environmental lessons in welsh


welsh language resources for schools

Anifail tua maint cath fach yw’r carlwm (corff 22cm – 32cm + cynffon 22cm – 26cm) yn perthyn i deulu’r Mustelidae sydd hefyd yn cynnwys y wenci, y ffwlbart, y ffured, y dyfrgi a’r mochyn daear. Mae’n hawdd ei adnabod, yn arbennig oherwydd blaen du ei gynffon sydd byth yn newid lliw. Brown golau yw ei liw yn yr haf, ond yn y gaeaf mae’n troi’n wyn – yr unig anifail yng Nghymru sy’n gwneud hyn. Mae’n anifail rheibus sydd, diolch i’w gorff llyfn hirfain, yn hynod o lwyddiannus am hela cwningod yn eu tyllau.

Dyma un cwestiwn diddorol sy’n codi: pam gwisgo cuddliw fel hyn yn y gaeaf? Yn yr Alban a’r Iwerddon mae’r ysgyfarnog fynydd hefyd yn troi’n wyn ac mae’n hawdd esbonio pam – mae llawer o greaduriaid rheibus yn bwyta ysgyfarnogod, ac mae gwenwisg aeaf yn eu hamddiffyn. Ond, ai dyma’r unig reswm wrth ystyried y carlwm? Heliwr ydy hwn yn bennaf ac nid ysglyfaeth, felly a ydy’r cuddliw yn ei helpu i hela’n anweledig yn y gaeaf?

Pa bryd a pha le mae’r carlwm yn troi yn wyn? Ydy’r rhai sydd yn troi’n wyn bob amser yn troi yn hollol wyn neu a oes rhai yn aros hanner ffordd rhwng brown a gwyn?

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Dros y blynyddoedd bûm yn derbyn cofnodion cyfeillion a chydnabod am garlymod yn eu gwisg wen aeafol. Mae’r tabl yn dangos y canlyniadau.

Pam cofnodi carlymod gwyn felly?

Dyma rai o’r cwestiynau y gallwn eu hateb o dderbyn digon o gofnodion:

 

Ydy’r carlwm yn troi’n wyn yn y gaeaf :

 

a. yn amlach ac am gyfnod hwy yn y Gogledd?

 

b. yn amlach ac am gyfnod hwy yn yr ucheldir?

 

c. yn llwyrach yn yr ucheldir yn y Gogledd?

 

ch. i raddau llai heddiw nag er ystalwm - arwydd efallai o newid hinsawdd?

Gallwn hefyd geisio ateb y cwestiwn ai cyflwr dros dro ydy’r “hanner brown a gwyn” fel rhan o’r broses o newid rhwng gwyn a brown (ar sail cofnodion “hanner ffordd” ym mis Hydref neu Fawrth), neu ai dyma weithiau y cyflwr cyflawn (ar sail cofnodion “hanner ffordd” ym mis Ionawr.)

Os gwelwch yn dda,
anfonwch eich cofnod gweld carlwm (unrhyw liw) rhwng Hydref a Mawrth ataf i: Duncan Brown, Llys y Bont, Ffordd y Parc, Parc Menai, BANGOR, LL57 3BH.
E-bost: Dn.Brown@ccw.co.uk

Mae angen: eich enw a’ch cyfeiriad, pwy welodd y carlwm, ble a chyfeirnod grid, dyddiad, manylion ei liw, ei gyflwr a’r amgylchiadau.

Bydd eich cofnodion yn cael eu hychwanegu at y tabl a’r graff ar y wefan a’u dangos yno. Bydd croeso i gofnodion dilys o’r gorffennol yn ogystal â rhai’r flwyddyn hon.

 

COFNODION CARLYMOD GWYNION 1987-2002
(yn nhrefn uchder uwchben y môr)

uchder

mis

blwyddyn

lliw

sylwedydd

man gweld

cyflwr/ amgylchiadau

893m

?

