
Y mae’r atebion i’r cliwiau yn cuddio yn y pôs,
felly cewch ddwywaith gymaint o hwyl wrth ateb y cwestiynau ac
yna dod o hyd i’r atebion hynny yn y chwilair.
CLIWIAU
| 1 |
Cefnder y cranc, bwyd drud, coch. |
| 2 |
Plu gwyn a llwyd, pig melyn, traed tebyg i rai hwyaden, yn
bwydo ar y môr,
y traeth neu domen sbwriel. |
| 3 |
Cigysydd gyda rhesi
o ddannedd miniog, ond na sydd yn haeddu ei enw drwg. |
| 4 |
Creadur gyda phum braich a thros ddau gant o draed. |
| 5 |
Planhigyn morol, coch, brown neu wyrdd, ar waelod y gadwyn
fwyd. |
| 6 |
Cartref i anifeiliaid corff meddal, mewn un neu ddau hanner,
o bob maint,
lliw a siap. |
| 7 |
Creadur a chanddo bum pâr o goesau sy’n symud
wysg ei ochr. |
| 8 |
Yr anifail mwyaf yn y môr. |
| 9 |
Creadur a chanddo wyth coes hir sydd yn chwistrellu inc. |
| 10 |
Anifail mawr, llwydlas, heb draed, pysgotwr a nofiwr o fri,
sy’n hoffi torheulo
ar greigiau ac ar y traeth. |
Cliciwch yma am yr atebion
|