Fferm Hafod y Llan, gyda waliau cerrig
wedi eu hadnewyddu yn y dull traddodiadol

Wrth ystyried ardaloedd mynyddig Eryri mae pobl yn tueddu i ganmol y ‘tirlun naturiol’ ond y gwir yw bod y tirlun rydym yn ei edmygu heddiw yn ganlyniad i ganrifoedd o weithgaredd pobl a ffermio’n bennaf. Dros ganrifoedd mae patrymau ffermio gwahanol wedi bodoli, megis clirio coedlannau, codi waliau cerrig sychion i greu’r ‘ffridd’ (y rhan o dir rhwng llawr gwlad a chyrrau ucha’r mynyddoedd) ac yn fwy diweddar, patrymau sydd wedi datblygu o ganlyniad i’r system cymorthdaliadau. Mae’r systemau gwahanol hyn i gyd wedi effeithio’n fawr ar eco- system naturiol yr ardal.


Hafod y Llan

Mewnbynnau naturiol

Tir mynydd garw – glaswelltir asidaidd, gwael

Mae fferm Hafod y Llan, Nantgwynant, yn enghraifft o fferm tir uchel ‘draddodiadol’ sydd yn gwneud astudiaeth achos da ar sut mae gweithgaredd pobl wedi effeithio ar ecosystem naturiol. Mae fferm Hafod y Llan yn cynnwys 1025 hectar o fynydd-dir yn ymestyn hyd at gopa’r Wyddfa. Mae creigiau gwaelodol Hafod y Llan yn gymysgedd o greigiau igneaidd a gwaddodol yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Ordofigaidd. Creigiau asid a geir yma’n bennaf.

Oherwydd y graig waelodol, llawer iawn o law, a’r trwytholchi sy’n digwydd yn sgîl hynny, mae pridd y ffriddoedd a’r ardaloedd mynyddig eraill yn hynod asidaidd a diffygiol yn y bôn. Glaswelltir asidaidd sy’n gorchuddio rhan fwyaf y tir; dim ond ar y caeau isaf y ceir glaswelltir wedi ei wella’n amaethyddol. Felly ffermio ymylol sy’n bodoli.

 

Gweithgaredd pobl

Mae fferm Hafod y Llan yn dangos ymateb ffermwyr y gorffennol i ofynion gwleidyddol, economaidd ac, yn fwy diweddar, i ofynion amgylcheddol.

O ganol y 1950au ymlaen talodd y Llywodraeth gymorthdaliadau i gynyddu cynnyrch a chynnal strwythur ardaloedd gwledig. Daeth rhagor o gefnogaeth ariannol i amaethu yn sgîl ymuno â’r Farchnad Gyffredin Ewropeaidd yn y 1970au. Buddsoddodd rhai ffermwyr eu hincwm mewn prynu rhagor o dir gan gynnwys tir llawr gwlad ac yn y cyfnod hwn ehangodd Hafod y Llan wrth i ffermydd Bwlch a Gelli Iago ddod yn rhan o stad hynod o gynhyrchiol. Cynyddodd niferoedd defaid y fferm yn fawr. Canlyniad hyn oedd gor-bori difrifol. Bu effaith niweidiol ar ecosystemau naturiol y tir a gostyngiad ym mioamrywiaeth yr ardal yn sylweddol.

 

Coedlan Hafod y Llan – daw adfywiad yn sgîl rheolaeth sensitif

Nid oedd y rhan fwyaf o goedwigoedd yn gallu adfywio’u hunain bellach ac yn nychu hyd at farw.

Bu i ardaloedd gwaendir a gwlyptir leihau’n fawr gan achosi i niferoedd llawer o adar blymio.

Mae gweithgareddau pobl - effaith anifeiliaid yn pori yn yr achos hwn - wedi dylanwadu’n fawr ar lystyfiant tir y mynyddoedd.

 

 

Materion economaidd

Er fod effaith amaeth i’w weld yn glir ar dirlun cefn gwlad mae economi ardaloedd cefn gwlad yn dibynnu’n llai a llai ar gyflogaeth amaeth.

