spacer

spacer spacer
 

Bydd llawer ohonoch yn adnabod pennawd ein gwerifyn newydd – wedi ei fenthyca o enw un o’n llyfrau natur cyntaf. Coed yw ein thema y tro hwn, a dyna sydd gennym – agweddau gwahanol ar y cynefin arbennig hwnnw. Mae rhaid i ni gydnabod gyda diolch y nawdd a gawsom eleni gan y Comisiwn Coedwigaeth. Teimlwn hefyd ei bod yn ddyletswydd arnom gydnabod ein dyled i arloeswyr addysg yr amgylchedd ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.

Mae’r un wefr i’w theimlo heddiw â phan yn blentyn wrth droi at yr hen lyfr, gyda llun o ddwy wiwer goch arswydus o fawr ar glawr un o’r cyfrolau. Mae ein llun bach ni yn nes ati o ran maint, ond gresyn fod llai o gyfle i blant ein hoes ni weld yr anifail byw na phan gyhoeddwyd y llyfr.

Arloeswr arall yn y maes oedd y diweddar Ted Breeze Jones, athro penigamp a naturiaethwr ysbrydoledig, a arweiniodd genhedlaeth gyfan i fwynhau a deall rhyfeddodau ein hamgylchedd. Y tro hwn, cawn y fraint o gyflwyno addasiad o un o’i ddarnau sydd yr un mor werthfawr a pherthnasol â phan y’i cyhoeddwyd gyntaf.

Mae coed yn destun amserol iawn, gan fod y ffilmiau diweddar o waith J. K. Rowling a Tolkien yn atgyfnerthu delwedd y goedwig fel lle o ddirgelwch a chyfrinach. Cafodd y goedwig ddylanwad gref ar ddychymyg dyn o’r cychwyn, a lle anrhydeddus mewn chwedloniaeth. Mae’n dda o beth i’n disgyblion sylweddoli pwysigrwydd coedwigoedd i’r byd ac mai ffolineb peryglus yw eu diystyrru. Rhaid cofio dial dychrynllyd fforest hynafol Tolkien ar y rhai a fu’n ei chamdrin a’i dinistrio.

Cyfrifoldeb athrawon yw asesu peryglon unrhyw weithgaredd neu ymweliad

 

Cliciwch ar enw'r awdur i fynd ymlaen

Y GWYBEDOG BRITH

GWYBOD AM GOED

CAWL COED

BELE'R COED

Y GOEDEN

COED YN YR HYDREF

BYWYD Y DDERWEN