Un o elfennau hanfodol bwysig ein hamgylchedd yw coed – coedwigoedd mawrion, coedlannau llai ac enghreifftiau cyffredin fel gwrychoedd a choed unigol yma a thraw. Mae’r gwaith sydd yn dilyn mewn dwy ran yn trin agweddau gwahanol ar astudio coed – y gyntaf yn ystyried ffeithiau maint ac oedran, a’r ail yn canolbwyntio ar y berthynas rhyngddynt â phobl.

Pa mor dal yw’r goeden acw?
Y ffordd fwyaf cywir o fesur uchder coeden yw trwy ddefnyddio clinomedr. Pan fo pen uchaf y goeden mewn llinell â 45°, yr uchder yw’r pellter llorweddol o’r goeden i’r gwyliwr ynghyd â’r pellter fertigol i fyny at lygad y gwyliwr.

Fodd bynnag, nid oes angen offer soffistigedig i fesur uchder coeden. Dyma rai dulliau syml o wneud hynny (addas ar gyfer coed gyda digonedd o le o’u cwmpas yn unig.)

 

1. Gellir dyfalu’r uchder drwy gymharu’r goeden gyda thaldra ffrind sy’n sefyll yn union o’i blaen.

  • mesurwch daldra un plentyn yna gosodwch hwnnw i sefyll yn erbyn y goeden yr ydych am ei mesur.
  • gofynnwch i weddill y grŵp gamu’n ôl, gan ddal eu bawd neu bensil i fyny o’u blaenau nes y bydd yr un uchder â’u ffrind.
  • dylent weld sawl gwaith mae’r bawd neu bensil yn ffitio i ben ucha’r goeden, yna lluosi’r rhif hwnnw gyda thaldra eu ffrind i ddod o hyd i uchder y goeden.

 

2. Dyma ddull syml arall (i’r rhai sydd mewn trwsus yn hytrach na sgert llaes beth bynnag!) Gofynnwch i’r plant

  • sefyll wrth fôn y goeden a ddewiswyd gennych â’u cefnau ati.
  • ddechrau cerdded oddi wrthi.
  • aros pob 2 neu 3 metr, plygu drosodd ac edrych ar y goeden rhwng eu coesau.
  • ddal i gerdded nes gallu gweld pen uchaf y goeden rhwng eu coesau.

Y pellter rhyngddynt â’r goeden yw ei huchder.

 

 

 

Pa mor bell mae’r canopi’n ymestyn?
Gofynnwch i’r plant:

  • ddewis un aelod o’r grŵp i gerdded allan o fôn y boncyff nes ei fod yn sefyll yn union o dan frigyn neu gangen letaf y goeden.
  • fesur y pellter rhwng y plentyn hwnnw â bôn y boncyff. Dyma radiws cylch y canopi.
  • amcangyfrif arwynebedd y canopi mewn centimetrau neu fetrau sgwâr fel hyn:

Po deneuaf yw’r boncyff y cywiraf yw’r canlyniad. Pe baech yn ystyried coeden braff iawn fel hen dderwen oedrannus gallech ddarganfod radiws y boncyff ar ôl mesur ei drwch trwy ddefnyddio’r fformiwla fathemategol ar gyfer darganfod cwmpas cylch, sef

 

 

 

Beth am ei thrwch? Pa mor dew ydy hi?
Mae mesur trwch boncyff coeden yn berffaith hawdd, er bydd angen tâp mesur go hir i fynd o gwmpas hen dderwen urddasol. Efallai y gallech amcangyfrif faint o blant fyddai angen eu clymu wrth ei gilydd i gyfateb i faint boncyff y goeden dan sylw.
(Yr hen dderwen? Rhes gefn y tîm rygbi, mae’n siŵr!)

Fodd bynnag, bydd mesur trwch y goeden yn bwysig wrth ystyried ei hoedran (gweler Pa mor hen yw’r goeden? isod.)

 

 

Pa mor hen yw’r goeden?
Mae pawb yn gyfarwydd â mesur oed coeden trwy dorri’r goeden a chyfrif cylchoedd consentrig, ond mae dulliau ychydig llai dinistriol o gael yr wybodaeth hon.

Gan gofio fod cylchfesur coeden yn chwyddo tua 2.5 cm bob blwyddyn neu bod diamedr coeden yn chwyddo 0.8 cm bob blwyddyn, mesurwch o gwmpas y goeden.

Mae dull cyflymach o fesur coed derw a phinwydd.

Cylchfesur derwen mewn centimetrau ÷ 1.88 = oedran
Cylchfesur pinwydden mewn centimetrau ÷ 3.13 = oedran

 

 

Pa wahaniaeth sydd rhwng coed â’i gilydd?
Dyma weithgaredd o gymorth i adnabod rhai nodweddion sydd yn perthyn i goed yn gyffredinol ynghyd â gwahaniaethau rhwng un math a’r llall.

a) Dewiswch ddwy goeden o fathau gwahanol – rhai â chryn wahaniaeth rhyngddynt e.e. derwen a bedwen neu onnen a phinwydden.

b) Gofynnwch i’r plant gymharu’r ddwy goeden a nodi 5 peth sydd yr un fath, yna gyferbynnu’r ddwy, gan nodi 5 gwahaniaeth e.e. uchder, trwch, siap, ffurf a lliw’r dail, lliw ac ansawdd y rhisgl.

Os am fwy o wybodaeth am waith gwyddonol a mathemategol yn seiliedig ar goed, cysylltwch âr canlynol:

 

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
www.nationaltrust.org.uk

Menter Addysg y Goedwig
www.foresteducation.org.uk