Dyma restr o 10 o goed cyffredin Cymru.
Chwiliwch mewn geiriadur neu lyfr addas arall am yr enw Saesneg yna
ysgrifennwch hwnnw wrth ochr pob un. Byddwch wedyn yn medru chwilio am
fwy o wybodaeth mewn llyfrau a safleoedd gwe yn y ddwy iaith.
| |
Cymraeg |
Saesneg |
|
Cymraeg |
Saesneg |
| 1 |
Bedwen |
........................... |
6 |
Derwen |
........................... |
| 2 |
Castanwydden |
........................... |
7 |
Draenen |
........................... |
| 3 |
Celynnen |
........................... |
8 |
Gwernen |
........................... |
| 4 |
Collen |
........................... |
9 |
Masarnen |
........................... |
| 5 |
Criafolen |
........................... |
10 |
Ywen |
........................... |
| 1 |
Rydym ni a’r wiwer yn hoffi
bwyta cnau y goeden hon. |
.................................... |
| 2 |
Mae rhisgl y goeden hon yn olau fel arian. |
.................................... |
| 3 |
Mae hi’n byw yn hen ac yn aml yn tyfu wrth
yr eglwys. |
.................................... |
| 4 |
Diolch i hon am goncyrs i chwarae â nhw
yn yr hydref. |
.................................... |
| 5 |
Roedd pobl ers talwm yn coelio ei bod hi’n
cadw’r diafol i ffwrdd. |
.................................... |
| 6 |
Enw ffrwythau’r goeden hon yw mes. |
.................................... |
| 7 |
Sycamorwydden ydy enw arall y goeden hon. |
.................................... |
| 8 |
Hon sy’n rhoi aeron coch i ni i addurno
ein cartrefi at y Nadolig. |
.................................... |
| 9 |
Gallwch ddod o hyd i hon yn tyfu mewn tir gwlyb. |
.................................... |
| 10 |
Gwyliwch eich bysedd – mae gan hon hen
bigau cas. |
.................................... |