Gobeithio y bydd y lluniau hyn o’r ddau borthladd o fudd i athrawon daearyddiaeth a hanes. Isod, cewch fanylion y mapiau Arolwg Ordnans y bydd eu hangen arnoch i wneud defnydd llawn o’r lluniau. Nid yw’r cwestiynau sydd yn dilyn ond yn awgrymu sbardun cyfleus i gychwyn y gwaith.
Cyhoeddir y lluniau trwy ganiatâd a chydweithrediad Cyngor Brenhinol Henebion Cymru a dymunwn gydnabod eu cymorth gyda diolch.
MAPIAU AROLWG ORDNANS:
| Llun 1 |
Porthmadog |
|
|
|
| |
Landranger 124 |
1:50 000 |
Dolgellau |
[Cyfeirnod 570385] |
| |
|
|
|
|
| Llun 2 |
Doc Penfro |
|
|
|
| |
Landranger 157 |
1:50 000 |
Tŷ Ddewi a Hwlffordd |
[Cyfeirnod 959040] |
Llun 1

Hawlfraint y Goron: CBHC
Llun 2

Hawlfraint y Goron: CBHC
1. Pa wahaniaeth sydd rhwng y mathau o longau sydd i’w gweld yn y ddau lun? Beth mae hyn yn ei ddweud am swyddogaeth y ddau borthladd?
2. Beth sydd yn gwneud y ddau le yn ddelfrydol fel harbwr?
3. Pa nodweddion tirlun y ddau le sydd yn naturiol a pha rai sydd yn waith llaw dyn?
4. Pa ddiwydiant fu’n gyfrifol am dwf Porthmadog ? (Byddai astudio mapiau 1:25 000 neu hen fapiau tua 1925 o’r cyffiniau o fudd i olrhain llwybrau hen reilffyrdd.)
5. Beth yw mantais safle Doc Penfro o safbwynt masnach?
|