Dydd Gwener 29/08/02

Cyrhaeddom ni am 9:30 y bore ac aethom ni’n syth i’r gwesty a oedd yn foethus iawn. Ar ôl archwilio’r ystafelloedd a chynnal cyfarfod â gweddill y grŵp, es i a
Mr Evans draw i Sandton, sef prif leoliad yr Uwchgynhadledd.

Roedd llawer o arddangosfeydd yn ymwneud â chynaladwyedd yno a chanolfan siopa enfawr.

Ar ddiwedd y dydd penderfynais i a Mr Evans ymuno â sesiwn rhagfriffio Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Prin roeddwn yn deall gair, ond serch hynny, nodais y termau oedd yn anghyfarwydd i mi a gofynnais lawer o gwestiynau er mwyn ceisio deall yn well beth oedd yn digwydd.

O’r hyn welais ar y diwrnod cyntaf yn Ne Affrica, roedd y wlad yn amlwg yn hyfryd.

 

Dydd Sadwrn 30/08/02


Siop trin gwallt


Bachgen bach yn llygadu'r
camera fideo

Yn gyntaf, ymwelsom ni â dwy ysgol yn Soweto, sef trefgordd fwyaf Johannesburg.
Yn yr ysgol gyntaf, cwrddais â phlant oedd yn byw mewn cutiau tun ac yn cael eu trin yn wael iawn yn gyffredinol. Does neb yn haeddu bywyd o’r fath! Er hynny, roeddynt yn ymddangos yn frwdfrydig ac yn hapus iawn i’n gweld. Trefnwyd sioe glodwiw iawn ar ein cyfer a rhyfeddodd y plant wrth weld fy nghamera fideo, a phob un ohonynt yn awyddus i gael ei ddefnyddio! Roedd yr ail ysgol ar gyfer plant amddifad a’r cyfleusterau’n llawer gwell. Fel yn yr ysgol flaenorol, darparwyd sioe ardderchog ar ein cyfer a’r hyn oedd yn rhyfeddol, unwaith eto, oedd hapusrwydd y plant wrth ein croesawu ni i’w plith.

Ar ôl gadael yr ysgol, aethom ni i dy bwyta o’r enw Wandie’s, sy’n cael ei ystyried yn un o fwytai enwocaf y byd, er ei fod mewn ardal mor dlawd. Yn ystod y prynhawn aethom ni i ganol Soweto, ac ymweld â hen dŷ Nelson Mandela am gyfnod byr. Teimlais yn annifyr iawn yn yr ardal honno, yn ofnus iawn, ac roedd yn ryddhad gadael.

Aethom ni yn ôl i’r gwesty, minnau erbyn hyn â theimladau gwahanol iawn yn fy mhen am Dde Affrica.

 

Dydd Sul 31/08/02

Braf oedd cael ymlacio yn ‘Gold Reef City’ am y bore, sef parc antur fel Oakwood, ar safle hen bwll aur. Wedi cyrraedd yr “Ubuntu Village,” gwelsom ni’r stadiwm lle'r oedd tîm criced De Affrica’n arfer chwarae, ond aethom ni’n syth draw i weld arddangosfa a chyflwyniad gan Robert Swan yn ymwneud â’i daith i glirio sbwriel yn Antarctica.
 

Dydd Llun 01/09/02


Cyfweliad gyda Mr Rhodri Morgan yn Ivory Park

Ymwelsom ni â’r ‘Waterdome’ lle roedd nifer fawr o arddangosfeydd am wahanol agweddau ar ddŵr. Prif thema’r atyniad oedd prinder dŵr yn y byd. Gadewais i a Mr Evans yn brydlon er mwyn ymuno â Rhys Richardson a Nia Meleri o Ysgol Gyfun Llanhari am ginio efo Rhodri Morgan. Roedd hynny’n rhoi cyfle i ni holi Mr Morgan am beth fyddai’n debygol o ddigwydd ’nôl yng Nghymru yn dilyn yr Uwchgynhadledd. Roedd criw BBC Cymru’n ein dilyn ac yn ein ffilmio. Ar ôl cinio es i a Mr Evans yn syth i Sandton a’r Uwchgynhadledd, lle cawsom ni gyfle i wrando ar wahanol drafodaethau. Roedd Margaret Beckett o Brydain yn bresennol a theimlais mai braint enfawr oedd bod yno yn cael y cyfle o weld beth yn union oedd yn digwydd yn ystafelloedd dirgel yr Uwchgynhadledd. Ar ôl diwrnod prysur, aethom ni i ganolfan fowlio deg er mwyn ymlacio, cael hwyl a mwynhau swper.
 

