
Mae’r warchodfa genedlaethol yma yn cynnig hafan i fywyd gwyllt ar gyrion dinas Casnewydd. Cynigir ymweliadau i ysgolion a cholegau ar y safle yma. Gallwch weld a chlywed telor Cetti a’r titw barfog yn y corsydd, ac mae heidiau o hwyiaid, gwyddau ac elyrch yn ymweld ar warchodfa yn ystod y gaeaf. Gellir cysylltu pob rhaglen efo’r cwricwlwm o Gyfnod Sylfaenol i lefel Addysg Bellach mewn pynciau megis gwyddoniaeth, hanes, celf ac ysgrifennu creadigol. Bydd disgyblion yn medru gweithio yn wyddonol a dysgu sgiliau newydd wrth ehangu eu gwybodaeth o’r amgylchedd.
Mae’r RSPB yn hapus i ymweld ag ysgolion neu golegau i hyrwyddo’r gwaith ac i gynnig rhaglenni amgylcheddol er enghraifft i Wylio Adar yr Ysgol - arolwg syml ar gyfer pob oedran a gallu yw hwn a gynhelir yn ystod hanner cyntaf tymor y gwanwyn.Dim ond awr o amser sydd ei angen ar gyfer y gweithgaredd am ddim hwn ac mae ganddo lu o gysylltiadau a’r cwricwlwm.
 |
Dywedodd athro ysgol gynradd Twynyrodyn: “Defnyddiwyd y gwylio adar fel rhan o’n gwaith gwyddoniaeth, dadansoddwyd y canlyniadau mewn mathemateg, trefnwyd ysgrifennu creadigol am adar yr ardd ac rydym hefyd yn trefnu cyfarfod boreol amdano!” |
Cynigir rhaglenni ymestyn yn ôl argaeledd. Mae gweithgareddau eraill yn dechrau o £3.50 y plentyn i ysgolion gynradd i £6.00 i ddisgyblion Lefel A, am fwy o wybodaeth am y cyfleodd yma ac i drafod y rhaglenni cysylltwch â Cherryl Hodges neu ffoniwch 029 2035 3000.