1990

gwyn

Dyfed Jones

copa Cader Idris

yn fyw

500m

2

2002

gwyn

Clifton Hughes

Llyn Anafon
SH700700

yn fyw

400m

3

1994

gwyn

Llyr Gruffydd, Porthaethwy

llwybr i ben y Drum

yn fyw

350m

2

1990

gwyn

Wil Jones,Croesor

Y Cnicht

yn fyw

288m

2

2002

gwyn

Meira Shakespear a’r teulu

uwchben Dolwyddelan
SH735552

yn fyw

200m


1999

gwyn

Dyfed Jones a
Les Colley

rhwng Ll'haearn a Llithfaen

yn fyw

150m

10

2001

brown

Duncan Brown, Waunfwr

Nant Rhaeadr, Abergwyngregyn

yn fyw

150m

3

1992

gwyn
ond am dalcen a bôn cynffon brown

Ann Jones, Croesor

ger Llyn Cwellyn

wedi ei ladd
ar y lôn

140m

11
1989
brown

Pant Glas
yn fyw
130m
11
2000
gwyn
Aled Jones, Penrhyndeudraeth
Pont Cyrnant, Waunfawr
yn fyw
130m
3
1992
gwyn i gyd ar wahan i'r gynffon “frown”
Falmai (nee) Owen
Garreg Fawr, Waunfawr
yn fyw
110m
2
2002
brown
Alan Crane
B4413 Llanbedrog
wedi ei ladd ar y lôn
100m
1
2002
brown
Alan Pritchard
Abergwyngregyn
SH662720
yn fyw
30m
1
1990
gwyn
Doris Alcock, Llanfairfechan
Niwbwrch, Môn
yn fyw
8m
1
1993
gwyn ond am ei gefn
sylw gŵr o Dalsarnau i Wil Jones
Gwrachynys, Harlech SH589342
yn fyw
?
?
1991
gwyn
Llyr Gruffydd Porthaethwy
Dyffryn Ogwen
yn fyw

I raddau bychan iawn yn unig y mae’r tabl uchod yn ateb y cwestiynau pwysig. Mae’n amlwg fod cofnodi carlymod sydd heb newid lliw yn y gaeaf yr un mor bwysig â’r rhai mewn gwenwisg. Fodd bynnag, o astudio’r crynodeb o’r tabl ar ffurf graff yn dangos anifeiliaid y ddau liw ar wahanol lefelau uwchlaw’r môr, mae’n ymddangos fod carlymod gwyn ychydig yn fwy tebygol o gael eu gweld yn y gaeaf ar dir uchel. Ar y llaw arall, mae tuedd gref i rai brown gael eu gweld ar dir isel, ond rhaid derbyn fod rhai brown yn llai tebygol o gael eu cofnodi gan mai dyna’r ffurf arferol.

I ateb y cwestiynau yn iawn mae’n rhaid cofnodi llawer mwy o garlymod yn y gaeaf, y rhai gwyn, a’r brown a’r rhai canolig.

learning about the environment

Beth mae eraill yn ei ddweud am y carlwm gwyn?

·
Hyd golau dydd sydd yn rheoli pryd y bydd y carlwm yn bwrw ei flew ac yn adnewyddu ei gôt.
·
Bydd carlymod y gogledd yn troi’n glaerwyn dros y gaeaf (ag eithrio blaen y gynffon.) Bydd carlymod y de yn aros yn frown ond gyda gwisg aeaf fwy gwelw. Ble yn union mae’r naill sefyllfa yn ymdreiddio i’r llall?
·
Cynffonnau carlymod gwyn yw’r smotiau ar faner Llydaw.
·
Yn yr (hen) Undeb Sofietaidd nid ydynt yn troi’n wyn yn yr ardaloedd lle bydd eira yn gorwedd am lai na 40 niwrnod y flwyddyn.
·
Mae’r benywod yn troi’n wyn yn amlach na’r gwrywod.
·
Ymadrodd ar lafar: “cyn wyned â charlwm.”
·

Yn yr hen gyfreithiau Cymreig (13G) dywedir:

 

Tri phryf ydyly y brenhineu gwerth py tu bynhac y llather. llostlydan. a beleu. a charlwnc.

·
Ei werth pennaf oedd fel croen amheuthun i addurno clogynnau’r uchelwyr.
·
Credir i’r gair carlwm darddu o cardd (=carcharor, sef yr ysglyfaeth) a llwng (= llwnc.)