Dyma un o’r adar prinnaf yng Nghymru, ac erbyn hyn go brin ei fod yn nythu yma o gwbl. Bellach mae’n un o’r rhywogaethau sydd o dan y bygythiad mwyaf a dim ond ar gyrion Gogledd Orllewin yr Alban a rhai ardaloedd yn Iwerddon y mae’n nythu fel arfer.

Ym 1900 roedd “crec-crec” aflafar ei gân yn gyfarwydd yng Nghymru ac yn ôl y sôn yr oedd nyth i’w gael ym mhob cae yn y wlad. Mae’n aderyn swil, ac mae’n fwy na thebyg mai clywed y crawc unigryw yn unig y byddech, gan mai yn y nos y bydd yr adar yn hedfan ac felly yn anaml iawn maen nhw i’w gweld yn ystod y dydd. Y ceiliog yn unig sy’n galw i gyhoeddi ei diriogaeth, yn gynnar yn y bore neu’n hwyr gyda’r nos.

Mae’n eitha’ cyffredin o hyd yn Arfon dweud fod rhywun â llais cras sy’n rhygnu ymlaen yn ddiflas “fel rheg y rhyg.” Mae’n amlwg mai dyma enw arall ar regen yr ŷd yn yr ardal honno - math o ŷd ydy rhyg (tebyg i haidd/ barlys) ac mae’r alwad yn wir yn swnio fel pe bai’r aderyn yn eich rhegi!


Llun: RSPB

Ffeithiau am Regen yr Ŷd

Ymwelydd haf Maint : 25-28cm
Nodweddion: Llinellau melyn a gwinau ar y cefn, adenydd browngoch, pig a choesau llwyd-binc. Mwy o lwyd ar lwnc a bron y ceiliog.
Galwad: Crawc anfelodaidd, undonog. Mae ei enw Lladin Crex crex yn cyfleu’r s ŵn , fel ei enw Saesneg corn crake.
Cynefin: Gwair a gwellt hir ar gaeau llaith, blodeuog, porfa arw, bôn gwrychoedd ac ymylon ffosydd.
Bwyd: Pryfed a thrychfilod y pridd, hadau a phlanhigion fel cellhesg a danadl.
Nythu: Mis Mai + Gorffennaf/Awst, nyth ar y ddaear ynghudd mewn llystyfiant uchel, 8-12 ŵy gwyrdd-lwyd gyda smotiau brown. Cywion yn gadael y nyth ymhen oriau ac yn hedfan ymhen tua 5 wythnos.

 

TAITH RHEGEN YR ŶD

Mae’r adar yn cyrraedd Prydain ym mis Ebrill ac yn aros yma dros yr haf. Yn y gaeaf maen nhw’n mudo i wledydd Zaire, Kenya, Zambia, Malawi, Mozambique, Zimbabwe a Tanzania lle mae gwres a bwyd ar eu cyfer.

 

ENCILIAD RHEGEN YR ŶD YM MHRYDAIN

Tiriogaeth nythu rhegen yr ŷd

1938-9
1968-72
1991

Ar dir fferm y mae rhegen yr ŷd yn nythu. Ers 1918 dechreuodd ffermio gael ei fecaneiddio ond tua 60 mlynedd yn ôl roedd llawer o ffermwyr cefn gwlad yn dal i ddefnyddio offer llaw fel pladur a chryman. Ers 1945 daeth peiriannau’n gyffredin a chollwyd yr hen ddulliau traddodiadol. Mae cyflymder tractor yn ei gwneud yn anodd i adar a chywion llawr y maes ddianc rhagddo, a goroesodd adar Gogledd Orllewin yr Alban a rhannau o Iwerddon am i ddulliau traddodiadol ffermio barhau yno.

Ar ôl 1945 hefyd defnyddiai ffermwyr fwy a mwy o blaleiddiad a gwrtaith ar y tir, diflannodd ffynonellau bwyd rhegen yr ŷd a thyfai cnydau gwair yn gyflymach yn barod i’w cynhaeafu‘n gynharach, yn enwedig ar gyfer silwair. Hefyd, bu cynnydd mawr yn nifer y defaid yng Nghymru ac ar yr un pryd daeth llai o dyfu ŷd a gwair cadw gan olygu llai o lystyfiant bras i regen yr ŷd.

Y dyfodol – nodyn o obaith

Mae nifer o bobl yn gweithio i geisio atal y golled yn niferoedd rhegen yr ŷd ac i gynyddu’r boblogaeth fechan sydd yn dal ei thir. Yn 2003 sylwodd ymwelydd ag Ynys Iona fod llawer mwy o’r adar i’w clywed yn galw yno nag ym 1998 – efallai arwydd o adfer yr aderyn?

 

Gweithgareddau
1 Chwiliwch am wledydd Affrica lle mae rhegen yr ŷd yn treulio’r gaeaf. Faint o filltiroedd mae’r rhegen yn eu teithio oddi yno i Ynys Lewis yr Alban i nythu?
2 Holwch bobl hŷn eich teulu a’ch hardal. Oes rhywun yn cofio clywed rhegen yr ŷd (rheg y rhyg)?
3 Chwiliwch mewn hen lyfrau, lluniau teulu a lleol, cardiau post a ffynonellau eraill am luniau o hen ddulliau cynaeafu.
4 Ewch i safwe RSPB am yr wybodaeth ddiweddaraf am hanes rhegen yr ŷd .www.rspb.org.uk