Ted Breeze Jones oedd un o'r dylanwadau cryfaf ym maes addysg yr amgylchedd a fu erioed yng Nghymru. Nid rhybuddio na dwrdio na phregethu oedd ei ffordd, ond yn hytrach agor llygaid plant Cymru i ryfeddodau a harddwch natur. O ennyn cariad a pharch at y byd o’u cwmpas, credai Ted y byddai eu hymroddiad yn y dyfodol yn sicr.
Ysgrifennai yn syml ac uniongyrchol, fel y mae’r addasiad canlynol o erthygl o’i eiddo yn dangos.

Prydferthwch coed y gwanwyn a’r haf sydd yn aml yn cael eu hamlygu, ond yma, mae’r ysgolfeistr dawnus yn arwain ei ddarllenwyr i ganfod a gwerthfawrogi harddwch boncyff a rhisgl a cheinciau llwm y gaeaf.

Un noson stormus ym mis Rhagfyr, fe gwympodd un o gewri mwyaf yr ardal hon. Roedd hi’n hen ac yn fawr pan oedd fy nhad yn fachgen, ond doedd gen i ddim syniad o’i hoed hi tan drannoeth y storm. Ie, coeden oedd y gawres – hen dderwen fawr.

Darganfod oed coeden

Gan ei bod ar draws y ffordd, aeth y coedwigwyr ati ar unwaith i’w thorri’n ddarnau a’i llusgo i ffwrdd. Ar ôl iddyn nhw lifio’r boncyff, fe allwn i weld cylchoedd amlwg yn y pren, rhai tywyll a golau bob yn ail. Fe gyfrais dros ddau gant a hanner o gylchoedd yn y pren. Gan fod un cylch yn cael ei ffurfio bob blwyddyn, roeddwn i’n gwybod faint oedd oed y goeden – un go ifanc pan gofiwn ni fod rhai o’r coed Sequoia sy’n tyfu yng Nghaliffornia yno pan arweiniodd Moses yr Israeliaid drwy’r Môr Coch!

Beth ydy oed y goeden hon?

 
 
Ateb: ______________________
 
 

 


 
     
Gallwch weld coed Sequoia mewn gerddi mawr fel Bodnant, ond, cofiwch, dim ond plantos bach ydy rheini o’u cymharu â chewri hynafol Califfornia!   Mae arbenigwyr yn credu fod yr ywen hon ym mynwent Caerhun dros fil oed. Os felly, roedd hi yma pan deithiai Llywelyn Fawr heibio ar ei ffordd rhwng ei lysoedd yn Abergwyngregyn a Threfriw.


Adnabod coed

Mae rhyw chwe chant o wahanol fathau o goed yn tyfu yng Nghymru, llawer ohonynt o wledydd tramor. Fe allwn ni adnabod coed wrth eu dail, eu ffurf a’u rhisgl.

1. Gwnewch gasgliad o ddail y coed a geir yn eich hardal chi, yn ffres a gwyrdd yn yr haf cynnar ac hefyd yn yr hydref, yn goch, oren, melyn a brown. Ar ôl eu casglu, dodwch y dail rhwng papur blotio neu bapur cegin i sychu, gyda phentwr trwm o lyfrau ar eu pen i wasgu’r cyfan yn wastad.

Yna, glynnwch nhw mewn llyfr, chwiliwch am wybodaeth am o ba goeden y daeth pob un a rhowch y manylion priodol am y dail ar gornel y dudalen.

  Dail yr hydref
Mae lliw deilen yn helpu i adnabod ar ba goeden y tyfodd.
   

2. Fe allwch chi dynnu llun coed gyda chamera neu bensil neu olosg. Mae’n well dewis coeden yng nghanol cae, un dal mewn gwrych neu ar ffridd agored. Sylwch ar y llun o’r goeden yn y gaeaf – gan fod awyr olau y tu ôl iddi, fe allwn ni weld ffurf y goeden yn glir ac mae pob brigyn yn amlwg.

Tynnwch lun o’r un goeden ar wahanol adegau o’r flwyddyn i ddangos y newid yn ystod y pedwar tymor.

Mae gan bob coeden ffurf arbennig felly chwiliwch mewn llyfr am help i adnabod y coed yn eich lluniau.

