Mae rhai anifeiliaid mor ddieithr i ni – naill ai am eu bod mor brin, neu am eu bod wedi byw mor bell yn ôl yn “oes yr arth a’r blaidd” – nes ei bod hi’n anodd iawn erbyn hyn i ni wahaniaethu rhwng ffaith a ffantasi yn eu hanes.

Mae bele’r coed / pine marten (Martes martes) yn un anifail o’r fath. Mae wedi prinhau’n enbyd yng Nghymru dros y ddwy ganrif ddiwethaf, ond roedd sôn andano ar hyd a lled Cymru ar un adeg. Sut yn union mae gwahaniaethu rhwng hen goelion a’r gwirionedd yn achos y bele?

Dyma brosiect sydd yn cyfuno meysydd ecoleg, hanes a daearyddiaeth i olrhain hynt un o’n creaduriaid prinnaf.

Bele’r coed (Martes martes)

Hen esgyrn
Rydym yn gwybod fod y bele wedi byw yng Nghymru ers cyn hanes. Un o’r cofnodion cynharaf yw hwnnw gan Melvyn Davies a gafodd olion ei esgyrn yn ogof Chwarel Trefil, Powys. Fel anifail y goedwig, mae ei bresenoldeb yno yn awgrymu nad tir moel a llwm oedd yno ar y pryd ond ardal goediog. Yn cadw cwmni iddo roedd awrocs (hynafiad y fuwch) a charw, dau arall sydd yn awgrymu cynefin o goed. Y cwestiwn mawr ydy: sut gyrhaeddodd y bele ogof yng nghrombil y mynydd?

Hen gân
Y cofnod nesaf sydd gennym o’r bele yn y Gymraeg yw’r suo-gân fach hon gan fam i’w phlentyn. Ceir y gân yn yr Hengerdd sydd yn dyddio o’r chweched ganrif.

Dyma hi yn y gwreiddiol:

Pais Dinogad fraith, fraith
O grwyn balaod ban wraith
Chwid, chwid, chwidogaeth,
Gochanwn gochenyn wythgeith
… ac wedi ei diweddaru:

Amryliw brith yw crys Dinogad,
O grwyn bele ei wneuthuriad,
Y gân fach hon, chwid-chwid-hi-hi
Cawn wyth gwas caeth i’w chanu hi.

Tystiolaeth gref fod y bele’n byw yma yng Nghymru, meddech. Ond, tybed? Yn nes ymlaen yn y gerdd mae sôn am dad Dinogad yn pysgota yn Rhaeadr Derwennydd – ond does dim lle o’r fath yng Nghymru! Mae’n debyg mai ar lannau Afon Derwent yng Ngogledd Lloegr y cafodd y gân hon ei chanu gyntaf. Oedd, roedd pobl yno yn siarad a chanu iaith yn union fel y Gymraeg yn y cyfnod hwnnw – mae’r gerdd fach yn profi fod y bele yn byw ym Mhrydain ar y pryd, ond efallai’n dweud mwy am yr iaith nag am leoliad y bele ei hun.
OND
pa ddefnydd oedd yn cael ei wneud o groen y bele?
Does dim amheuaeth beth ydy’r ateb i’r cwestiwn hwnnw!

 

Hen gyfreithiau
Roedd y brenin Hywel Dda yn hen gyfarwydd â’r bele. Yn ôl ei ddeddfau enwog roedd croen bele yn werth 26 ceiniog – cyfwerth â haid o wenyn neu geiliog hebog, oedd yn ddau beth gwerthfawr iawn. Mae hwn yn profi fod y bele yn wir yn byw yng Nghymru yn y ddegfed ganrif, ond beth mae’r pris yn ei awgrymu i ni? Gan fod pris unrhyw beth yn dibynnu ar faint ohono sydd ar gael ac ar y galw amdano, ni wyddom os ydy’r pris yn adlewyrchu prinder y bele neu alw mawr am ei groen.


BELE’R COED: Y FFEITHIAU

Mae bele’r coed yn un o famaliaid cynhenid Prydain, yr unig fele sy’n byw yno. (Yn Ewrop, ceir rhywogaeth bele’r graig - Martes foina - yn ogystal â bele’r coed.) Mae’r belaod yn aelodau o deulu’r Mustelidae, sef yr un teulu â’r wenci/y fronwen, y carlwm, y minc, y ffwlbart, y dyfrgi a’r mochyn daear.
Mae mwyafrif aelodau’r teulu hwn yn hir o gorff a byr o goes, ond mae coesau a thraed bele’r coed yn gymharol fwy na’r hyn sydd yn arferol ymysg y Mustelidae. Fel arfer brown yw lliw ffwr y corff, heblaw am y frest a’r gwddf sydd o liw hufen hynod, ac mae ganddo hefyd gynffon arbennig o hir o flew trwchus. Mae bele’r coed yn ei lawn faint rhwng 64cm a 81cm o hyd (gan gynnwys ei gynffon) ac felly’n fwy na’r ffwlbart a’r carlwm ond yn llai o lawer na’r mochyn daear. Y mae’r gwryw yn fwy na’r fenyw, er bod y gwahaniaeth yn llai amlwg nag ydyw mewn rhai mwsteliaid eraill.

