
Yma, ceir syniadau am weithgareddau
Gwaith Maes ar lan y môr.
I ddisgyblion o berfeddion gwlad, mae ymweliad â’r
arfordir ynddo’i hun yn antur, a hyd yn oed i blant sydd
yn byw yng nghyffiniau’r môr, mae rhywbeth newydd i’w
ddarganfod bob amser.
|
Gwaith Maes ar draeth
Rhosneigr, Ynys Môn |
Trefnwyd y gwaith fel a ganlyn:
Rhagarweiniad i athrawon
Gweithgaredd 1 Pethau gwlyb (lefelau
1 – 2)
Gweithgaredd
2 Tamaid blasus (lefelau 2 – 3)
Atodiad: Ffeithiau Gwlyb (cefndir a sail i holiadur difyr.)
Bydd angen mwy o baratoi ar gyfer gweithgaredd
2. Argymhellir darparu cyfle i’r disgyblion gyfarwyddo â’r
termau gwahanol (e.e. cigysydd, detrisysydd) ac hefyd i ddod
i adnabod yr anifeiliaid a’r planhigion y maent i ddod
o hyd iddynt trwy astudio cyfeirlyfrau pwrpasol.
a) Gellid darparu ac ystyried allweddi pwrpasol
ac felly cyflawni un o ofynion ychwanegol y Cwricwlwm Cenedlaethol.
b)
Byddai’n ddefnyddiol cynnal arolwg o draeth yr ymweliad
ymlaen llaw – fel rhan o asesiad peryglon ac hefyd i gael
syniad o ba rywogaethau y bydd y disgyblion yn debyg o’u
darganfod yno.
Iechyd a diogelwch
Edrychwch ar dablau trai a llanw cyn yr ymweliad … nid
yn unig er mwyn sicrhau diogelwch pawb, ond er mwyn gwneud yn siwr
fod yr hyn yr ydych am ei astudio yn y golwg ac nid o dan y tonnau!
Mae Laver’s
Tide Tables ar gael o:
(llyfr
- £1.25, crynoddisg - £9.99)
|
Dickies, Bangor |
01248 363400 |
| Pwllheli |
01758 701828 |
| Abertawe |
01792 645303 |
Gweithgaredd 1
PETHAU GWLYB Faint ydych chi’n ei wybod am anifeiliaid y môr?
Mae llawer o waith diddorol
y gallwch ei wneud ar daith gwaith maes i lan y môr.
I ddechrau, dyma
weithgaredd hawdd y byddwch yn siwr o’i
fwynhau. |
 |
| |
| COFIWCH – ER BOD GLAN Y MÔR YN LLE DA AM HWYL MAE’N
MEDRU BOD YN LLE PERYGLUS.
GWRANDEWCH YN OFALUS AR
EICH HATHRAWON A CHADWCH YN UNION AT
BETH MAEN NHW’N
EI DDWEUD. |
Cerddwch ar hyd y draethlinell
ac edrychwch yn ofalus beth sydd yno –
ar y tywod a rhwng y cerrig.
Penderfynwch
- beth sydd yn fyw
- beth fuodd yn fyw ar un adeg
- beth na fuodd erioed yn fyw.
|
 |
| |
Beth ddarganfyddoch chi?
Anifeiliaid?
Planhigion? Rhywbeth arall? |
Ar y tabl isod, nodwch 5 enghraifft
o bob grŵp, gan eu gosod yn
y golofn gywir.
Bydd rhaid meddwl llawer weithiau – wedi’r
cyfan, anifail ydy anemoni y môr!
Mae
popeth byw yn bwydo ar rywbeth arall, ac mae perthynas arbennig
yn bodoli rhwng
yr holl bethau byw yng
nghynefin y traeth. Yr
enw ar y berthynas hon ydy cadwyn fwyd e.e. GWYLAN yn bwyta GWICHIAID
sydd yn bwyta
GWYMON.
Mae’r holl rywogaethau byw yn cael eu dosbarthu
yn ôl
pa fwy y maen nhw'n yn ei fwyta.
CIGYSYDD yw gwylan sydd yn bwyta cig gwichiaid.
LLYSYSYDD yw’r gwichiaid sydd yn bwyta’r
gwymon (llysiau ydy planhigion.)
DETRITYSYDD (MALURYSOR) yw creadur
sydd yn bwyta darnau mân
o fwyd organig, gweddillion pethau sydd wedi marw a phydru.
HOLLYSYDD yw anifail (fel ni!) sydd yn bwyta cig a phlanhigion.
(Ystyr YSYDD yw rhywbeth sydd yn bwyta
pethau byw eraill.)
YSGLYFAETH yw’r enw ar anifeiliaid
sydd yn cael eu bwyta gan anifail arall -
fel y gwichiaid sydd yn
cael
eu bwyta gan y
wylan.
CYNHYRCHYDD yw’r gwymon sydd yn gallu gwneud ei fwyd ei hun
wrth ddefnyddio golau’r haul – mae’n cynhyrchu
bwyd ar gyfer creaduriaid eraill.
 |
Rhestrwch y pethau BYW a
BYW AR UN ADEG y daethoch o hyd iddyn nhw ar y traeth yng
ngholofn gyntaf y tabl isod, yna ticiwch
y golofn gywir i ddangos i ba grŵp bwydo y maent yn perthyn. |
Beth yn union ydy bwyd y pethau hyn?
Ydyn nhw’n bwyta rhywbeth
arall ar y rhestr?
Ydyn nhw’n rhan o gadwyn fwyd?
