Datblygu a defnyddio geirfa ddaearyddol yw un o ofynion penodol y cwricwlwm daearyddiaeth, ac mae pawb sydd yn dysgu’r pwnc yn ymwybodol o rai termau a geiriau sydd yn peri trafferth yn yr ysgolion. Dau air o’r fath yw tirwedd a tirlun. Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y geiriau hyn ac fe all disgrifio lluniau yn ôl tirwedd a thirlun yn aml gynorthwyo i wneud hynny’n gywir.
Cyfeiria’r gair tirwedd yn benodol at uchder a siap y tir, tra mae’r gair tirlun yn cynnwys nid yn unig ffurf y tir ond hefyd y defnydd a wneir o’r tir. Cyfeiria “defnydd tir” at yr adeiladau ar y tir a’r defnydd a wneir o’r adeiladau yn ogystal â’r defnydd a wneir o dir agored.
Ymarfer yn seiliedig ar lun (A) a’r braslun ohono (B)
- Gofyn i’r dosbarth gynnig geiriau i enwi nodweddion a disgrifio uchder a siap
y tir i greu banc geiriau, yna rhestru’r rhai sydd yn disgrifio’r llun dan sylw (A)
- Nodi’r defnydd tir a welir yn y llun er mwyn gwahaniaethu rhwng ystyr
tirwedd a thirlun.
- Labelu’r braslun gan gyfeirio at y tirlun cyfan trwy ddefnyddio’r geiriau sydd yn cyfeirio at y tirwedd yn ogystal â’r defnydd tir.
- Llunio disgrifiad syml mewn brawddegau llawn o’r tirwedd.
- Llunio ail ddisgrifiad tebyg i ddisgrifio’r tirlun cyfan.
Llun (A)
Chwarel y Penrhyn uwchben Bethesda, Gwynedd

Braslun (B)

Atodiad yn seiliedig ar awyrlun (C) o aber Afon Conwy
- Gofyn i’r dosbarth gynnig geiriau i enwi nodweddion a disgrifio uchder a siap y tir i greu banc geiriau, yna rhestru’r rhai sydd yn disgrifio’r llun dan sylw. (C)
- Nodi’r defnydd tir a welir yn y llun er mwyn gwahaniaethu rhwng ystyr tirwedd a thirlun.
- Gwneud braslun yn seiliedig ar y llun (fel a wnaethpwyd ar eu cyfer yn yr ymarfer blaenorol) a’i labelu fel o’r blaen, gan gyfeirio at y tirlun cyfan trwy ddefnyddio’r geiriau sydd yn cyfeirio at y tirwedd yn ogystal â’r defnydd tir.
- Llunio disgrifiad syml mewn brawddegau llawn o’r tirwedd.
- Llunio ail ddisgrifiad tebyg i ddisgrifio’r tirlun cyfan.
i] Gellir ymestyn yr astudiaeth i ystyried pwrpas a defnydd y nodweddion hanesyddol yng nghyd-destun y gorffennol (milwrol a masnachol) a’r presennol (twristiaeth a hamdden.)
ii] Cymerwyd y llun pan roedd twnnel yr A55 yn cael ei adeiladu a buddiol fyddai i ddisgyblion lleol ddringo i ardal castell Deganwy a chymharu’r olygfa erbyn hyn, gan efallai ystyried datblygiadau mwy diweddar Morfa Conwy a Marina Deganwy.
Llun C
Aber Afon Conwy

Llun trwy ganiatâd caredig © Y Goron:CBHC
|