Sawl un ohonom sy’n hoffi edrych ar yr adar yn bwydo yn ein gerddi, y fwyalchen yn sathru ar y lawnt tra’n ceisio denu pry genwair i’r wyneb, neu’r robin goch yn hercian o gwmpas yn chwilio am bryd? Neu efallai mai’r pili pala sy’n eich diddanu wrth hedfan yn ysgafn o flodyn i flodyn yn bwydo ar y neithdar. Pa un bynnag sy’n ffefryn gennych, mae cyfle i chi gynnig llawer mwy i’r bwyd gwyllt yn eich gardd drwy ddarparu ar eu cyfer!

Drwy arddio ar gyfer bywyd gwyllt mae modd i chi ddatblygu gwarchodfa natur i chi eich hunan, boed yng ngardd yr ysgol, neu adref yn yr ardd gefn. Ewch ati i geisio denu y mwyaf posib o fywyd gwyllt i’ch gardd drwy ddilyn y deg cam isod.


10 AWGRYM AR SUT I DDENU BYWYD GWYLLT

1 Plannwch y math o flodau sy’n llawn neithdar i fwydo glöynnod byw a phryfed, a rhai s’yn cynhyrchu hadau a ffrwythau ar gyfer adar, yn hytrach na rhai heb neithdar sydd felly’n dda i ddim i fywyd gwyllt.

2 Ceisiwch leihau’r defnydd o bla-leiddiaid oherwydd maent yn lladd creaduriaid da yn ogystal â’r rhai drwg. Gwell fyddai gweithio gyda natur yn hytrach nag yn ei erbyn.

Gadewch i’r pry hofran, y fuwch goch gota a’r draenog
reoli pla ar eich rhan. Bydd hynny’n well i fywyd gwyllt,
yr amgylchedd ac i chwithau.

  Celyn yn wledd i’r adar

3 Adeiladwch dwmpath o foncyffion a thomen gompost a fydd yn rhoi lloches a bwyd i fywyd gwyllt ac yn rhoi maeth yn ôl ’r ardd. Os defnyddiwch gompost ‘cartref’ yn lle mawn, fe allech fod yn arbed cynefin sydd wedi mynd yn eithaf prin erbyn hyn yn sgîl cloddio’r mawn.

4 Beth am greu pwll dŵr yn eich gardd?
Fe fydd yn siwr o ddenu bywyd gwyllt, os nad oes pysgod ynddo. Dylai un o ymylon y pwll fod yn llethr graddol fel y gall creaduriaid fynd i mewn ac allan o’r dŵr yn hawdd. Cofiwch blannu planhigion ar o leiaf un ochr y pwll.

 

Ar ôl y llafur a’r chwysu daw …

llenwi … a phlannu … a mwynhau

5 Ceisiwch sicrhau fod gennych blanhigion yn blodeuo drwy’r flwyddyn. Anelwch at gael o leiaf un math o blanhigyn sy’n denu bywyd gwyllt i flodeuo bob mis. Bydd hyn yn rhoi mwynhad i chi ac yn gadael i’r pryfetach gael neithdar.

6 Bwydwch yr adar – mae’n iawn eu bwydo trwy’r flwyddyn. Byddant yn bwyta pryfed plagus tra’n disgwyl eu tro wrth y bwrdd adar!

7 Gosodwch focs nythu i’r adar mewn man cysgodol sy’n gwynebu’r dwyrain ac sydd allan o gyrraedd cathod.

8 Cewch fwy o löynnod byw, pryfed hofran (sy’n bwyta llyslau plagus) a gwenyn yn ymweld â’ch gardd os plannwch planhigion i’w denu mewn mannau heulog a chysgodol.

9 Gadewch i’r iorwg / eiddew dyfu – mae’n rhoi cysgod i adar ac yn cynhyrchu neithdar ddiwedd y gaeaf, ac aeron yn gynnar yn y gwanwyn, pan fo bwyd yn brin i’r adar.

10 Plannwch nifer o blanhigion parhaol mewn clwstwr trwchus a gadael iddynt dyfu heb darfu arnynt. Bydd hyn yn galluogi madfallod dŵr a llyffantod lochesu a chwilio am fwyd.

Os yw eich ysgol chi o fewn, neu yn agos at ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, pan na wnewch chi ymuno â Chystadleuaeth Gardd Fywyd Gwyllt Orau Eryri.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i ysgolion ac i erddi preifat, gyda siawns o ennill hyd at £400 am yr ardd fuddugol!

Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth ac am arddio bywyd gwyllt,
cysylltwch â:

Ifer Gwyn,
Swyddog Garddio Bywyd Gwyllt Eryri,
Plas Tan y Bwlch,
Maentwrog,
Blaenau Ffestiniog, GWYNEDD,
LL41 3YU.

Ffôn: 01766 590 324
E-bost: ifer.gwyn@eryri-npa.gov.uk