learning about the environment

Erbyn diwedd mis Ebrill bydd y rhan fwyaf o'r adar a fu'n gaeafu yn Affrica wedi dychwelyd atom i nythu. Bydd pawb yn edrych ymlaen at groesawu'r wennol, y gôg, telor yr helyg a nifer fawr o adar eraill oherwydd eu bod yn arwydd bod y gwanwyn wedi cyrraedd o ddifrif o'r diwedd.

Tybed a ydych wedi meddwl am y daith enbyd y mae'r adar druan yn gorfod ei mentro i gyrraedd Cymru? Bydd y wennol yn hedfan yr holl ffordd i Dde Affrica.

Beth am edrych yn fanylach ar ei thaith hi a rhai o'r gwledydd y mae'n eu croesi wrth ymfudo?

learning about the environment

Pam ymfudo?
Pryfed sy'n hedfan yn yr awyr yw bwyd y wennol ac nid yw'r rhain ar gael oni bai bod tymheredd tua 10oC neu'n uwch. Dim ond dros fisoedd yr haf y digwydd hyn yng Nghymru. yn ystod ein gaeaf ni, pan fydd bwyd yn brin yma, bydd yn haf cynnes, llaith yng nghanolbarth a De Affrica gyda digonedd o bryfed ar gael i'r wennol. Mae'n werth ymfudo yno, felly. Yn wir, does gan yr aderyn ddim dewis. Mae'n rhaid ymfudo neu lwgu!

Yna, pan ddaw'n haf yma, bydd yn troi'n dymor sych yn neheubarth Affrica a'r pryfed yn prinhau yno. Bydd y gwenoliaid yn hedfan yn ôl i Ewrop a Chymru bryd hynny i gael digon o fwyd dros yr haf.

Amser y daith
Mae'r amser a gymer y daith yn dibynnu ar y tywydd a faint o fwyd sydd ar gael. Os bydd digon o bryfed yn dal ar gael, fe arhosa'r gwenoliaid yn hwyrach nag arfer cyn ymfudo. Byddant yn aros yn y De am oddeutu pedwar mis cyn cychwyn yn eu holau tua diwedd Chwefror gan gyrraedd Cymru ganol Ebrill.

 

 

Y daith i Gymru

Edrychwch yn fanwl ar atlas a cheisiwch ddarganfod cymaint â phosibl am y gwledydd y mae'r gwenoliaid yn teithio drostynt.

1. De Affrica a Lesotho
Llwyfandir uchel sy'n gymysgedd o diroedd amaethyddol a phaith agored. Hinsawdd debyg i Ewrop. Bydd heidiau o wenoliaid yn hela pryfed ger yr afonydd a'r llynnoedd.

2. Botswana a Zimbabwe
Wrth gychwyn yn ôl i Gymru, byddant yn osgoi anialwch y Kalahari i'r gorllewin ac yn dilyn afonydd fel y Zambezi tua'r gogledd.

3. Angola a Zambia
Llawer o dir agored ffrwythlon. Mae'n troi'n fwy coedwigol tua'r gogledd.

  educational resources for welsh teachers
adnoddau iaith gymraeg i ysgolion  

4. Zaire, Congo, Gabon, Cameroon
Y gwledydd trofannol o gwmpas y Cyhydedd lle ceir coedwigoedd trwchus.

5. Nigeria
Tir ffrwythlon a choediog yn y de ond try'n grastir y Sahel yn y gogledd. Bydd y gwenoliaid a llawer o adar eraill yn aros ymo i ymbesgi am ysbaid cyn mentro wynebu rhan anhawsaf eu taith, sef croesi anialwch y Sahara.

6. Niger, Mali, De Algeria
Yma mae anialwch tywodlyd y Sahara yn ymestyn am tua 1500 o filltiroedd. Bydd y gwenoliaid yn hedfan yn uchel a chyflym drosto gan deithio tua 250 milltir y dydd. Byddant yn glanio i hel pryfed pan welant werddon (oasis) gan aros diwrnod neu ddau yno efallai cyn mentro ymlaen. Pan sychodd amryw o'r gwerddonau hyn yn ddiweddar, bu llawer o adar farw o newyn ar eu taith.

7. Morocco, Gogledd Algeria
Mae'n ganol Mawrth erbyn hyn a byddant yn gorffwyso am ychydig yma ar ôl croesi'r anialwch.

8. Sbaen a Ffrainc
Symudant yn raddol tua'r gogledd gan aros i'r tymheredd gynhesu digon i bryfed hedfan. Mae'n rhaid cael digon o fwyd yn awr i gael nerth ar gyfer tymor prysur y nythu a'r magu cywion.

9. De Lloegr, Cymru
Cyrhaeddant Wynedd tua chanol Ebrill fel rheol. Ambell flwyddyn yn gynharach os bydd y tywydd wedi cynhesu digon, neu weithiau'n hwyrach os bydd yn oer.

Pan welwch y wennol gyntaf, meddyliwch am ei thaith hir a'r gwledydd y mae wedi eu gweld.

lluniau gan Ann Thomas