Mae ymweld â threfi glan y môr, yr arfordir a thraethau yn ddiddorol a chyffrous.
Ond, feddylioch chi rywdro am y bobl a oedd yno yn yr un lle gannoedd a miloedd o flynyddoedd o’ch blaen chi? Gadawodd eu gweithgaredd eu holion ar y tirlun. Mae archaeolegwyr yn defnyddio’r “cliwiau” hyn i ddysgu am ein cyndadau a’u dull o fyw.

 

Dyma rai enghreifftiau o beth sydd i’w weld ar arfordir Cymru.

Bryngaearau

Dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl roedd pobl yn byw mewn bryngaerau dros Gymru gyfan, ac mae amlinelliad y rhain i’w gweld heddiw. Mae’r llun ar y chwith yn dangos sut y defnyddiodd ein cyndadau yn Oes yr Haearn dirwedd naturiol yr arfordir i’w helpu i’w amddiffyn eu hunain.

Fedrwch chi ddod o hyd i fryngaer Oes yr Haearn yn agos i’r dref neu’r pentref lle rydych chi’n byw?

Bryngaer Greenala, Llandyfái
© Hawlfraint y Goron
 
   

Cestyll

Mae gan lawer o drefi arfordir Cymru gastell.
Pam yn eich barn chi y cafodd cestyll eu hadeiladu ar hyd yr arfordir?

Edrychwch ar y llun ar y dde o gastell Cricieth.

Pam ddechreuodd Llywelyn Fawr adeiladu castell yma?

 
Castell Cricieth © Hawlfraint y Goron

 

Ydych chi’n gweld sut mae’r clogwyn yn ffurfio mur naturiol?
Byddai hwn yn amddiffynfa ychwanegol yn erbyn ymosodiadau o’r môr.

 

 

Y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918) a’r Ail (1939-1945)

Hyd yn oed yn ystod yr ugeinfed ganrif yr oedd yn bwysig medru amddiffyn y wlad yn erbyn ein gelynion ar hyd yr arfordir. Yng Nghymru gallwn weld adeiladau a godwyd i amddiffyn yn erbyn goresgyniad o’r môr neu’r awyr. Hefyd, roedd milwyr yn ymarfer ymladd mewn rhai mannau wrth lan y môr.

Fedrwch chi ddod o hyd i dystiolaeth o amddiffynfeydd o’r cyfnod hwn?
Efallai y dewch ar draws safle gynnau neu gloddiau gwrth-danc.

Defnyddiodd milwyr dir ger y môr ym Mhenali yn ymyl Dinbych y Pysgod ac yn Neganwy yn ymyl Llandudno i ymarfer cloddio ffosydd lloches yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fedrwch chi eu gweld yn yr awyrlun ar y dde?

 
Ffosydd Penali © Hawlfraint y Goron

Byw wrth y môr

Cyn adeiladu ffyrdd da neu reilffyrdd yr oedd llawer o bobl yn defnyddio cychod neu longau fel y dull mwyaf effeithiol o gludo nwyddau. Dyma pam cafodd cymaint o drefi’r Oesoedd Canol eu sefydlu ar yr arfordir. Yr oedd cael harbwr naturiol i’r llongau yn fantais fawr e.e. yng Nghaergybi.

Ar hyd yr arfordir medrwn ddarganfod tystiolaeth o wahanol ddiwydiannau e.e. adeiladu cychod, trin metelau, tai halltu neu odynau calch. Welsoch chi rai erioed?

Odynau calch Craiglas, Llanrhystud
© Hawlfraint y Goron
Cored Llwyngwril © Hawlfraint y Goron

 

Am ganrifoedd bu pysgotwyr yn defnyddio cored (trap pysgod) mewn unrhyw fan addas ar hyd yr arfordir i ddal pysgod. Mae gweddillion rhain i’w gweld mewn rhai mannau yng Nghymru pan mae’r llanw ar drai e.e. Llwyngwril. (Gweler y llun ar y dde uchod.)

Felly, y tro nesaf y byddwch yn cerdded ar y traeth neu lwybr y glannau, edrychwch o’ch cwmpas. Ydych chi’n gallu gweld unrhyw dystiolaeth hanesyddol?

 

 

 

Y Comisiwn Brenhinol yw prif gorff y llywodraeth sy’n gyfrifol am arolygu a chofnodi adeiladau hanesyddol a safleoedd archaeolegol Cymru.

Mae’n gofalu am Gofnod Henebion Cymru sy’n gallu darparu deunydd ar gyfer eich hysgol chi: ffotograffau, awyrluniau, mapiau a darluniau o’ch hardal leol.

   

Os hoffech chi wybod mwy am safleodd hanesyddol diddorol yn eich ardal leol, gallech chwilio COFLEIN – bas data archaeoleg a phensaerniaeth ar ein gwefan: www.rcahmw.org.uk

Ceir casgliad o awyrluniau ar wefan “Casglu’r Trysorau” (Gathering the Jewels) www.gtj.org.uk

Hoffech chi dderbyn deunydd neu drefnu ymweliad?
Cysylltwch ag Angharad Williams ein Swyddog Addysg.
Ffôn: 01970 621248
e-bost: angharad.williams@rcahmw.org.uk
neu
Cysylltwch â’n gwasanaeth ymholiadau
Ffôn: 01970 621200
e-bost: nmr.wales@rcahmw.org.uk

Gellir hefyd gwneud ymholiadau trwy ein gwefan: www.rcahmw.org.uk

CBHC
Plas Crug, Aberystwyth
Ceredigion SY23 1NJ