Cwestiwn: Sawl MIS sydd mewn BLWYDDYN?
Ateb: DEUDDEG / un-deg-dau (12)
Mae’r flwyddyn yn troi fel olwyn …..
mae’r Nadolig yn dod yn ei dro a’r haf yn dilyn chwe mis wedyn.
Dyma enwau misoedd y flwyddyn yn eu tro.
| 1. Ionawr |
4. Ebrill |
7. Gorffennaf |
10. Hydref |
| 2. Chwefror |
5. Mai |
8. Awst |
11. Tachwedd |
| 3. Mawrth |
6. Mehefin |
9. Medi |
12. Rhagfyr |
Mae pob mis yn wahanol. Mae’r pethau sydd yn digwydd
a’r pethau sydd i’w gweld yn newid bob mis, ac felly gallwn
adnabod adeg y flwyddyn heb edrych ar y calendr.
Mae’r lluniau sy’n dilyn yn dangos rhywbeth sy’n perthyn
i bob mis ond dydyn nhw ddim yn y drefn
gywir e.e Llun 1 – nid
ym mis Ionawr y byddwn ni’n gorwedd ar y traeth yn hanner noeth!
Ar ôl meddwl ac efallai trafod yn y dosbarth,
ysgrifennwch enw’r mis cywir wrth ochr pob llun.
[Byddai gwneud hyn mewn pensil yn syniad da i ddechrau os
ydych chi’n gweithio ar gopi papur ond gallwch newid eich atebion
yn haws ar sgrîn cyfrifiadur. Dydy ffitio pob un i mewn ddim yn
hawdd a gall mwy nag un ateb fod yn gywir weithiau]
Beth arall sydd yn digwydd bob mis?
Meddyliwch yn arbennig am bethau sydd yn digwydd ym myd natur a chefn
gwlad.
Cwblhewch y tabl trwy ysgrifennu brawddeg debyg am bob
mis yn ei dro yn y drefn gywir. Mae dwy enghraifft yno yn barod.
Sylwch: mae angen i bob brawddeg ddechrau gyda Ym
mis ..... [Gallwch wneud llun eich hun neu gael llun o storfa o
fewn eich cyfrifiadur.]
| 1 |
 |
Ym
mis |
| 2 |
 |
Ym
mis |
| 3 |
 |
Ym
mis Mawrth mae'r ffermwyr yn brysur yn y caeau. |
| 4 |
 |
Ym
mis Ebrill mae'r gwenoliaid yn cyrraedd. |
| 5 |
 |
Ym
mis |
| 6 |
 |
Ym
mis |
| 7 |
 |
Ym
mis |
| 8 |
 |
Ym
mis |
| 9 |
 |
Ym
mis |
| 10 |
 |
Ym
mis |
| 11 |
 |
Ym
mis |
| 12 |
 |
Ym
mis |
Dyddiadur y Ditectif Blwyddyn.
Beth am gadw dyddiadur o’r newid sydd yn digwydd
o fis i fis?
Gallwch nodi pob math o bethau sydd yn dangos sut mae’r
flwyddyn yn symud ymlaen. Gallwch gadw llygad ar agor am gliwiau ble bynnag
rydych yn byw, yn y dref ac yn y wlad.
Dyma restr o’r MATH o beth fydd yn bwysig ond byddwch
chi, fel pob ditectif da, yn sylwi ar lawer iawn mwy na hyn.
clywed
y gog (y gwcw)
peiriant torri lawnt am y tro cyntaf
gweld
draenogod (yn fyw neu yn farw ar y ffordd)
gwenoliaid yn casglu ar y gwifrau teliffon
ffermwyr yn torri gwair
defaid wedi eu cneifio
garddwyr yn sgubo dail
yr eira cyntaf ar y bryniau
sylwi
ble mae’r haul yn codi ac yn machlud
pryd mae blodau gwahanol yn agor
pryd mae angen gwres yn y cartref
Oes gennych chi gamera?
Dyna i chi ffordd wych o gofnodi tystiolaeth ddiddorol.
Dim camera?
Ta waeth. Mae pob ditectif yn gorfod dysgu sut i wneud brasluniau a gallwch
chi wneud yr un peth.
Ar ddiwedd
y flwyddyn anfonwch eich dyddiadur at Gwaith Maes.
Mae’n bur bosibl y bydd gwobr neu ddwy i’r goreuon. |
|