Pa adar sydd yn defnyddio llynnoedd llwm Eryri yn y gaeaf? Ydyn nhw’n amrywio o lyn i lyn, o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn? Yn y cyfnod 1986-95 bum yn cyfri un-ar-ddeg o rywogaethau ar y llynnoedd bob mis o’r gaeaf er mwyn ceisio ateb y cwestiynau hyn. Fe wnes i’r gwaith trwy deithio o lyn i lyn, gan aros i gyfri lle roedd y golygfeydd gorau o’r llynnoedd.

Ni chyhoeddais y canlyniadau o’r blaen, na chwaith hyd yn oed eu dadansoddi’n drylwyr, felly dyma gyfle i fyfyrwyr Gwaith Maes ddefnyddio data go iawn mewn ymchwil wyddonol ddilys. Ar gyfer ysgolion, yn bennaf dim ond pum rhywogaeth dros bum gaeaf sydd dan sylw, ond os hoffech dddefnyddio’r holl ddata, cysylltwch â mi: Dn.Brown@ccw.gov.uk Byddwn hefyd yn croesawu canlyniadau eich ystyriaeth.

Y 5 rhywogaeth dan sylw:

Cymraeg
Saesneg
Lladin
Hwyaden wyllt
Mallard
Anas platyrhynchos
Hwyaden gopog
Tufted duck
Aythya fuligula
Hwyaden bengoch
Pochard
Aythya ferina
Hwyaden lygad-aur
Goldeneye
Bucephala clangula
Cwtiar
Coot
Fulica atra

 


Cwtiar
Llun: RSPB
 

Y mae nifer o’r ymarferion yn ymwneud â’r cwtiar. Aderyn o deulu’r iar ddŵr ydy’r cwtiar, yn hawdd ei adnabod gyda phlu du a thalcen gwyn. Mae cwtieir yn plymio yn aml, yn gwneud twrw a ffwdan mawr ac yn enwog am gweryla ac ymladd ymysg ei gilydd.

Mwy o wybodaeth
Agorwch www.rspb.org.uk/coot neu chwiliwch mewn llyfr adar safonol.
I weld lluniau a dysgu mwy am yr adar eraill agorwch safwe RSPB eto, gan gofio newid enw’r rhywogaeth (Saesneg) bob tro e.e. www.rspb.org.uk/pochard
neu wrth gwrs, chwiliwch ymhellach yn eich llyfr.

 

 

 

Ymarfer 1

Gan ddefnyddio’r graff canlynol (Ffig.1) atebwch y cwestiynau isod am boblogaeth cwtieir ar y gwahanol lynnoedd.

 

1. Ar ba lyn y cyfrifwyd y nifer mwyaf o adar?
 

Ateb:

   
2. Beth ydych chi’n sylwi am boblogaeth cwtieir Dinas a’r Gadair?
 

Ateb:

   
3. Ym mha ffordd mae Peris yn wahanol i’r pum llyn arall?
 

Ateb:

   
4. Faint mwy o gwtieir oedd ar Padarn o’i gymharu â Chwellyn?
 

Ateb:

 

Ffig. 1:

 

 

 

 

 

 

Ymarfer 2

Atebwch y cwestiynau hyn gan ddefnyddio’r graff isod (Ffig. 2) sy’n dangos y newid ym mhoblogaeth cwtieir yr holl lynnoedd rhwng misoedd Hydref a Mawrth.

 

1. Ym mha fis oedd y nifer mwyaf o gwtieir i’w gweld yno?
 

Ateb:

   
2. Rhwng pa ddau fis y digwyddodd y newid nifer mwyaf?
 

Ateb:

   
3. Pam, yn eich barn chi, oedd y boblogaeth yn uwch ym mis Ionawr nag yn y misoedd eraill?
 

Ateb:

   
   
   
4. Ydych chi’n meddwl bod llawer o gwtieir yn magu ar y llynnoedd dros yr haf?
Rhowch reswm dros eich hateb.
 

Ateb:

   
   

 

Ffig. 2:

 

 

 

 

 

 

Ymarfer 3

Gan gyfeirio at Atodiad Data 1, atebwch y cwestiynau canlynol.

1. Beth oedd nifer mwyaf y cwtiar ar Lyn Gwynant ym 1991-92?
   
 

Ateb:

   
2. Ar wahân i’r cwtiar, pa aderyn oedd y mwyaf niferus ar Lyn Padarn?
   
 

Ateb:

   
3. Pa aderyn oedd y mwyaf niferus ar Lyn Dinas?
   
 

Ateb:

   
4. Ar pa lyn oedd yr hwyaden bengoch y rhywogaeth mwyaf niferus?
   
 

Ateb:

   
5. Pa rywogaeth oedd y mwyaf annhebyg o gael ei gweld o gwbl?
   
 

Ateb:

   
6. Pa aderyn gafodd ei weld un flwyddyn yn unig ar Lyn Gwynant?
   
 

Ateb:

   
7. Pa flwyddyn oedd yr un orau i’r hwyaden lygad-aur ar Lyn Cwellyn?
   
 

Ateb:

   
8. Pa flwyddyn y cofnodwyd y nifer mwyaf o hwyiaid gwyllt ar unrhyw lyn?
   
 

Ateb:

   
9. Pa rywogaeth oedd yn anarferol o brin ar Lyn Padarn ym 1988-89?
   
 

Ateb:

   
10. Ar ba lyn gafodd yr hwyaden lygad-aur ei blwyddyn orau ym 1990-91?
   
 

Ateb:

 

 

 

Atodiad Data 1: CYFRIFIAD HWYIAID AR 5 O LYNNOEDD CYLCH YR WYDDFA DROS Y GAEAF 1988–1993: y nifer mwyaf a welwyd ar unrhyw un adeg.

