Dadansoddiad llenyddol ac astudiaeth faes gan Meira Shakespear

Y gerdd

 

Gwelais y Gwanwyn araf
yn concro llymder dy frigau,
ac yna'r dail yn dod
i ysgwyd fel dillad babanod ar y lein.
Daeth arogleuon dy ffresni
trwy ffenestr f'ystafell wely,
i gorddi'r gwaed.

 
Gwelais yr Haf
yn galw allan dy faneri gwyllt
a rhoi it lawnder ffurf,
nes oeddit fel brenhines falch
yn hawlio'r prynhawnau i gyd,
a'r haul yn suddo i esmwythyd dy fynwes.
 
Gwelais yr Hydref dolurus
yn sychu'r clwyfau yn dy ddail,
a'th adael ym mwlch y machlud
yn delpyn fflamgoch,
a'th boenau'n gweiddi'n uchel.
 
Heddiw
mae'r Gaeaf ar dy war
ac nid oes dim cuddiedig mwy;
diosgwyd dy ddillad bob pilyn
a gwêl y llygaid manwl
dy golfenni a'th geinciau hagr,
a thithau'n druan diymadferth
yn gywilydd i gyd.

W. Rhys Nicholas.

 

 


Dadansoddiad

Y mae canolbwyntio ar union eiriau awdur yn help i gofio a deall ei waith. Dyma pam y mae gofyn i chi DDYFYNNU ymadroddion a llinellau yma a thraw

Yn y gerdd hon, mae'r bardd yn sôn am y newid mewn coeden dros flwyddyn.
Mae'r pedwar tymor yn cyfateb i bedwar cyfnod mewn bywyd, gan ddechrau gyda llawenydd ieuenctid a gorffen gyda hacrwch a thristwch henaint – ein hoes ni yw blwyddyn y goeden. Mae'n ddiddorol cymharu’r gerdd â "Saith Oedran Gŵr" William Shakespeare, lle ceir yr un syniad o deithio o'r crud i lan y bedd. Darllenwch y darn bythgofiadwy hwnnw, neu gwrandewch ar rywun yn ei ddarllen.

Efallai mai’r gwrthgyferbyniad rhwng gogoniant y goeden yn yr haf a’i thrueni yn y gaeaf yw pwynt mwyaf bythgofiadwy’r gerdd. Mae’n ddiddorol sylwi fod y bardd yn dewis gorffen mewn anobaith du yn hytrach na thrwy edrych ymlaen at adfywiad y goeden pan ddaw’r gwanwyn, er mai dyna drefn anochel natur.

1 Yn y pennill cyntaf, gwelwn y goeden yn y Gwanwyn, pan yn araf bach mae bywyd yn dychwelyd gyda geni'r dail. Mae'r dail yn dweud wrth bawb fod bywyd yn ailgychwyn, ac mae'r bardd yn dweud eu bod

DYF__________________________________________________
..... cymhariaeth addas iawn gan mai dyma un ffordd sicr o wybod fod babi bach newydd wedi ei eni mewn tŷ. Sonia'r bardd am y cyffro mae'r goeden yn ei roi iddo yntau yn y llinellau
DYF__________________________________________________
__________________________________________________
 

2 Nesaf, daw'r Haf, a gwelir y goeden yn urddasol a hardd fel

DYF__________________________________________________
Dyma gymhariaeth arall drawiadol dros ben, gan fod y goeden wedi ei gwisgo'n foethus, gyda baneri brenhinol, yn teyrnasu dros bopeth o’i chwmpas. Dyma'r cyfnod pan mae'r goeden ar ei gorau, yn ei gogoniant, yn gryf, yn llwyddiannus ac yn brydferth.
 