Gweithgaredd 2
TAMAID BLASUS ... cadwyni bwyd
Mae popeth byw yn bwydo ar rywbeth arall, ac mae
perthynas arbennig yn bodoli rhwng yr holl bethau byw yng nghynefin
y traeth. Yr enw
ar y berthynas hon ydy cadwyn fwyd e.e.
GWYLAN yn bwyta GWICHIAID sydd yn bwyta
GWYMON
Mae’r holl rywogaethau byw yn cael eu dosbarthu yn ôl pa fwyd y
maent yn ei fwyta.
CIGYSYDD yw gwylan sydd yn bwyta cig gwichiaid.
LLYSYSYDD yw’r gwichiaid sydd yn bwyta’r gwymon (llysiau ydy planhigion.)
DETRITYSYDD (MALURYSOR) yw creadur sydd yn bwyta darnau mân o fwyd organig,
gweddillion pethau sydd wedi marw a phydru.
HOLLYSYDD yw anifail (fel ni!) sydd yn bwyta cig a phlanhigion.
(Ystyr YSYDD yw rhywbeth sydd yn bwyta pethau byw eraill.)
YSGLYFAETH yw’r
enw ar anifeiliaid sydd yn cael eu bwyta gan anifail arall - fel y gwichiaid
sydd yn cael eu bwyta gan y
wylan.
CYNHYRCHYDD yw’r gwymon sydd yn gallu gwneud eu bwyd eu hunain
wrth ddefnyddio golau’r haul – mae’n cynhyrchu
bwyd ar gyfer creaduriaid eraill.
Cyn ymweld â glan y môr ar eich gwaith maes, bydd
angen
1) dysgu’r termau uchod 2) astudio llyfrau, taflenni a gwybodaeth
o’r we sydd yn dangos a disgrifio’r creaduriaid y byddwch
yn chwilio amdanynt.
COFIWCH – ER BOD GLAN Y MÔR
YN LLE DA AM HWYL MAE’N
MEDRU BOD YN LLE PERYGLUS. GWRANDEWCH YN OFALUS AR EICH HATHRAWON
A CHADWCH YN UNION AT BETH MAENT YN EI DDWEUD.

Disgyblion Ysgol y Garnedd, Bangor, ar
Ynys Môn |
Awgrym i’ch helpu:
Gwymon gwyrdd – wyneb y dŵr
Gwymon
brown – yn y canol
Gwymon coch – yn y gwaelod
BYDDWCH
YN OFALUS RHAG LLITHRO
I BLITH TRIGOLION Y MÔR |
Chwiliwch am y rhywogaethau ar y tabl, ticiwch y
blwch cywir ar eu cyfer ac ychwanegwch unrhyw rai eraill y cewch
hyd iddynt. (Defnyddiwch
gefn y daflen hefyd os bydd angen.) Ceisiwch lunio cadwyni bwyd
o blith eich darganfyddiadau.
Atodiad: Ffeithiau Gwlyb
Dŵr - deunydd/sylwedd unigryw; gall newid ei
ffurf o hylif i nwy neu solid ag yn ôl i hylif. Mae hyn yn
dibynnu ar y tymheredd.
- Gellir dod o hyd i ddŵr ar draws y rhan fwyaf o’r byd.
- Mae tua 97% o ddŵr y byd yn y cefnforoedd. [sef: cefnfor
Arctic 14,090,000kmsg,
cefnfor India 74,929,000km sg, Y Môr Tawel 179,680,000km
sg, cefnfor
Iwerydd 106,460,000km sg]. Mae 2% yn rew a llai na 1% yn ddŵr
ffres
ac anwedd dŵr.
- Mae dŵr y môr yn cynnwys: 95% dŵr pur, 2.9%
o halen; mae’r 0.6%
sy’n weddill yn elfennau hybrin sef- calsiwm, fflworid, boron, bicarbonadau,
bromin, magnesiwm, potasiwm, strontiwm a sylffad.
- Mae sawl defnydd i ddŵr
e.e.
*Golchi gwallt/dillad/llestri
*Dŵr i bobl, anifeiliaid a phlanhigion gael yfed i fyw.
- Mae dŵr yn gartref i lawer o anifeiliaid a phlanhigion,
dŵr
hallt y môr,
a dŵr croyw llyn ac afon.
- Gan fod pobl yn defnyddio peiriannau golchi
dillad a llestri, mae’r
defnydd o ddŵr bron wedi dyblu yn y 30 mlynedd diwethaf.
- Ar gyfartaledd,
mae bob person ym Mhrydain yn defnyddio 160 litr o ddŵr bob diwrnod,
sydd dros 1,000 litr bob wythnos.
- Yn 1989 fe ffurfiwyd deg cwmni
dŵr sydd yn cynnal a chadw system carthffosiaeth i 75% o
boblogaeth Cymru a Lloegr.
- Roedd 21 o gwmnïau eraill yn gyfrifol am
y 25% arall; mae’r
cwmnïau
hyn fel arfer yn y sector breifat.
- Mae arbrofion ar ddŵr yfed yn cael
eu gwneud yn gyson.
- Yn 1996 fe gafodd dros 3 miliwn o arbrofion eu cynnal. O’r
rhain,
roedd 95.5% yn dangos dŵr digon pur i’w yfed.
- Dim ond 3% o ddŵr mewn cartref
sydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn coginio ac yfed.
- Mae 1/3 o ddŵr y cartref
yn cael ei ddefnyddio ar gyfer toiledau.
- Mae dros 250,000 km
o bibellau dŵr ym Mhrydain.
- Yn Llundain mae 2,600 miliwn litr
o ddŵr yn cael eu defnyddio bob diwrnod.
|