Dydd Mawrth 02/09/02

Gyda phawb yn ymweld â mannau o’u dewis, cefais i a Mr Evans ychydig o ryddid. Yn gyntaf aethom yn ôl i Ubuntu er mwyn ymchwilio’r arddangosfeydd yn fanylach, yna aethom draw i ardal siopa y tu allan i Johannesburg, lle prynais lawer o ddillad yn rhad iawn. Gyda’r nos cawsom ni wahoddiad i ymuno â Margaret Beckett yn un o westai enwocaf y byd. Cefais fwyd blasus a chyfle i siarad â Mrs Beckett, Tony Blair, Rhodri Morgan a David Trimble. Felly, noson i’w chofio am byth!

 

Dydd Mercher 03/09/02


Ffwrn Solar yn berwi dwr ym Mhentref ECO, Ivory Park

Ymunais â Rhodri Morgan unwaith eto mewn trefgordd arall o’r enw Ivory Park, lle roedd canolfan gymunedol o’r enw ‘EcoVillage’ yn cael ei datblygu.

Mae Cymru wedi cyfrannu paneli solar gwerth £3000 at y fenter. Er bod yr ardal yn dlawd iawn, unwaith eto roedd pawb yn ymddangos yn hapus a’r naws gymunedol yn gryf iawn.

Ar ôl cinio aethom yn ôl i ganolfan yr Uwchgynhadledd yn Sandton am y tro olaf a gwelsom dri gweinidog o wahanol wledydd yn rhoi eu hareithiau cloi yn y neuadd fawr. Mae’n rhaid imi gyfaddef, roedd y profiadau breintiedig hyn yn gwneud i mi deimlo’n bwysig iawn!

 

Dydd Iau 04/09/02


Llewod yn rhuo yn y cefndir!
Cysgu'r nos ym mharc Safari Pilanesburg.

Cyfle i ymlacio ac uniaethu â byd natur ym Mharc Cenedlaethol Pilanesberg.

Gwelsom nifer o bentrefi bychain ar hyd y ffordd ac roeddwn yn synnu bod pobl yn gallu byw dan amodau mor boeth a sych gyda bron dim dŵr.

Ym Milansberg aethom yn syth ar ein saffari cyntaf. Gwelsom ni nifer o wahanol anifeiliaid ac fe gesglais ddigon o dystiolaeth gyda fy nghamera fideo. Nid pob dydd mae bachgen dwy-ar-bymtheg oed yn cael cyfle fel hwn!

Fin nos, cawsom BBQ anferth cyn mynd i gysgu dan gynfas.

 

Dydd Gwener 05/09/02

Bu’r noson yn gyffrous iawn gyda storm o fellt a tharannau yn ein deffro a sŵn anifeiliaid gwyllt yn galw. Cyn brecwast aethom ar saffari arall yna brecwast hwyr iawn ond gwerth aros amdano gyda digon o fwyd wedi’i goginio i bara am fis. Ar ôl taith hir yn ôl aethom yn syth i’r maes awyr er mwyn bod yn ôl yng Nghymru heulog drannoeth.
 

Sylwadau am Dde Affrica fel gwlad:


Babanod amddifiad Ysgol Bethany sy'n dioeddwf o AIDS

Dyma’r wlad orau imi gael y fraint o ymweld â hi. Mae’r dinasoedd a welais yn lled debyg i rai Cymru, ond yn sych! Er bod llawer o hanesion am ddwyn a llofruddio yn Johannesburg, nid oedd yr agweddau hynny’n amlwg wrth ymweld â’r ddinas. Roedd y bobl i weld yn hapus iawn, yn gyfeillgar, yn groesawgar ac yn awyddus i siarad ag ymwelwyr. Cafodd gweld safonau byw mor isel argraff aruthrol arnaf, ac mae’r tristwch a deimlais ar y pryd yn aros yn fy nghof. Er bod llawer o’r trigolion yn dioddef o amodau byw gwael, bu gweld eu hwynebau hapus yn ysbrydoliaeth imi.

