
| Mae’r rhan fwyaf ohonom
yn hoffi ymweld â’r traeth yn awr ac yn y man,
yn enwedig yn yr haf.
Rydym yn ystyried traethau fel llefydd i dorheulu, i chwarae
pêl-droed neu griced, neu i fynd am dro. Ond, i nifer
o blanhigion ac anifeiliaid, dyma eu cartref, y lle maent
yn byw ac yn bod ynddo.
|
Er hyn, mae’n anodd credu bod unrhyw beth yn digwydd wrth
eistedd ar draeth prysur yng nghanol yr haf. Mae’r gwymon
yn gorwedd yn llipa, does dim yn symud yn y pyllau dŵr, a’r
unig beth o ddiddordeb i’r adar yw hufen iâ Mamgu.
Ond edrychwch eto, yn fwy manwl. Mae’n rhaid bod y creaduriaid
hyn yn byw ar rywbeth, ond ar beth? Yr ateb, wrth gwrs, yw ar ei
gilydd.
Edrychwch ar y we fwyd isod.

Defnyddiwch yr wybodaeth i lunio 3 cadwyn
fwyd wahanol.
Er enghraifft:
Gwymon |
|
Llygad maharen |
|
Pioden fôr |
| |
|
|
|
|
| |
|
|
|
|
| |
|
|
|
|
Edrychwch
eto ar y we fwyd.
Ble byddech chi yn gosod pobl ac â beth y gallwch eu cysylltu?
Lluniwch gadwyn fwyd sydd yn cynnwys pobl.
Yn awr, edrychwch ar y wybodaeth ganlynol am y diwydiant
pysgota, a cheisiwch ateb y cwestiynau.
| Cychod bach yn cael eu defnyddio. Pysgotwyr
yn dilyn morfilod ac adar i ddod o hyd i fwy o bysgod |
Ail Ryfel Byd |
Llongau â thechnoleg “sonar” i
leoli heigiau pysgod |
Llongau ffatri mawr gyda rhewgelloedd |
Rhwydi ag offer sugno ar y pen |
Niferoedd rhai pysgod wedi gostwng o dan y lefel
biolegol diogel |
Pysgod iau a llai o faint yn cael eu dal a’u
gwerthu |
 |
1930 |
1940 |
1950 |
1960 |
1970 |
1980 |
1990 |

Cwestiynau
| 1 |
Pam na chafodd cymaint o bysgod eu dal rhwng 1939 a 1945? |
| 2 |
Pam fod cymaint mwy wedi cael eu dal yn ystod y 60au a’r
70au? |
| 3 |
Pam fod nifer y pysgod oedd yn cael eu dal wedi gostwng
erbyn 1980? |
| 4 |
Beth yw ystyr o dan lefel biolegol diogel? |
Atodiad 2003
Erbyn heddiw, mae llawer o bryder am brinder pysgod yn y moroedd
pysgota
traddodiadol ac mae gwyddonwyr yn ofni y bydd rhai rhywogaethau
cyfarwydd wedi
diflannu’n llwyr cyn hir.
Beth allwn ni ei wneud i wella’r sefyllfa a sefydlu strategaeth
ar gyfer
pysgota cynaliadwy?
Nid mater hawdd yw dod o hyd i ateb cytbwys, teg.
Dyma rai sylwadau amrywiol i chi eu hystyried:
Rhaid rhwystro pysgotwyr rhag dal rhai mathau
o bysgod o gwbl mewn rhai mannau.
|
| Mae pysgod yn dda i ni a dylem fod yn bwyta
mwy fel bwyd iach. |
| Dylai pris pysgod godi fel na fyddai ond
ychydig o bobl yn medru fforddio eu prynu. |
| Byddai miloedd o bysgotwyr
a’u teuluoedd yn dioddef oherwydd colli eu bywoliaeth
pe bai pysgota yn cael ei atal. |
| Dylem ffermio mwy o bysgod
i’w gwerthu. |
| Byddai atal pysgota yn dinistrio
ffordd werthfawr draddodiadol o fyw yng ngwledydd
Gogledd Ewrop megis yr Alban a Norwy. |
| Rhaid edrych ar ddulliau pysgota
a datblygu rhai sy’n amharu llai ar fywyd y môr. |
Dyna i chi ddadl!
Pwy sydd yn iawn?
Oes yna atebion eraill?
Gwaith trafod
|
Mewn grŵpiau trafodwch y syniadau uchod a
cheisiwch benderfynu beth fyddai’r ffordd
orau o gynnal y pysgod a’r pysgotwyr.
Fedrwch chi gynnig unrhyw syniadau gwreiddiol
eich hunain?
(Nid mater i wyddonwyr a gwleidyddion yn unig yw hwn. Mae adnoddau fel bwyd
y môr yn bwysig i bawb, a rhaid datblygu dulliau cynaliadwy o’u
datblygu.) |
|