Gwyfyn yr ymerawdr

Mae pawb yn adnabod y glöyn byw, ond i’r rhan fwyaf o bobl, creaduriaid y nos sydd yn mynd sblat! ar sgrîn y car neu SSSS! ar y golau ydy gwyfynod – a dyna’r cyfan. Mae’r hen enw “pry cannwyll” yn dal i’w glywed ond nid ydym yn gwybod llawer am wyfynod – er enghraifft, pryd maen nhw’n ymddangos, effaith tywydd ar eu niferoedd, ac ar beth maen nhw’n bwydo.

Ers rhai blynyddoedd, bûm yn astudio gwyfynod yn fy ngardd yn Waunfawr ac mae’r ymarfer hwn wedi ei seilio ar ran fechan o’r data sydd wedi ei gasglu.

 

Rhywogaethau

 

Cymraeg Lladin Saesneg
Mapadeiniog Fusconebulosa Mapwinged swift
Gwyfyn y gwyddfid Ypsolopha dentella Lonicera moth
Perlen wellt olau Udea lutealis Pale straw pearl
Tortrics rhosyn gardd Acleris variegana Rose tortrix
Gwairwyfyn cyffredin Agriphila tristella Veneer
Gwairwyfyn gwelltog Agriphila straminella Grass veneer
Gwyfyn ffrwythau Pandemis cerasana Tortrix

 

I weld lluniau o’r gwyfynod hyn, chwiliwch mewn cyfeirlyfr safonol addas, neu ar y we gan ddefnyddio’r enwau gwyddonol Lladin yn ogystal â’r enwau Cymraeg a Saesneg i wneud yn siwr o gael hyd i’r gwyfyn cywir.

 

YMARFER 1

Tabl 1

Rhywogaeth
1998
1999
2000
2001
2002
2003
Mapadeiniog
1
3
0
14
0
7
Gwyfyn y gwyddfid
0
3
0
6
4
5
Perlen wellt olau
0
7
7
1
0
2
Tortrics rhosyn gardd
0
9
6
9
7
15
Gwairwyfyn cyffredin
1
43
18
73
25
99
Gwairwyfyn gwelltog
1
43
27
142
15
17

 

Ar sail gwybodaeth tabl 1, atebwch y cwestiynau canlynol:

1 Pa wyfyn oedd y mwyaf niferus yn 2003? ................................................
2 Pa wyfyn oedd y prinnaf yn 2001? ................................................
3 Sawl tortrics rhosyn gardd gafodd ei gofnodi ym 1999? ................................................
4 Pa flwyddyn oedd yr orau i wyfyn y gwyddfid? ................................................
5 Pa wyfyn gafodd flwyddyn arbennig o dda yn 2001? ................................................
6 Ym mha flwyddyn y cafodd un berlen wen olau yn unig ei chofnodi? ................................................
7

Ym mha flwyddyn y cafodd y nifer mwyaf o unrhyw wyfyn arbennig ei gofnodi?

................................................
8 O’r 6 rhywogaeth, pa un oedd y mwyaf niferus dros y cyfnod 1998-2003? ................................................
9 O’r 6 rhywogaeth, pa un oedd y prinnaf dros yr un cyfnod? ................................................
10 Pa flwyddyn oedd y salaf oll am wyfynod yn gyffredinol dros y cyfnod? ................................................
11 Roedd haf 2003 yn sych a chynnes. Sut haf oedd un 1998? ................................................
12 Pa haf arall allai fod yn debyg i un 2003? ................................................

Cwestiynau pellach:

13 Pam cafodd y gwyfyn yr enw “pry cannwyll?”

...........................................................................................................................

14 Wyddoch chi, eich teulu neu’r cymdogion am enwau eraill ar wyfynod?

...........................................................................................................................

 

 

YMARFER 2

Tabl 2 – Gwyfynod ffrwythau

Ar sail tabl 2, atebwch y cwestiynau canlynol:

1 Sawl gwaith y cofnodwyd mwy na 6 o’r gwyfynod mewn blwyddyn? ................................................
2 Beth oedd yn hynod am niferoedd y gwyfyn yn 2002? ................................................
3 Pa flwyddyn oedd y mwyaf llwyddiannus i’r gwyfynod ffrwythau? ................................................
4

Yn ôl y siart bar, fyddech chi’n dweud fod poblogaeth y gwyfyn yn a) cynyddu b) lleihau c) nad oes tystiolaeth o gynyddu na lleihau?

................................................

5 Defnyddiwch yr wybodaeth o dabl 1 am niferoedd y tortrics rhosyn i lunio siart bar fel yr un uchod.