|
|||||||||||
Erbyn hyn, dylai pob ysgol yng Nghymru fod wedi derbyn poster yn hysbysebu dyddiad cyhoeddi’r gwerifyn diweddaraf yngyd â braslun o’i gynnwys. Ar hyn o bryd, yr ydym fel Cymdeithas yn rhoi cryn bwyslais ar farchnata Gwaith Maes ac mae’r poster yn rhan o’r ymgyrch i sicrhau fod pob athro yn gwybod am y safwe a’i hadnoddau. Os na welsoch chi’r poster, holwch amdano, ac os na chyrhaeddodd yr ysgol, yna byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn rhoi gwybod i ni trwy gyfrwng y botwm cysylltu uchod.
Mae swmp yr hyn sydd ar gael yn cynyddu’n sylweddol a chyson, ac yr ydym yn ffyddiog y bydd y dull hwn o gyrchu gwair o’r sgubor yn ei gwneud yn haws o lawer i’w ddefnyddio.
|
|||||||||||