TROAD Y RHOD

Gardd yr haf ar Lyn Cwmorthin
|
|
Aeth blwyddyn gron heibio ers y cam arloesol o gyhoeddi gwerifyn cyntaf Gwaith Maes ddiwedd Tachwedd llynedd, ac yn wir, mae llawer o’n deunydd y tro hwn ac iddo nodyn tymhorol .... y misoedd, y tywydd, ac adar ac anifeiliaid sydd â phatrwm eu bywyd yn gaeth i gylch y tymhorau. |
Ar ôl hen wanwyn diflas, tua diwedd Mai neu ddechrau Mehefin, byddech yn sicr o glywed fy mam yn gwneud y sylw gobeithiol “’Falle daw’r t’wydd yn well ‘da troad y rhod.” Iddi hi a’i chyfoedion yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin fel ym mhob rhan arall o Gymru, yr oedd cylch y flwyddyn yn rhan annatod o fywyd. Y drefn oedd gofalu am gael llwyth o lo i mewn cyn y gaeaf, a thaenu cwrlid ychwanegol ar y gwely pan ddeuai’r barrug cyntaf, nid cynnau’r gwres canolog mor ddidrafferth. Faint o blant heddiw sydd yn clywed gorfoledd côr y wawr bob gwanwyn trwy ffenestri gwydr dwbl eu llofft? Erbyn hyn mae’n rhy hawdd colli golwg ar galendr natur.

Celfyddyd y gaeaf ar y Bannau
|
|
Yn dilyn ein trefn arferol, symudwyd y rhan fwyaf o gynnwys y rhifyn blaenorol, sef Clawdd a Chae, i’r ffolderi priodol, ond cynhwysir darn Y Carlwm Gwyn eto yn y rhifyn newydd gan ein bod ar drothwy tymor gwynder y carlwm. |
Sylwch hefyd ein bod wedi cadw’r gystadleuaeth ar agor tan ddiwedd Ebrill 2003 er mwyn rhoi mwy o gyfle i ysgolion yrru eu cynnyrch atom.
Datblygiad newydd y tro hwn ydy cynnig cyfle i ddefnyddwyr Gwaith Maes gysylltu'n ryngweithiol ar y safwe ei hun
(gweler y botwm CYSYLLTU) Bu'r cynllun hwn ar y gweyll o'r cychwyn, ond dim ond yn awr y mae'r cyllid gennym i'w wireddu. Yn ogystal â hyn, sefydlwyd nifer o gysylltiadau byw gyda nifer o gyrff a mudiadau sydd yn cydweithio â ni (gweler y botwm CYSYLLTIADAU) Felly, ar ddiwedd cylch blwyddyn lawn, mae'n braf cael dangos nad olwyn sydd yn troi yn ei hunfan yw Gwaith Maes ond un sydd yn symud ymlaen o hyd i gyfeiriadau newydd.
Cyfrifoldeb athrawon yw asesu peryglon unrhyw weithgaredd neu ymweliad. |
|
Cliciwch ar teitl
i fynd ymlaen |
|