
Mae’n holl bwysig deffro ymwybyddiaeth o’u cynefin mewn plant os ydym ni am ddiogelu cyfoeth y gorffennol. Mae hen enwau lleol dan fygythiad oherwydd amryw o resymau, megis adeiladu a lledu ffyrdd, adeiladu stadau o dai ac unedau diwydiannol a mewnfudiad i gefn gwlad cynifer o bobl nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth na diddordeb yn eu cynefin newydd.
Nid oes fawr ddim yn dweud mwy am gefn gwlad, ei bywyd a’i phobl, nag enwau caeau – cawn wybodaeth am berchennog neu denant (perchnogaeth,) lle mae’r cae (lleoliad,) nodweddion amlwg y cae (topograffi) a’i ddefnydd (amaethyddiaeth.)
| Perchnogaeth |
- enw’r perchennog neu denant:
Cae Ifan, Cae Malach, Ffridd Bulkeley, Cae Llan
- ei waith:
Cae Gof, Cae Sadler, Cae Person
(Gan fod cymaint o bobl â’r un enw, ac hefyd cymaint o bobl fel chwarelwyr neu fân grefftwyr yn ffermio ychydig gaeau i ychwanegu at incwm y teulu, roedd defnyddio galwedigaeth y tenant neu’r perchennog yn osgoi dryswch.)
- ei gartref:
Cae Hafod Ucha, Cae Tyddyn Charles, Dôl Plas |
| Lleoliad |
Fel rheol mae’n cysylltu cae gydag adeilad neu fan arbennig arall:
Cae Cefn Tŷ, Waun Defeity, Cae Tan Fynwent,
Cae Pella, Banc Top |
| Topograffi |
Gall y nodweddion dan sylw fod yn rhai naturiol:
Cae Gors, Cae Ffynnon, Cae Bryn Bach, Cae Cerrig
neu o waith llaw dyn:
Clwt Chwarel, Cae’r Odyn, Dôl Sarn, Cae Sgubor
Y mae’r maint a’r siap yn aml yn cael sylw:
Cae Bach, Ffridd Fawr, Llain Hir, Cae Main, Cae Crwn
a lliw y pridd neu’r tyfiant hefyd:
Waun Felen, Cae Du, Cae Glas, Tyle Brith |
| Amaethyddiaeth |
Prif reswm bodolaeth cae yw er mwyn tyfu cnydau:
Cae Haidd, Bryn Gwenith, Cefn Gwair
(Nid yw enw felly’n golygu o angenrhaid mai dyna a dyfid yno bob blwyddyn; gall olygu fod y cnwd hwnnw’n tyfu’n arbennig o dda yno.)
ac er mwyn magu anifeiliaid:
Cae Moch, Twyn Merlod, Cae’r Fuches
Yr oedd rhai caeau’n dipyn o gur pen i’r ffermwr:
Cae Garw, Clwt Rhedyn, Cae Drain
a rhai’n cael eu defnyddio i ddibenion eraill:
Cae Calch, Cae Marl, Cae Brics |
---------------------------------------------------------------------------------------------------
YMARFERION YSTAFELL DDOSBARTH
1. Mae Map 1 yn dangos y caeau sydd gan ddyn o’r enw Dafydd Morgan.
Ceisiwch ddyfalu’r rheswm dros bob enw.
2. Mae Map 2 yn dangos caeau William Morgan, sef brawd Dafydd.
Ar y map, mae gan bob cae rif, ond dim enw.
Yng ngholofnau 1,3 a 5 y tabl isod, ceir rhestr o enwau caeau William.
[a] Penderfynwch pa un o’r enwau sydd yn perthyn i ba rif,
a rhowch rif y cae hwnnw gyferbyn â’r enw priodol.
[b] Cymharwch eich hatebion â rhai gweddill y dosbarth gan drafod y rhesymau dros eich dewis.
Map 1

Map 2

3. Lluniwch fap eich hun o fferm ddychmygol gan roi enwau i bob un o’r caeau. Cewch awgrymu mwy nag un enw, os mynnwch, ond rhaid nodi’r rheswm dros bob enw.

Ymchwil yn y Maes
Dyma enghreifftiau o gwestiynau y dylech fod yn barod i’w gofyn:
| Cae Hwyiaid (ond heb lyn o unrhyw fath ynddo) |
Ble fyddai’r pwllyn wedi bod?
Pa bryd y sychwyd y pwll i gael gwell tir pori?
|
| Un cae lle mae hen fap yn dangos tri |
Pa bryd y chwalwyd y gwrychoedd neu’r cloddiau?
Oes sôn am enwau’r tri chae unigol?
|
| Cae Brics |
Oes sôn am grasu brics yn yr ardal?
Oes enwau neu dystiolaeth arall yn sôn am weithio clai yn y cyffiniau? |
| Cae Cerrig |
Ai cae caregog ac felly anodd ei drin oedd hwn?
(Archwiliwch y pridd ac edrychwch am bentyrrau o gerrig ar ei ymylon.)
A fyddai’r trigolion lleol yn cloddio yno am gerrig i godi waliau?
(Oes arwyddion o chwarela a chreigiau yn agos at yr wyneb?)
|
| Cae Sadlar |
A glywsoch chi sôn am rywun o’r pentref yn gwneud cyfrwyau ac offer lledr arall i geffylau?
|
YMCHWIL HANESYDDOL BELLACH
Y mae rhai caeau’n bodoli ers 600 mlynedd. Rhwng 1750 ac 1830, cafodd llawer o gaeau eu creu allan o dir comin o ganlyniad i’r Deddfau Cau Tir. Y mae hen fapiau a dogfennau e.e. llyfrau cownt stadau a mapiau degwm (rhent oedd yn ddyledus i’r Eglwys) ar gael trwy gysylltu â Swyddog Addysg yr archifdy lleol.
Pwrpas y Llyfr Degwm oedd dangos
- enw pob perchennog
- enw pob tenant
- enw pob cae
- maint pob cae
- cynnyrch pob cae
- rhent pob cae (i’w dalu i gynnal gwaith yr Eglwys yn y plwyf)
Fel arfer, mae’r Mapiau Cau Tir yn dangos lleoliad, maint ac enw pob cae.
Gyda’r wybodaeth hon, gallwch fynd allan i holi ffermwyr a thrigolion eraill. Y mae’n ddiddorol gweld faint o’r wybodaeth sydd yn dal yn cael ei ddefnyddio 200 mlynedd yn ddiweddarach.
Cofiwch:
a] Mynnwch ganiatâd rhieni neu athrawon cyn mynd o gwmpas i holi.
Y mae mynd fesul dau neu dri yn syniad da hefyd.
b] Efallai y bydd gan bobl hŷn yr ardal gof am enw llwybr neu furddun nad oes neb heddiw’n rhoi fawr o sylw iddo.
c] Gwrandewch yn amyneddgar a chofiwch fanylion y mân siarad fel
“Meri Jôs oedd yn byw’n fanna – rêl hen g’nawas oedd hi ‘fyd.
Gof oedd ei thad hi – roedd ‘na dri gof yn y plwy’ ‘stalwm a’r tri’n frodyr.”
neu “Cae’r Pannwr? Wel, Tomos Puw o’dd yn byw yn y Pandy a glywes i Wncwl Dai’n gweud ‘i fod e’n cadw caseg fach yn y ca’ ‘na.”
|