3 Yn hwyrach mewn canol oed, daw salwch yn amlach i boeni llawer o bobl, a felly hefyd yn hanes y goeden. Daw'r Hydref â newid difrifol yn ei hymddangosiad; mae hi fel petai'n heneiddio a dirywio. Mae'r dail yn newid lliw, ac mae'r bardd yn gweld coch y dail fel gwaed o glwyfau. Ni cheir gwaed a chlwyfau fyth heb deimlo poen, a dywed fod y goeden yn dioddef

DYF__________________________________________________
 

4 Yn y pennill olaf, gwelwn y goeden yn nhymor y Gaeaf, ar ddiwedd oes y flwyddyn, heb ddail i'w chuddio na'i haddurno. (Llwydda llawer gwraig i edrych yn ddeniadol yn ei henaint mewn dillad hardd a chwaethus, ond gallai’r stori fod yn wahanol o’i gweld yn noethlymun!) Personolir y Gaeaf fel rhywun sy'n dal y goeden yn ei afael didrugaredd:

DYF__________________________________________________
Collodd y goeden ei gwisg hardd
DYF__________________________________________________
ac fel unrhyw berson sy'n cael ei ddal yn noeth, mae'n
DYF__________________________________________________
Pan ddaw henaint, ni ellir cuddio gwir gyflwr truenus y goeden fwy nag y gellir cuddio'r gwir am ein beiau ni.

 

 

Astudiaeth faes

Agor ein llygaid i’r hyn sydd o’n cwmpas, boed yn naturiol neu o waith llaw dyn, yw un o swyddogaethau llenyddiaeth – ein harwain i ganfod gwirioneddau elfennol am y byd ac amdanom ni ein hunain. Weithiau, bydd dehongliad personol yr awdur yn taro tant, ond ar brydiau eraill, yn ennyn adwaith cwbl groes. Y mae’r ddau ymateb yr un mor werthfawr a dilys – y mae rhaid i bob unigolyn ganfod y byd o’i gwmpas yn ei ffordd bersonol ei hun.

Ar ôl deall ac astudio’r gerdd, ewch i chwilio am unrhyw goeden gollddail– mewn gardd neu barc, ar ganol cae, wrth ochr ffordd, yn unrhyw le.

Cadwch lygad ar eich dewis goeden trwy gydol blwyddyn
- gwyliwch sut mae hi’n newid o wythnos i wythnos, o fis i fis
- cadwch gofnod o hyn i gyd
- meddyliwch am ansoddeiriau, am gymariaethau a throsiadau addas
- cymerwch luniau ohoni â chamera neu gwnewch frasluniau ohoni.

Ar ddiwedd blwyddyn gron, astudiwch eich hargraff o hynt a helynt eich coeden, a meddyliwch am y pwyntiau canlynol:

Sut ydych chi’n canfod y goeden – yn yr un ffordd â Rhys Nicholas, neu mewn rhyw ffordd arall?
Ai cyfnod ffresni a gobaith ydy ieuenctid i chi?

Ydy lliwiau’r hydref yn sôn wrthych chithau am friwiau a phoen?
Ydyn nhw’n sôn am rywbeth arall, efallai?

Beth am y gaeaf – ydych chi o’r un farn â’r bardd ac yn gweld y goeden yn ddiymadferth a hagr neu yn – beth?
Ydy henaint yn golygu anobaith a cholli urddas yn eich golwg chi?

Yn awr, lluniwch CHI gerdd eich hun am flwyddyn y goeden – ac os mynnwch,
am einioes dyn.

Dewiswch y mydr a’r ffurf sydd yn apelio atoch. Cerdd benrhydd ydy un Rhys Nicholas, ond un sydd yn perthyn i’r traddodiad telynegol gan ei bod yn:
- gryno
- wedi ei seilio ar brofiad syml
- yn cyflwyno ymateb y bardd i’r profiad hwnnw.

 

Hoffech chi weld eich cerdd yn cael ei
chyhoeddi ar wefan Gwaith Maes neu
efallai gan fudiad amgylcheddol arall?

Os felly, gyrrwch eich gwaith atom ni
(gweler y wefan am y cyfeiriad golygyddol)
a bydd yn bleser mawr gennym drefnu hynny.