allgyrchiol …… centrifugal
gwrteithio …… fertilise
carthion …… sewage
llifolchi …… flush
datgymalu …… decompose
llygru …… pollute

Wrth i ni ddefnyddio’r toiled does dim rhaid i ni ddefnyddio’r system gyhoeddus o waredu carthion o gwbl. Mae gwaredu’r holl garthion yn broblem enfawr, ac y mae llawer o feirniadu ar wledydd sydd yn llygru’r moroedd trwy wneud hyn. Mae gennym ni yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen brofiad dros chwarter canrif o ailgylchu carthion a’u prosesu i wrteithio cnydau organig.

Mae’r toiledau newydd yn y Ganolfan wedi eu gwneud o bridd, eu hinswleiddio â gwlân defaid a’u cynhesu gan system solar. Yn y bloc cewch ddau fath o doiled, un “normal” ac un compost. Dydy’r un “normal” ddim mor normal â hynny chwaith gan mai’r unig ddŵr sydd yn mynd yn agos at doiled-sefyll y dynion yw dŵr y defnyddiwr ei hun! Ac ychydig iawn o ddŵr – dŵr glaw glân, wrth gwrs - sydd ei angen i lifolchi y toiled-eistedd, diolch i’w system glyfar wedi ei seilio ar ddefnyddio grym allgyrchol i wahanu’r rhannau soled oddi wrth yr hylifau. Bacteria naturiol yn unig sydd yn gyfrifol am ddatgymalu’r rhannau soled. Nid twll o le oer, drewllyd, yng ngwaelod yr ardd mo’r toiled hwn, ond tŷ bach clyd, persawrus.

Math traddodiadol o doiled compost Yr “Aquatron,” yn gwahanu’r baw o’r hylif
   
Y toiled compost Dyma lle mae’r carthion yn troi’n wrtaith organig
 
 
1 Toiledau llifolch isel iawn.
Dim ond 20% o ddŵr toiled cyffredin a ddefnyddir gan y toiledau hyn.
2 Toiled compost.
Dyma’r math diweddaraf o doiled compost sydd yn cynhyrchu compost dros gyfnod o ddwy flynedd.
3 Aquatron.
Math o doiled ydy hwn sydd yn defnyddio system allgyrchiol i wahanu’r rhannau soled a’u troi’n gompost.
4 Hidlen dŵr glaw.
Mae hon yn sicrhau dŵr glaw glân i lifolchi’r toiled.
5 Cronfa i hel dŵr glaw sydd yn cael ei bwmpio oddi yno i’r tanc uwchben y toiled.

Mae Prydain yn un o’r gwledydd sydd wedi cael ei beirniadu am waredu carthion i’r môr mewn rhai ardaloedd, ac mae rhai traethau’n dal yn rhy llygredig i ni nofio yno yn ddiogel.

1 Beth sydd yn digwydd i garthion eich cartref chi ar ôl i chi lifolchi’r toiled?
2 Mae datblygu dulliau gwell o waredu carthion yn amlwg yn syniad da, ond fel popeth newydd arall, mae’n medru bod yn fusnes ddrud.
Sut ddylem ni sicrhau fod hyn yn digwydd? Pwy ddylai dalu?
3 Ysgrifennwch lythyr (gyda chaniatâd eich rhieni neu’r ysgol) at eich cyngor lleol yn gofyn am atebion pellach i’r cwestiwn cyntaf uchod, ac yn awgrymu ffyrdd o wella’r sefyllfa.