environmental lessons in welsh

Mae ar bob anifail angen cysgod yn ogystal â bwyd i fyw'n gysurus.

 

Mae'r gweithgaredd hwn yn annog plant i edrych ar ba ddefnyddiau, cyfleoedd a strategaethau a ddefnyddir gan anifeiliaid i gadw'n gynnes.

  welsh language resources for schools
1
 

Cynhaliwch drafodaeth fer am fathau o gartrefi anifeiliaid (nythod, tyllau, cysgod) a'r mathau o ddefnyddiau a ddefnyddir yng nghartrefi'r anifeiliaid (plu, priciau, pridd, gweiriau).
Bydd hyn o gymorth i'r plant pan fydd raid iddynt gael hyd i gartref addas.

   
2
 

Adeiladwch gartrefi o'r un maint mewn amrywiaeth o wahanol ddefnyddiau (lego, playdoh, priciau, briciau, defnydd, gweiriau, pren, a.y.b.).

   
3
 

Rhowch fag plastig wedi ei gau'n dynn i bob plentyn wedi ei lenwi â 250ml o ddŵr cynnes.

   
4
 

Gosodwch un bag ym mhob un o'r cartrefi a'i adael yno am hanner awr.

   
5
 

Bydd tymheredd pob bag yn cael ei fesur eto i ddarganfod a fydd y bagiau wedi parhau'n gynnes. Yna gallwch wneud siartiau ar gyfer y gwahanol fathau o gartrefi yn dangos canlyniadau'r arbrawf tymheredd.

   
6
 

Wedi hynny ceir trafodaethau ynghylch sut y gellir gwella'r tai a newidiadau posibl i'r cynllun a'r defnyddiau a ddefnyddiwyd. Gallwch ailadrodd yr arbrawf neu ei ddatblygu fel a ganlyn.

   
7
 

Gallwch ddefnyddio tir yr ysgol i ailadrodd yr ymarfer ond gan ddefnyddio defnyddiau naturiol y ceir hyd iddynt ar dir yr ysgol yn unig.

   
8
 

Rhaid i'r plant gael hyd i 'gartref' y maent hwy yn ystyried fydd yn cadw eu bagiau'n gynnes. Maent yn cael digon o amser i greu eu cartrefi yn barod ar gyfer eu bagiau.

   
9
 

Fel o'r blaen rhowch fag plastig wedi ei gau'n dynn i bob plentyn wedi ei lenwi â 250ml o ddŵr cynnes. Mae'r plant yna'n mynd â'r bagiau i'w cartrefi lle gadewir y bagiau am hanner awr.

   
10
 

Gallwch ddefnyddio'r canlyniadau i awgrymu newidiadau i dir yr ysgol er mwyn cynyddu math a maint defnyddiau addas a lleoedd i gartrefi anifeiliaid bychan a gwneud tir yr ysgol yn fwy deniadol i fywyd gwyllt.