1

Dyfod pan ddêl y gwcw,
Myned pan êl y maent,
Y gwyllt atgofus bersawr,
Yr hen lesmeiriol baent;
Cyrraedd, ac yna ffarwelio,
Ffarwelio, ... Och na pharhaent!

2

Dan goed y goriwaered
Yn nwfn ystlysau'r glog,
Ar ddôl a chlawdd a llechwedd
Ond llechwedd lom yr og
Y tyf y blodau gleision
A dyf yn sŵn y gog.

   

3

Mwynach na hwyrol garol
O glochdy Llandygái
Yn rhwyfo yn yr awel
Yw mudion glychau Mai
Yn llenwi'r cof â'u canu;
Och na bai'n ddi-drai!

4

Cans pan ddêl rhin y gwyddfid
I'r hafnos ar ei hynt
A mynych glych yr eos
I'r glaswellt megis cynt,
Ni bydd y gog na'i chlychau
Yn gyffro yn y gwynt.

   
  R. Williams Parry

 

Byd natur yw ysbrydoliaeth llawer o lenyddiaeth ac mae’r delyneg enwog hon yn rhoi cystal darlun o’r gwanwyn ag unrhyw ddisgrifiad gwyddonol – yr un mor gywir ond yn fwy hudolus.

Un peth ydy astudio’r amgylchedd ond i ofalu amdano yn iawn, rhaid ei garu. Mae dychymyg bardd yn aml yn gallu arwain at well amgyffred a gofal ohono.

I ddeall y neges yn iawn, bydd angen chwilio am unrhyw eiriau dieithr mewn geiriadur; crefft gynnil yw barddoniaeth lle mae pob gair yn bwysig.

 

Pennill 1

Mae’r bardd yn hoelio ein sylw ar unwaith ar enw’r blodau hyfryd hyn, sef
clychau’r gog
(Saesneg: bluebells Lladin: Endymion nonscriptus.)

Mae clychau yn disgrifio ffurf y blodau, ond pam clychau’r gog?

Pryd mae’r gog (y gwcw) yn cyrraedd ein gwlad a phryd mae hi’n rhoi’r gorau i ganu ac yn ymadael? Pryd mae clychau’r gog yn blodeuo ac am ba hyd?

Pam felly y cafodd y blodau eu henw?

Dyfynnwch (h.y. copïwch yn union gywir) y ddwy linell o’r pennill sydd yn egluro hynny.

.......................................................................................................................

......................................................................................................................

 

Pennill 2

Mae sylwi ar gynefin planhigion yn elfen bwysig o waith botanegwyr a dyma’r union beth mae’r bardd yn ei wneud yma. Mae’n sôn fod y blodau hyn yn tyfu dan gysgod coed, ar lethrau’r bryn, yn y weirglodd ac ar y cloddiau … ym mhobman ond ar dir sy’n cael ei aredig yn gyson gan amaethwyr.

Ble welsoch chi glychau’r gog yn tyfu’n wyllt?
Ydy ffeithiau’r bardd yn gywir?

Yn ôl yr arbenigwyr, mae clychau’r gog bob amser yn dangos lleoliad coedlannau, er eu bod efallai wedi diflannu erbyn hyn, a chanrifoedd yn ôl swatiai’r rhan fwyaf o dir Cymru dan orchudd o goed.

Ydy tystiolaeth cynefin clychau’r gog yn cadarnhau’r syniad hwn?

Yn y cwpled olaf, mae Williams Parry yn ein hatgoffa o’r cysylltiad rhwng y blodau a thymor y gwcw trwy ddweud fod y .............................................
yn tyfu ....................................................................................................

(Dyfynnwch yr union eiriau o’r gerdd.)

 

Pennill 3

Nid dysgu am y blodau yr ydym yma, ond yn hytrach dod i ddeall sut mae dychymyg y bardd yn eu gweld a’u clywed. Er ei fod yn gwybod yn iawn mai clychau mud yw’r blodau, iddo ef maen nhw’n fwynach na chlychau enwog eglwys Llandygai. Mae gwyddor ffiseg yn ein dysgu mai mewn tonnau mae sŵn yn teithio trwy’r awyr ac mewn tonnau y byddwn yn “clywed” arogl y blodau ar y gwynt.

Darllenwch am glychau’r gog mewn cyfeirlyfr blodau.

Ai’r disgrifiad hwnnw neu’r gerdd sydd yn dod â’r blodau’n fwyaf byw i chi?
Ydy ffeithiau moel yn ddigon i’ch cael chi i werthfawrogi natur?

Mae Williams Parry yn sôn sut y bydd yn cofio hyfrydwch y blodau ac yn hiraethu ar eu hôl. Dyfynnwch y gwpled lle mae’n dweud hynny.

.........................................................................................................................

.........................................................................................................................

Pennill 4

Wedi’r gwanwyn, mae’r haf yn dod â’i flodau hyfryd ei hun: gwyddfid
(Saesneg: honeysuckle Lladin: Lonicera periclymenum) gyda’i arogl godidog, a chlychau’r eos (Saesneg: harebell Lladin: Campanula rotundifolia) sydd hefyd yn las ac yn dwyn enw aderyn enwog am ei gân.

Ydych chi’n gyfarwydd â’r blodau hyn?
Chwiliwch amdanyn nhw mewn cyfeirlyfr os oes angen.
Glywsoch chi eos yn canu erioed?

Dyfynnwch y gwpled sydd yn dweud ar ba adeg o’r dydd mae arogl gwyddfid ar ei orau:

.......................................................................................................................

.......................................................................................................................

a’r gwpled sydd yn sôn am lle mae clychau’r eos yn tyfu:

......................................................................................................................

......................................................................................................................

Ond, dydy blodau’r haf ddim yn cysuro’r bardd yn ei hiraeth.
Erbyn iddyn nhw ddod mae ieuenctid wedi darfod a’r gog a’i chlychau wedi mynd.

Ydy’r gerdd yn rhoi llawer o wybodaeth
am y gog?

 

Beth mae’r llun ar y dde yn ei ddangos?

Beth ydy arferion nythu a magu’r gog?
(Chwiliwch am y wybodaeth os oes angen.)

Yn eich barn chi, pam na ddewisodd
Williams Parry sôn mwy am y gog?

 

  Llun: RSPB