© Dr Craig Shuttleworth

 

Geirfa            
angheuol ... fatal   gaeafgysgu ... hibernate    
brodorol ... native   goroesi ... survive    
collddail ... deciduous   lledaenu ... spread    
cyflenwad ... supply   rhywogaeth ... species    
cyflwyno ... introduce   ymochel ... shelter    

Ceir o leiaf 267 rhywogaeth o wiwer ledled y byd ond nid ydynt i gyd yn edrych fel y gwiwerod yr ydym ni yn gyfarwydd â hwy. Mae’r wiwer hedegog yn gallu hedfan o un goeden i’r llall trwy ddefnyddio darn o groen sydd yn cysylltu ei choesau blaen ac ôl fel hwyl. Gwiwerod sy’n byw ar y llawr yw’r marmotiaid a geir yn Ewrop a Gogledd America … creaduriaid cymdeithasol a chwareus sydd yn gaeafgysgu mewn twll yn y ddaear er mwyn osgoi’r tywydd oer.

welsh language resources for schools
Gwiwer hedegog

Gwiwerod ym Mhrydain

Ym Mhrydain ceir dwy rywogaeth o wiwer – y wiwer goch (Sciurus vulgaris) a’r
wiwer lwyd (Sciurus carolinensis). Mae’r cofnodion cyntaf o’r wiwer goch ym Mhrydain yn dyddio yn ôl i’r cyfnod cyn diwedd Oes yr Iâ (tua 7,000 – 10,000 o flynyddoedd yn ôl) pan yr oedd tir sych yn cysylltu Ynysoedd Prydain â chyfandir Ewrop. Lledaenu’n naturiol i Brydain wnaeth y wiwer goch, ond daethpwyd â’r pâr cyntaf o wiwerod llwyd yma o’u cartref brodorol yng Ngogledd America ym 1876. Roedd pobl yn hoffi golwg y gwiwerod “newydd” ac felly cyflwynwyd nifer o barau eraill ledled y wlad.

Yn anffodus, ers i’r wiwer lwyd gyrraedd Prydain, mae niferoedd y gwiwerod coch wedi disgyn yn sylweddol. Erbyn hyn, mae’r wiwer goch wedi diflannu’n gyfan gwbl o Dde Lloegr ac o rannau helaeth o Gymru ond ar hyn o bryd mae’n goroesi yng nghoedwigoedd conifferaidd yr Alban lle nad yw’r wiwer lwyd wedi lledaenu. Yng Nghymru mae niferoedd y gwiwerod coch yn isel iawn ac mae’n bwysig iawn eu gwarchod. Yr unig boblogaeth yng Nghymru sy’n cael ei gwarchod yn benodol yw’r un ar Ynys Môn.


Pam y dirywiad?


Mae’n debyg fod sawl ffactor wedi cyfrannu at ddirywiad y wiwer goch.
Gostyngodd niferoedd yn sylweddol yn y 15fed a’r 16eg ganrif wrth i goed gael eu torri ar gyfer tanwydd, adeiladu, rhyfel ac amaethyddiaeth.
Ar ddechrau’r 19eg ganrif, plannwyd llawer o goed conifferaidd i geisio adnewyddu’r gyflenwad coed am eu bod yn tyfu’n gynt na’r hen goed collddail.

Ffynnodd y gwiwerod coch eto yn y coedwigoedd newydd nes iddynt gael eu herlid mewn rhannau o’r wlad am eu bod yn bla. Fodd bynnag, rhwng 1900 a 1925 gostyngodd y niferoedd yn gyflym iawn ledled Prydain, ac mae’n debyg fod y rhesymau am y dirywiad yn gymhleth dros ben.

Mae rhai arbenigwyr yn credu bod elfen o gystadleuaeth rhwng y wiwer goch a’r wiwer lwyd, ac heb os, mae’n ymddangos fod gwiwerod coch yn diflannu o ardaloedd sy’n cael eu llenwi gan wiwerod llwyd.

Ffactor bwysicach mae’n debyg oedd lledaeniad dau afiechyd a gafodd effaith sylweddol ar y gwiwerod. Y cyntaf yw Coccidiosis, sydd yn niweidio gwiwerod coch a llwyd a’r ail yw’r Parapocs sydd yn angheuol i’r wiwer goch ond nid i’r un lwyd.

Ar ben hyn oll daeth dau ryfel byd â cholled cynefin pan dorrwyd peth wmbreth o goed. Gan nad oedd y gwiwerod llwyd yn dioddef gan yr afiechyd Parapox, cynyddodd eu poblogaeth yn sylweddol ond colli tir fu hanes y rhai coch.

Dengys y mapiau isod y newid mewn dosbarthiad dros y pum mlynedd diwethaf.
(Ailgynhyrchir y data hwn drwy ganiatâd caredig Ymddiriedolaeth Natur Dyrham
a Dr. Craig Shuttleworth.)

 

 

educational resources for welsh teachers

 

Ble mae gwiwerod yn byw?

Y goedwig yw cartref y wiwer, lle cysgodol a chynnes ac ynddi gyflenwad parod o fwyd. Yn debyg iawn i adar, mae gwiwerod yn adeiladu nyth i ymochel ynddo. Ceir dau brif fath. Y cyntaf yw nyth agored yng nghanopi’r coed, sydd yn edrych yn debyg iawn i nyth pioden ond fod ganddo do rhag y glaw. Mae’n cael ei adeiladu o frigau coed gyda dail, plu, mwsogl ac unrhyw beth arall esmwyth y gall y wiwer gael hyd iddo yn y goedwig i’w wneud yn gyfforddus.