  Amlinell nodweddiadol derwen yn y gaeaf
   

3. Gwaith difyr arall ydy paratoi patrymau o risgl coed sy’n amrywio o goeden i goeden.

Defnyddiwch liw fydd yn golchi i ffwrdd yn y glaw i beintio ychydig o’r rhisgl, ac yna taenwch bapur meddal drosdo, wedi ei osod yn ei le gyda Blu-tac neu rywbeth tebyg. Wrth rwbio’r papur fe gewch chi batrwm cywrain rhisgl y goeden dan sylw. Ffordd arall o wneud hyn ydy trwy ddodi papur tenau ar y boncyff fel o’r blaen a’i rwbio â phensil feddal.

Cofiwch beidio â phwyso gormod rhag ofn i chi rwygo’r papur, a gwnewch yn siwr fod gennych ganiatâd perchennog y goeden!

 

 

Rhisgl derwen

   

 

Mae rhai coed fel pe baent yn gofyn i chi eu cyffwrdd.

Yma, yng Ngardd Bodnant mae dwylo miloedd o ymwelwyr wedi achosi difrod difrifol wrth fwytho’r rhisgl, ac er mwyn cadw’r goeden yn fyw, rhaid eu hatal.

Wrth grwydro yn ddiweddar, gwelais goed ifanc yn tyfu mewn llecynnau doniol iawn:

  • masarnen/sycamorwydden fechan ar y ffridd ymhell oddi wrth y coed eraill
  • collen ifanc yn gwthio heibio talcen carreg hen furddun, gyda phentwr o gnau dan y garreg wrth ei gwraidd
  • criafolen wedi gwreiddio yng nghorn simne hen furddun arall.

Ceisiwch chi ddweud pam y digwyddodd y pethau hyn.
Ysgrifennwch eich hateb yn y golofn ar y dde.

 

Tyfai’r fasarnen mor bell oddi wrth goed eraill …
oherwydd
__________________________
    __________________________
 
 
Aeth y cnau cyll o dan y
garreg …
oherwydd
__________________________
    __________________________
     
Cyrhaeddod y criafol ben y simne …
oherwydd
__________________________
    __________________________

 

 

 

Chwedloniaeth y coed.
Mae llawer o storïau rhamantus am goed. Fe luchiodd Owain Glyndŵr gorff y bradwr Hywel Sele i geubren – ble? Mewn rhai mannau yng Nghymru, dydy’r bobl ddim yn casglu brigau ysgawen i gynnau tân – pam?

Holwch am goelion a straeon am goed yn eich hardal chi.
Casglwch rai eraill gan berthnasau a chyfeillion o rannau eraill o’r wlad.

Gorffen y gwaith.
i) Paratowch restr o’r gwahanol goed sy’n tyfu o amgylch eich cartref, casglwch ddail a ffrwythau pob un ohonynt ac ewch ati i’w cofnodi â chamera ac â phensil a phaent.

ii) Casglwch eich nodiadau, eich darluniau, eich straeon, y dail a’r ffrwythau at ei gilydd i baratoi “Llyfr y Goedwig” ar gyfer eich ardal chi.

---------------------------------------------------------------------------------------

Gwaith Celf estynedig

Gall athrawon Celf ddatblygu’r syniadau syml a diddorol sydd yn yr erthygl i greu amrywiaeth o waith fydd yn cyfarfod â llawer o ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol Celf yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3.

Sylwer yn arbennig ar:

Cyfnod Allweddol 2
Y Datganiad Ffocws yn cyfeirio at ddisgyblion :
Dylent archwilio’r amgylchedd naturiol … a hefyd byd y dychymyg ar sail arsylwi, profiad a’r dychymyg gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau …
Y Rhaglen Astudio:

Dylid addysgu’r disgyblion i
- archwilio, defnyddio ac arbrofi gydag elfennau iaith weledol celf, crefft a dylunio, sy’n cynnwys
Patrwm e.e. patrymau naturiol
Gwead e.e. gweadau garw a llyfn mewn amrywiaeth o ddefnyddiau
Siâp e.e. defnyddio siapiau o fyd natur
- ddethol a chofnodi ar sail arsylwi, profiad a dychymyg er mwyn ymchwilio i’r amgylchedd naturiol

Cyfnod Allweddol 3
Y Datganiad Ffocws yn cyfeirio at ddisgyblion:
Dylid eu haddysgu i ddelweddu syniadau gan dynnu ar amrywiaeth eang o adnoddau … a ddetholwyd ac a drefnwyd ganddynt o’r amgylchedd naturiol …
Y Rhaglen Astudio:
Ehangu a datblygu ymhellach yr archwilio, y defnyddio a’r arbrofi y dechreuwyd arno yng Nghyfnod Allweddol 2, ar sail awgrymiadau Ted Breeze Jones.