 

Hoffwn estyn fy niolchiadau i bawb a gyfrannodd at ddarparu’r cyfle imi gynrychioli Cymru a Phrydain yn Uwchgynhadledd y Ddaear 2002.

 

 

 

 

CWESTIYNAU A PHWYNTIAU I'W TRAFOD

1 Beth sydd yn dangos fod Rhys yn benderfynol o wneud ei orau yn ystod ei ymweliad â’r Uwchgynhadledd yn Johannesburg?
Fel person mor ifanc, pa anawsterau oedd yn ei wynebu yno?
2 Erbyn yr ail noson, roedd ei argraff o Dde Affrica wedi newid o’r un a gafodd wrth gyrraedd. Beth oedd y newid hwnnw a beth oedd wedi ei achosi?
3 Pa gyferbyniad hynod a’i trawodd wrth ymweld â’r ddwy ysgol yn Soweto a threulio amser yng nghwmni’r disgyblion?
4 Nodwch pa gyfleoedd gafodd Rhys i ymlacio yn ystod ei ymweliad â De Affrica.
Ydych chi’n cytuno mai peth da oedd iddo gael mwynhau fel hyn, neu a ddylai fod yn ystyried materion difrifol trwy’r amser? Eglurwch y rhesymau dros eich hateb.
5 A oes tystiolaeth fod Rhys yn dal i feddwl am ochr ddifrifol ei daith hyd yn oed pan roedd yn ymlacio fel ymwelydd cyffredin ar wyliau?
6 Er mai dirprwy Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd Rhys, roedd yno hefyd fel cynrychiolydd o Gymru. A drefnwyd unrhyw ddigwyddiad neu ymweliad o ddiddordeb arbennig iddo fel Cymro?
7 Beth oedd agwedd Rhys tuag at gael sgwrsio gyda gwleidyddion pwysig fel Margaret Beckett a Rhodri Morgan, a’u holi?
Pa gwestiynau fyddech chi wedi eu gofyn iddynt?
(Cofiwch mai problemau’r blaned oedd testun yr Uwchgynhadledd, felly byddech yn dangos parch a chwrteisi trwy gadw at bynciau perthnasol e.e nid dyma’r lle i drafod Gogledd Iwerddon gyda Mr. Trimble.)
8 Ydy’r dyddiadur hwn y math o beth fyddech chi’n ei ddisgwyl gan berson ifanc? Edrychwch ar yr arddull a’r eirfa yn ogystal â’r cynnwys.
Pam ysgrifennodd Rhys fel hyn yma?
9 A ddylai pobl ifanc gael mwy o gyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau tebyg i’r Uwchgynhadledd? Eglurwch pam yr ydych o’r farn hon.
10 Pe baech chi’n cynnig i gymryd rhan mewn achlysur tebyg i’r Uwchgynhadledd, beth fyddai raid i chi ei ddangos a’i brofi amdanoch chi eich hun i argyhoeddi’r dewiswyr eich bod yn addas ac yn haeddu mynd? (Byddai angen i chi eu perswadio a’u hargyhoeddi.)
   

EICH CYNHADLEDD EICH HUN

Nid dim ond yn Affrica boeth y medrwch drafod materion yn ymwneud â chyflwr y ddaear a’i thrigolion. Trefnwch “gynhadledd” eich hunain – gallech ddilyn cynllun tebyg i hwn, neu ddyfeisio un eich hun.

Mewn grŵpiau, penderfynwch pa agwedd yr hoffech ei mabwysiadu, lluniwch araith fer ar y testun hwnnw a dewiswch un aelod o’r grŵp i’w chyflwyno i weddill y dosbarth. (Byddai’n ddoeth sicrhau fod pawb yn ymdrin â thestunau gwahanol!)

Byddai hwn yn ymarfer diddorol a gwerthfawr rhwng mwy nag un dosbarth – efallai o fewn blwyddyn gyfan fel gweithgaredd diwedd tymor. Yn wir, pam na ellid trefnu gwir uwchgynhadledd rhwng mwy nag un ysgol? Cyn hir, chi fydd yn gyfrifol am hynt a helynt y ddaear, felly dysgwch ffurfio barn gytbwys a’i mynegi’n groew mewn da bryd.