Llafurlu mewn amaeth ym Mhrydain

1800au – 40%
1967 – 6%
1990au – 2%

Er fod 80% o Gymru yn cael ei hystyried yn ‘gefn gwlad’ ym 2001 dim ond 15% o’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad sydd yn gweithio mewn amaeth.
Mae gwerth allbynnau amaeth hefyd yn gostwng yn flynyddol – cyn belled â 1% CMC Prydain Fawr ym 2001.

 

Newidiadau ym myd amaeth

Mae amaethyddiaeth yn mynd drwy gyfnod o newid mawr.

  • Ers y 1990au mae cynlluniau amaeth amgylcheddol (megis Tir Gofal) wedi bodoli. Mae cynlluniau tebyg yn annog ffermwyr i ffermio’r tir gan ddefnyddio dulliau mwy sensitif i’r amgylchedd tra’n ennill arian am wneud hynny.
  • Mae dulliau arallgyfeirio e.e. twristiaeth neu fusnes o gartref fel dull o godi incwm fferm hefyd yn cael eu hystyried fwyfwy gan ffermwyr.
  • Ar yr un pryd bu newid mewn canfyddiad llawer o ddefnyddwyr eraill cefn gwlad – twristiaid, cerddwyr, cadwraethwyr, trigolion cefn gwlad. Maent wedi sylweddoli bod mwy i gefn gwlad nag amaeth yn unig ac maent yn gweld budd i bawb trwy wella’r amgylchedd.

 

Rheolaeth Hafod y Llan yn ymateb i’r newidiadau

Ers 1998 pan brynwyd ystâd Hafod y Llan gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dilyn yr apêl gyhoeddus lwyddiannus mae rheolaeth tir uniongyrchol wedi golygu bod dulliau mwy amgylcheddol sensitif wedi dod i rym.

  • Cychwynnodd rhaglen amaeth amgylcheddol ym Medi 2000 mewn partneriaeth gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru gyda’r bwriad o geisio gwella ansawdd cynefinoedd. Y nod yw cynyddu’r bioamrywiaeth. Y prif ddull o gyflawni hyn yw lleihau nifer y defaid yn sylweddol ac ail-gyflwyno gwartheg i bori'r tir – mae gwartheg yn bwyta amrywiaeth mwy eang o lystyfiant na defaid.
  • Mewn partneriaeth gyda’r Comisiwn Coedwigaeth bydd coedlannau Hafod y Llan a thir pori’n cael cyfle i adfywio ac ymestyn.
  • Bydd cynnyrch organig ar werth o Hafod y Llan o 2003 ymlaen fel canlyniad i’r tir ffermio gael ei glustnodi fel tir organig.
  • Mae cynllun gwerthu ŵyn yn uniongrychol wedi ennyn ymateb ffafriol i’r syniad gan brynwyr.
  • Mae maes pebyll yn dod ag incwm ychwanegol i’r fferm ac ystyrir dulliau arallgyfeirio.

Gwartheg duon yn pori er lles bioamrywiaeth

 

Dyfodol ffermio

Mae llawer yn cytuno mai adfywio cefn gwlad trwy ddatblygiad cynaliadwy – yn cwmpasu agweddau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol – yw’r ffordd i symud ymlaen ac mae llawer o ffermydd, megis Hafod y Llan, wrthi’n gwireddu hyn.

 

Casglu defaid wrth droed yr Wyddfa ar dir Hafod y Llan

 

I drefnu ymweliad â Hafod y Llan yng nghwmni Swyddog Addysg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol cysylltwch â:

Y Swyddog Addysg, Canolfan Deilen Las, Beddgelert, Caernarfon, Gwynedd
LL55 4NG. Ffôn/Ffacs: 01766 890664

Mae’r ganolfan yn gyfleus iawn o Lanllyn a Phlas Tan y Bwlch, a hawdd fyddai cyfuno astudiaeth o agwedd arall ar Eryri - daeareg Cwm Idwal, dyweder - gydag ymweliad â Beddgelert.