| |

 |
 |
 |
| |
“Fel y daw’r gwanwyn –
Dail del a chywion gwyddau,
Pethau felly –
Y mae ar rywun
Eisio sbriwsio,
Bwrw ymaith lwydni
Tra annymunol y gaeaf.
Mae ar rywun eisio edrych ymlaen
At haul a lliwiau,
Llawenydd, tywydd braf –
Pethau’r haf – a, wyddoch chi,
Tipyn o hanci-panci.
Felly dyma fi –
Er mai fi sy’n dweud –
Yn edrych yn ddigon teidi
Ac yn barod, iawn, amdani.” |
|
|
|