 

Adnabod a chymharu’r mwsteliaid

 

Bele’r coed
Ffwlbart
Ffwlbart/ffured
Carlwm


 

HANES BELE’R COED YM MHRYDAIN

Mae’n debyg i’r belaod gyrraedd Prydain yn fuan wedi diwedd yr Oes Iâ, tua 9,500 o flynyddoedd yn ôl. Erbyn y 18fed ganrif roeddent yn byw dros dir mawr Prydain i gyd, er mae’n ymddangos nad oeddent yn niferus iawn.
Cafodd y belaod eu hela am eu crwyn gwerthfawr, ond hefyd gan eu bod yn cael eu cyfrif yn bla. Roedd hefyd pris ar eu pen. Mae cofnod o Lanfair, Meirionnydd ym 1842 o daliad o £1 1s 0d am ladd bele, ac un arall o Fachynlleth ym 1848 o daliad o 1s 6d. (Ydy’r gwahaniaeth yn awgrymu fod y bele’n llai o boen yng nghyffiniau Machynlleth nag yn Llanfair ac os felly, pam?) Yn ystod y 19eg ganrif, arweiniodd twf mewn saethu a helwriaeth at giperiaid yn ceisio dileu unrhyw famaliaid ac adar ysglyfaethus oedd yn ymosod ar adar megis grugieir a ffesantod. O ganlyniad, bu gostwng sylweddol yn niferoedd rhywogaethau fel y ffwlbart a’r carlwm, y barcud a’r bwncath – ac, wrth gwrs, y bele.

Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd bele’r coed wedi diflannu drwy ran helaeth o Brydain. Daliodd poblogaeth fechan ei thir yng Nghymru ac yng Ngogledd Lloegr gydag ychydig mwy yn Ucheldir Gorllewin yr Alban.

 

1800
1850
1880
1915


Y SEFYLLFA HEDDIW

Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod sefyllfa bele’r coed yn gwella yn yr Alban gyda diwedd yr erledigaeth uniongyrchol arno, a’i fod yn ailgartrefu mewn rhai ardaloedd lle’r oedd yr anifail wedi diflannu. Mae’n debyg y bu’r twf mewn coedwigaeth fasnachol wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf yn help iddo yn hyn o beth.

Am ryw reswm, nid yw’r gwelliant amlwg hwn wedi digwydd eto yn yr ardaloedd hynny o Ogledd Lloegr a Chymru lle mae’r bele wedi goroesi. Yno, er bod cofnodion yn parhau o’r bele, mae’r dystiolaeth yn dangos fod y boblogaeth yn fach ac/neu yn lleihau.

Fedrwch chi gynnig rheswm dros y diffyg cynnydd y tu allan i’r Alban?

Chwiliwch am ystadegau’r cyfnod ar ôl 1990.

1990

 

Bwyd iach? Brechdan jam!

Bele gwryw sydd wedi bod yn dod â’i deulu bob nos i gael bwyd o ffenestr cegin gwesty ar lan Loch Maraigh, yng Ngogledd-Orllewin yr Alban, ers o leiaf pedair mlynedd.

Mae’r belaod hyn yn byw yn wyllt rhywle ar lethrau coediog mynyddoedd Torridon ond maen nhw’n ddigon hyderus i fwydo yma heb frys nac ofn. Dydyn nhw na chi’r perchenogion yn cymryd gronyn o sylw o’i gilydd!


Tystiolaeth hen enwau

Mae’n syndod cymaint y gallwn ei ddysgu am natur wrth astudio enwau lleoedd. Mae’r gair “bele” – neu amrywiadau arno – yn codi’n aml ar hyd a lled Cymru, ond mae’n rhaid bod yn ofalus iawn wrth ei ddehongli. Er enghraifft, nid Martes martes sydd y tu ôl i enw tref Y Bala, gan mai aber rhwng afon a llyn ydy’r ystyr yn y fan honno. Un ystyr ar “bela” oedd planhigyn gwenwynig a elwir hefyd yn “llewyg yr iâr” ond wrth gwrs, mae rhaid cofio mai fel a y bydd Gogleddwyr yn ynghanu e ar ddiwedd gair.

Beth am “Bella” fel enw ar ferched – a oedd digon ohonyn nhw i gael cynifer o enwau lleoedd wedi eu henwi ar eu hôl? Oni allai “bella” ddod o “pella” weithiau?
Beth bynnag, dyma ran o fy nghasgliad innau o enwau o’r fath –efallai eich bod chi yn gwybod am rai eraill.

Enw Ardal
Afon Bele Caerfyrddin
Bryn Bela Tremeirchion, Rachub, Caeathro
Bryn Bele Fachwen
Bryn Bella Biwmares, Lloc, Brynsiencyn, Tregarth
Castell y Bele Dolwyddelan
Cwm Belan ger Llanidloes
Cwrt y Bella Casnewydd
Ffynnon Bela Aberdaron
Gors Bela Rhoshirwaun
Lôn Bele Llandysul
Plas Bela Llanfair Talhaearn


Mae rhywbeth yn amheus am “Bryn Bella” fel cofnod o’r anifail yn ardal Biwmares, Ynys Môn. Beth sydd yn rhyfedd amdano? Edrychwch ar y mapiau am gliw!