 

 

 

adnoddau iaith gymraeg i ysgolion

Yr ail fath yw ffau ym monyn y goeden mewn twll sydd naill ai wedi ei greu gan gnocell y coed neu wedi pydru’n naturiol. Mae’r wiwer yn clustogi’r twll hwn hefyd gyda mwsogl a dail i greu cartref clyd.Mae’n hynod o bwysig fod y nyth yn glyd a diddos gan fod rhaid i’r wiwer ymochel ynddo dros nos a thros y gaeaf. Nid yw gwiwerod yn gaeafgysgu ond mae’n rhaid i’r nyth fod yn guddfan rhag rhew a glaw y gaeaf. Mae’r wiwer yn adeiladu mwy nac un nyth felly os yw un yn cael ei chwalu gan y gwynt, mae ganddi gartref arall i symud i fewn iddo.

Yn aml iawn mae gwiwerod yn rhannu nyth, yn enwedig yn y gaeaf, er mwyn rhannu gwres. Mae’r goedwig yn hynod bwysig i’r gwiwerod coch a llwyd ond fodd bynnag, mae’r wiwer coch sydd yn fychan ac ysgafn yn treulio llawer mwy o’i hamser yng nghanopi’r coed tra bod y wiwer lwyd sydd yn drymach ac yn gryfach, yn treulio llawer mwy o’i hamser ar y ddaear. Gan fod y wiwer lwyd yn defnyddio llwyni a thir mwy agored i chwilio am fwyd mae’n gallu lledaenu’n gyflym o un ardal i’r llall.

 

adnoddau iaith gymraeg i ysgolion
  gwaith maes environmental organisation
Gwiwer lwyd
rhywogaeth lwyddiannus a chyffredin
  Gwiwer goch
rhywogaeth brin sydd dan fygythiad

Beth maen nhw’n ei fwyta?

Mae gwiwerod yn bwyta amryw o wahanol fwydydd yn y goedwig gan gynnwys hadau, cnau, mwyar, bylbiau a ffwng. Maent yn casglu bwyd ac yn ei guddio ar lawr y goedwig ac mae’n bwysig eu bod yn creu storfa dda ar gyfer yr adegau hynny pan nad oes llawer o fwyd ar gael.

 

 

 

 

Gweithgareddau

(Mae’r lluniau isod wedi eu creu gan Gareth Pritchard © Menter Môn.)

Mae gwiwerod yn ddibynnol ar lawer o fathau o goed er mwyn cael cyflenwad
cyson o fwyd.

Dyma rai ohonynt:

Coed Derw Mes
environmental education environmental lessons in welsh
Coed Cyll Cnau Barfog
welsh language resources for schools environmental education
Ffawydd Cnau Ffawydd
welsh language resources for schools learning about the environment
Sycamorwydd Had Sycamorwydd
welsh language resources for schools gwaith maes environmental organisation
Coed Pinwydd e.e. pinwydden wyllt Moch Coed
adnoddau dysgu cymraeg adnoddau dysgu cymraeg

 

 

Wrth grwydro o amgylch y goedwig yn ystod yr hydref gellir darganfod nifer
o gnau a hadau a fydd yn fwyd i’r wiwer.

1. Casglwch enghreifftiau o’r rhain i greu “plat bwyd” i’r wiwer.
2. Lluniwch fwydlen dymhorol trwy edrych ar y bwydydd gwahanol sydd ar gael yn ystod y flwyddyn e.e.
 
  gwanwyn – blodau, blagur
haf – rhisgl coed, blodau’r goeden dderw, pryfed
hydref – hadau, cnau
gaeaf – rhisgl coed, ffwng, bwyd a gasglwyd yn ystod yr hydref.
3. Mae dail coed yn ystod yr hydref yn hynod liwgar felly defnyddiwch eich dychymyg
i greu darn o gelf naturiol gyda’r hyn y gallwch ei gasglu o dan y coed.

 

 

Chwarae ditectif


Er nad ydyw bob amser yn hawdd gweld gwiwerod mewn coedwig am eu bod yn treulio llawer o’u hamser yn uchel yn y canopi, maent yn gadael arwyddion ar eu hôl y gall ditectif brwd eu darganfod!

  welsh language resources for schools

Pan yn bwyta moch coed a chnau mae’n rhaid i’r wiwer eu torri er mwyn cyrraedd yr had maethlon oddi fewn ac fel canlyniad mae’n bosib dod o hyd i’r darnau sy’n cael eu taflu
i’r llawr.

Mae gwiwerod hefyd yn cnoi rhisgl ac felly yn aml gellir gweld olion cnoi ar
fonyn coeden.

adnoddau addysg amgylcheddol


Yn ogystal â chwilio am olion bwyd gallwch edrych am olion traed mewn pridd
gwlyb neu eira (gwelir isod) ac wrth gwrs gallwch edrych am y nythod yn y
coed.

adnoddau addysg amgylcheddol   adnoddau dysgu cymraeg

Troed flaen

  Troed ôl

 

Am wybodaeth bellach am wiwerod coch cysylltwch â:

Swyddog Prosiect Gwiwerod Coch Ynys Môn,
Menter Môn,
Stâd Ddiwydiannol Bryn Cefni,
Llangefni,
Ynys Môn
LL77 7XA.
Ffôn 01248 752450

www.redsquirrels.org