Llyn

Aderyn

1988-9
1989-0
1990-1
1991-2
1992-3
LLYN CWELLYN
         
Hwyaden
wyllt
7
10
8
7
6
Hwyaden
gopog
0
3
4
3
2
Hwyaden
bengoch
6
6
33
17
42
Hwyaden
lygad-aur
0
2
3
1
0
Cwtiar
10
19
32
30
14
LLYN DINAS
         
Hwyaden
wyllt
13
11
26
9
15
Hwyaden
gopog
0
1
0
6
11
Hwyaden
bengoch
48
35
51
19
26
Hwyaden
lygad-aur
1
1
3
3
2
Cwtiar
10
21
5
6
3
LLYN Y GADAIR
         
Hwyaden
wyllt
8
2
6
5
3
Hwyaden
gopog
2
8
2
13
2
Hwyaden
bengoch
24
13
6
16
10
Hwyaden
lygad-aur
0
0
1
0
0
Cwtiar
16
9
3
13
11
LLYN GWYNANT
Hwyaden
wyllt
1
6
8
7
7
Hwyaden
gopog
0
2
0
0
0
Hwyaden
bengoch
13
35
28
33
51
Hwyaden
lygad-aur
0
0
1
1
0
Cwtiar
33
23
14
10
11
LLYN PADARN
Hwyaden
wyllt
0
19
19
10
22
Hwyaden
gopog
45
14
32
29
32
Hwyaden
bengoch
6
5
10
12
15
Hwyaden
lygad-aur
0
0
0
2
3
Cwtiar
63
80
77
111
36

 

 

 

Ymarfer 4

Yn ôl yr Ysgrythur, “Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn,” – ac nid ar ddŵr yn unig y bydd byw hwyiaid, chwaith.

Tybed pa ffactorau sydd yn dylanwadu ar niferoedd amrywiol cwtieir ar y llynnoedd?
Gan ddefnyddio Atodiad Data 2 isod a chymharu ei gynnwys â Ffigur 1 (Canrannau cwtieir) atebwch y cwestiynau canlynol:

1. O edrych ar y data ar gyfer a) Padarn a Pheris b) Dinas a’r Gadair,
a oes tystiolaeth fod uchder uwch lefel y môr yn effeithio ar niferoedd
yr adar?
   
2. Ydy arwynebedd y llynnoedd yn effeithio ar y niferoedd? Defnyddiwch y data ar gyfer a) Padarn a Chwellyn b) Dinas a’r Gadair.
   
3. Ai hyd y glannau ydy’r ffactor bwysicaf? Ystyriwch y ffigyrau ar gyfer
a) Padarn a Chwellyn b) Dinas a’r Gadair.
   
4. Ydy’r diffyg cwtieir ar Lyn Peris yn eich synnu? Gan ddefnyddio Atodiad Data 2,i ba un o’r llynnoedd canlynol fyddech chi’n disgwyl i niferoedd Llyn Peris fod yn debyg? a) Padarn b) Gwynant c) Dinas
Esboniwch PAM yr ydych o’r farn hon.
   
5. Pa ffactorau eraill na sydd yn ymddangos ar Atodiad Data 2 allai fod wedi dylanwadu ar y niferoedd? Ceisiwch restru 3 neu 4, gan esbonio SUT y byddent efallai wedi cael effaith.

 

Atodiad Data 2

Llyn
Uchder uwch y môr (m)
Arwynebedd (ha)
Hyd y glannau(m)
Padarn
106
100
7775
Peris
107
50
4323
Gwynant
66
44
3331
Dinas
55
29
2985
Gadair
185
19
1995
Cwellyn
142
90
4447

6. O ystyried yr wybodaeth ganlynol am Lyn Peris, cynigiwch esboniad am ddiffyg cwtieir arno, gan gyfeirio yn ôl at eich hateb i gwestiwn 4 uchod.

Llyn Peris

Cafodd diwydiant gryn effaith ar Lyn Peris dros y blynyddoedd. Newidiwyd rhannau helaeth o’r glannau gan i wastraff llechi o Chwarel Dinorwig gael ei dipio iddo, ac yn fwy diweddar, cafodd adeiladu Gorsaf Bŵer Dinorwig effaith fawr.

Bu rhaid gwagio’r llyn yn gyfangwbl am dair mlynedd, ac mae lefel y dŵr yn codi a gostwng yn rheolaidd pan mae’r orsaf yn gweithio.