Nid oes gwell cynefin ar gyfer gwaith maes difyr na choedwig gollddail. Ceir posibiliadau di-rif o safbwynt gwyddoniaeth, ecoleg a daearyddiaeth, ac ni ddylid anghofio’r gwaith a ellir ei wneud ym meysydd eraill y cwricwlwm e.e. celf, mathemateg, iaith a thechnoleg. Dyma ambell syniad ar gyfer ychydig o waith ymchwiliol ac ymarferol ar y gwybedog brith – ac mae’n siwr y cewch eich synnu wrth i chi sylweddoli cymaint y gallwch ei gyflawni trwy ddilyn hynt a helynt un aderyn bach!

ADERYN Y GOEDWIG – Y GWYBEDOG BRITH

Efallai mai’r adeg mwya diddorol yn y goedwig yw’r gwanwyn. Wrth i hyd y dyddiau ymestyn, fe welwn gyffro mawr ym myd natur. Bydd y brigau’n blaguro a bydd y briallu a chlychau’r gog yn gorchuddio llawr y goedwig yn un carped lliwgar. Ac wrth gwrs, bob blwyddyn bydd yr adar a dreuliodd fisoedd oer ein gaeaf ni yn Ne Ewrop a’r Affrig yn dyfod yn ôl – adar adnabyddus iawn fel y gog ei hun a’r wennol – arwydd pendant bod y gwanwyn wedi cyrraedd. Bydd yr adar i gyd yn brysur yn adeiladu nythod, wedyn yn eistedd yn amyneddgar i ddeor yr wyau ac yna’n llafurio o fore gwyn tan nos i gasglu bwyd i’r cywion barus. Un arall o’r adar hyn sy’n treulio’r gwanwyn a’r haf yn nythu yng nghoedwigoedd Cymru yw’r gwybedog brith.

 

Ffeithiau am y gwybedog brith

Ymwelydd haf
Maint: 13cm

Nodweddion: Ceiliog – bron wen, cefn du, stribed gwyn ar yr adain. Iâr – brown a gwyn, di-sylw

Cynefin: Coedwigoedd conwydd a llydanddail

Nythu:
Mis Mai, nyth o ddail crin a gweiriau mewn twll coeden, 5-8 o wyau glas golau, cywion yn treulio tua pythefnos yn y nyth

Galwad: Cân fer a theloraidd, galwad – tic a whit

Bwyd: Pryfed, chwilod a glöynnod yn yr awyr, lindys a phryfed genwair o’r llawr

I ble mae’r adar mudol yn mynd yn yr hydref?
Llun: R.J.C. Blewitt RSPB

 

Rydyn ni’n gwybod fod gwenoliaid yn gadael Prydain i dreulio’r gaeaf yn Ne Affrica tra mae gwyddau o’r Gogledd yn symud i lawr i Brydain i fwynhau tywydd sy’n fwyn iawn yn y gaeaf o’i gymharu â’r Arctig.

 

 

Beth am y gwybedog brith?

TAITH Y GWYBEDOG

Yn ystod y cyfnod 1981–86, bu’r RSPB yn modrwyo’r gwybedog brith ym Mhrydain, er mwyn darganfod yn union i ba wledydd y mae’r adar yn mudo. Mae’r tabl ar y dde yn dangos lle cafodd rhai o’r adar eu darganfod a’r niferoedd.

Tasgau
1. Chwiliwch mewn atlas am y gwledydd hyn.

2. Gan ddefnyddio’r raddfa, ceisiwch amcangyfrif pa mor bell y mae’r gwybedog yn teithio, ac i ba gyfeiriad y bydd y rhan fwyaf yn mynd o Gymru.

3. Trefnwch y gwledydd o ran nifer yr adar a ddarganfuwyd yno. Dechreuwch gyda’r ffigwr lleiaf. Dangoswch y canlyniadau mewn graff.

Gwlad
Nifer adar
Norwy
2
Denmarc
4
Rwsia
2
Yr Almaen
3
Gwlad Belg
1
Yr Iseldiroedd
5
Ffrainc
4
Sbaen
61
Morocco
83
Portiwgal
60

CARTREF NEWYDD I’R GWYBEDOG
Mewn tyllau mewn coeden mae’r gwybedog brith yn nythu, ond mae’n barod iawn i fagu mewn blychau nythu. Os oes coedwig dderw wrth ymyl yr ysgol, beth am osod blychau nythu er mwyn denu’r gwybedog brith?

Cysylltwch â swyddog addysg yr RSPB neu gydag unrhyw fudiad cadwraeth lleol i gael mwy o fanylion ar sut i adeiladu blwch nythu yn y ffordd gywir, a sut a ble i’w osod.

 

AROLWG O ADAR MEWN BLYCHAU A NIFER Y CYWION

Y mae’r tabl ar y dde yn dangos canlyniadau arolwg a wnaethpwyd gan yr RSPB yng ngwarchodfa Gwenffrwd. Ar sail y tabl, atebwch y cwestiynau sydd wrth ei ochr.

