Arnom ni heddiw y gorffwys y cyfrifoldeb am warchod a chynnal etifeddiaeth yr amgylchedd. Hyrwyddo gofal o’r Winllan Wen ymhlith yr ifanc yw pwrpas y Gymdeithas, trwy gynorthwyo athrawon i gyfleu ymwybyddiaeth o gynanaladwyedd. Yn ôl y Canllawiau Datblygiad Cynaliadwy a gyhoeddwyd yn ddiweddar, “Mae’r ifanc yn haeddu ... deall y materion hanfodol sy’n wynebu’r blaned a gwybod sut y gallant chwarae rhan bersonol wrth helpu llunio’r dyfodol.”

Dyffryn Dysynni trwy hen borth yng Nghastell y Bere.

Dewisais y llun hwn am ei fod yn cyfleu hanfod y neges yn berffaith: cynnal y presennol tra’n ymdrechu i ddiogelu’r hyn a etifeddwyd o’r gorffennol i’r cenedlaethau i ddod.

Yn ôl y ddameg, anfonodd yr Arglwydd weithwyr i’w winllan, a dyletswydd ysgolion yw hyfforddi’r ifanc i weithio er lles y blaned fach odidog a ymddiriedwyd i’n gofal. Dyna pam fod cymaint o gynnwys y gwerifyn hwn ar thema gwarchod a chynnal. Rhaid cofio hefyd fod athro’n aml yn ei gael ei hun yn llafurio’n annisgwyl mewn maes anghyfarwydd. Gobeithiwn fod llawer o erthyglau Gwaith Maes o fudd, nid yn unig i arbenigwyr a chynlluniau gwaith strwythuredig, ond hefyd i Miss Jones Cerddoriaeth yn wynebu dysgu dosbarth Mr. Davies Bioleg am wers ddwbl ar brynhawn dydd Gwener!

Dan nawdd Asiantiaeth yr Amgylchedd.

   
Rhifyn Nesaf
Tachwedd 2003
welsh language resources for schools

Cyfrifoldeb athrawon yw asesu peryglon unrhyw weithgaredd neu ymweliad.


Cliciwch ar enw'r awdur i fynd ymlaen

PETHAU GWLYB

HWYL GLAN MÔR

BWYD Y MÔR

MEINDIWCH
EICH BUSNES

UWCHGYNHADLEDD
Y DDAEAR

HAFOD Y LLAN

ADAR CYLCH
YR WYDDFA

GARDDIO GWYLLT