Gofyn ac ateb cwestiynau yw gwaith y gwyddonydd - cwestiynau fel beth? faint? pa bryd? pa le? ar ateb anhawsaf ohonyn nhw i gyd i'w ateb, paham? Bûm yn gofyn rhai o'r cwestiynau hyn ers tro am anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar y lonydd. Pa greaduriaid yw'r rhai mwyaf tebygol o gael eu taro gan geir? Yr unig ffordd i ateb y cwestiwn hwn yw cyfrif a chofnodi'r cyrff wrth deithio ar hyd y ffordd, gan nodi hyd pob taith, pob tro.
Yn ôl fy nghyfrif i wrth deithio ar hyd a lled Cymru yn y car, ymddengys mai'r draenog sy'n dioddef waethaf yn yr haf a'r gwningen yn y gaeaf. Mae ffigur 1 yn dangos yn
fras gyfran cyrff pob rhywogaeth a gafwyd, gyda 'eraill' yn cynnwys mwyalchod,
llygod mawr, cathod, a hyd yn oed ambell ffwlbart.
Er mai'r draenog sydd i bob golwg yn dioddef waethaf ar y ffyrdd, tybed a yw hynny'n gywir? Bûm yn cymharu gwahanol gyrff, a sylwais fod gweddillion draenogod yn parhau'n hwy na gweddillion unrhyw rywogaeth arall. Mae'n debyg bod eu pigau caled yn eu hamddiffyn yn well rhag y teiars ar ôl iddyn nhw farw na phan oedden nhw'n fyw. Oherwydd hyn, mae'r gyfran uchel o ddraenogod yn yr haf, yn ffigur 1, o bosib yn chwyddedig a bod llai ohonynt, mewn gwirionedd, yn cael eu lladd, o'u cymharu â rhywogaethau eraill, nag a awgrymir gan y cyfrif. Dylid dehongli canlyniadau'r cyfrif yn ofalus iawn, felly,
yn enwedig y gymhariaeth rhwng y gŵahanol rywogaethau. Mae'r gymhariaeth
rhwng haf a gaeaf yn ddiogelach. Fel y disgwylid, cafwyd llai o ddraenogod
yn y misoedd llwm gan mai dyna gyfnod y trwmgwsg. Eto i gyd, o edrych
ar ddosbarthiad cyrff y draenogod dros y gaeaf yn Felly hefyd y brain a'r piod. Cywion y flwyddyn honno yw'r rhain gan amlaf - adar dibrofiad, afrosgo a fu, efallai, yn llarpio gweddillion rhyw ddraenog ger y ffos, cyn mynd eu hunain i'w tranc! Byddwn wedi disgwyl gweld mwy o gyrff brain yn y gaeaf am yr un rheswm, gan mor bwysig yw'r ffynhonnell barod o gig mewn tymor o brinder. Ond nid felly y bu. Mae'n rhaid i'r gwyddonydd ddysgu nad yw Natur bob amser yn ymddwyn fel y 'dylai'.
Mae'r draenog byw yn yr ardd gefn yn werth ei gofnodi hefyd
wrth gwrs.
Gyrrwch eich cofnodion - fel unigolyn neu fel dosbarth - at: Duncan Brown |