1. Ym mha flwyddyn y gwelwyd y nifer mwyaf o adar yn defnyddio’r blychau?

2. Ym mha flwyddyn y magwyd y nifer mwyaf o gywion?

3. Oes rhywbeth yn od am ateb 2? Ceisiwch egluro sut y gallai’r sefyllfa hon godi.

4. Beth sy’n hynod am flynyddoedd
1984 a 1986?

5. Defnyddiwch y ffigurau i wneud graffiau sy’n dangos y ddwy set o ganlyniadau.

Blwyddyn
Nifer o barau
Nifer o gywion
1983
333
1600
1984
284
1559
1985
330
1975
1986
338
1559
1987
322
1388
1988
328
1978
1989
320
1877
1990
357
1969

 

 

 

Y DDERWEN
– HOFF GOEDEN Y GWYBEDOG

Er bod y gwybedog brith i’w weld mewn coedwigoedd conwydd a llydanddail, dangosodd ymchwil manwl mai coed derw yw hoff gynefin yr aderyn.

Dyma lle maent yn chwilio amlaf am fwyd ac yn y coedwigoedd derw maent yn nythu yn fwyaf llwyddiannus.

Pam hynny?

YMCHWILIAD 1 - BWYD Y GWYBEDOG BRITH

Casglu pryfed o’r goeden
Yn ystod y gwanwyn, mae’n bosibl astudio pa fwyd sydd ar gael i’r gwybedog brith. Bydd yr aderyn yn cipio pryfed, chwilod a glöynnod ar eu hadain ac weithiau bydd yn disgyn i’r ddaear i godi lindys a phryfed genwair.

Mewn coedwig dderw, taenwch liain mawr ar y ddaear o dan goeden. Siglwch gangen uwchben y lliain er mwyn disodli’r pryfetach sy’n byw ar y dail. Yna, casglwch y pryfed yn ofalus, a rhannwch hwy i botiau addas er mwyn eu hadnabod.
[Defnyddiwch allwedd i adnabod y pryfed.]

YMCHWILIAD 2 – CADWYNI BWYD

Yn ôl yn yr ystafell ddosbarth, chwiliwch mewn llyfrau neu ar y we am wybodaeth am yr hyn y mae anifeiliaid bychan y goedwig yn ei fwyta. Beth sy’n eu bwyta hwythau?
Ceisiwch greu cadwyni bwyd er mwyn dangos sut mae holl drigolion y goedwig yn dibynnu ar y coed ac ar ei gilydd.

Cadwyn fwyd yn y goedwig

Dail
Pryfed
Aderyn

Gwaith celf y gadwyn
Gwnewch fodelau neu luniau ar garbwrdd o greaduriaid y coed derw, trefnwch hwy mewn cadwyni bwyd, cysylltwch hwy â chortyn tenau neu edafedd a gosodwch hwy i hongian o’r nenfwd fel symudyn (mobeil.)

 

 

GÊM CADWYN A GWE!

Bydd arnoch angen:

a) Casgliad o luniau o gylchgronau neu a wnaethpwyd gan y disgyblion i ddangos yr haul, dail, lindys, pryfed, chwilod, glöynnod, gwyfynnod, adar (gan gynnwys y gwybedog brith, wrth gwrs!) a mamaliaid y goedwig.

b) Sawl darn o gortyn tenau neu edafedd

c) Siswrn

ch) Digon o le – ystafell glir o ddodrefn neu iard wag

Cyn cychwyn, rhowch un llun i bob plentyn yn y dosbarth.

---------------------------------------------------------------------------------

CREU CADWYN

Gofynnwch i’r plant symud o gwmpas a threfnu eu hunain yn gadwyni bwyd.

CREU GWE

a) Gosodwch y dosbarth i sefyll mewn cylch a rhowch ben darn o gortyn i’r person sy’n dal llun yr haul.

b) O gwmpas y cylch, chwiliwch am blanhigyn, yna anifail llysysol,
anifail cigysol ac yn y blaen, a chysylltwch hwy gyda’r cortyn sy’n dirwyn o’r haul. Gwnewch gymaint o gadwyni bwyd ag y medrwch, gan ddefnyddio pawb yn y cylch. Yn fuan iawn byddwch wedi creu gwe fwyd gymhleth.


TORRI’R GADWYN – pwyntiau trafod
Dyma pryd y bydd angen y siswrn arnoch!

a) Beth sy’n digwydd i’r we os torrwch ddarn o’r cortyn?

b) Sut gall cadwyni bwyd y goedwig gael eu torri?

c) Beth fyddai’n digwydd i’r anifeiliaid pe bai hyn yn digwydd?

ch) Chwiliwch am enghreifftiau lleol a ledled y byd lle mae dyn wedi amharu ar weoedd bwyd.