
Dyma ddarn arall o waith dihafal Ted Breeze Jones, wedi ei addasu rhyw fymryn at ofynion heddiw, ond heb golli naws a chyffro’r gwreiddiol.
Dadansoddi – dyna lond ceg o air! Peidiwch â dychryn – mae’n ddigon syml a’i ystyr yw tynnu hen** nythod yn ddarnau er mwyn darganfod beth mae’r adar yn ei ddefnyddio i wneud eu nythod.
**Sylwch yn arbennig ar y gair hen. Ymarfer ar gyfer diwedd haf neu ddechrau hydref yw hwn; rhaid sicrhau fod pob teulu wedi hen adael y nyth cyn ei gyffwrdd. Fodd bynnag cewch well hwyl arni cyn i stormydd ddarnio’r nythod, sydd yn awgrymu mai rhwng Awst a chanol Hydref fyddai’r cyfnod gorau.
Erbyn canol Awst fe fydd y mwyafrif o’r adar wedi gorffen nythu, a’u cywion wedi gadael eu cartrefi am byth i ennill eu tamaid. Gwaith difyr yw cychwyn ar daith efo sach neu fasged i gasglu hen nythod a’u cludo adre i’w hastudio. Trwy ddadansoddi nyth yn ofalus cewch ddarganfod beth gafodd ei ddefnyddio i’w adeiladu – gwair? plu? mwsogl? llaid caled?
Ar ddalen o bapur cryf neu gardbord, gludwch enghreifftiau o’r deunyddiau, labelwch hwy a nodwch enw’r aderyn oedd piau’r nyth os ydych chi’n gwybod pa fath oedd o. I orffen y dasg yn daclus copïwch lun yr aderyn o lyfr adar a’i liwio’n ofalus. Gall dosbarth ysgol ddadansoddi amrywiaeth o nythod, a chreu arddangosfa ar y mur.
|
 |
| Sgwn i pwy fuodd yn byw yn hwn? |
|
Cafodd un o’r plant yn fy nosbarth yn yr ysgol hen nyth titw cynffon-hir/ titw hirgwt ( long-tailed tit ) ac fe aethon ni ati i’w ddadansoddi. Credaf fod y nyth hwn yn un o’r rhai taclusaf a geir yng Nghymru gyfan. Mae’n grwn fel pêl, a thwll bychan yn ddrws iddo. Fe gawson ni fod y cen coed (lichen) a’r mwsogl a gasglodd y titw wedi eu rhwymo yn ei gilydd efo gwe pry cop. Y tu mewn i’r nyth fe gawson ni domen o blu a methai’r disgyblion â deall sut y llwyddodd yr aderyn i’w pacio mor glos ynddo. Fe aethon ni ati i gyfri’r plu a phan ganodd y gloch ginio, roedd gennyn ni 769 o blu mân mân, a mwy ar ôl heb eu cyfrif! Cafodd un adarydd dros 5,000 o blu mewn nyth titw cynffon-hir, a chefais innau 276 mewn nyth dryw bach ( wren ) un tro.
Defnyddia ambell aderyn daclau rhyfedd i adeiladu nyth. Mi welais i fy hun baced sigarets yn sylfaen i nyth asgell arian/ji-binc ( chaffinch ) a nyth bronfraith ( song thrush ) oedd wedi casglu conffeti lliwgar o lwybr yr eglwys ar ôl priodas. Coeliwch fi, roedd ei nyth yn amlwg o gryn bellter i ffwrdd!
Nyth cigfran (raven) ar ben wal buarth yng nghanol y Migneint
Fel arfer ar glogwyn creigiog y bydd y gigfran yn nythu ond mae’n rhaid mai tipyn o brentis oedd hon. Fagodd hi ddim cywion y tro hwn – gobeithio ei bod wedi gwneud yn well y flwyddyn ganlynol.
|
|
Gweddillion pryd bwyd? Arferiad glas y dorlan ( kingfisher ) yw dodwy ei wyau ar domen o esgyrn y pysgod sy’n ymborth iddo, ac un tro mi welais i nyth brân dyddyn ( carrion crow ) efo esgyrn defaid yn gymysg â’r brigau.
Nid fod pob aderyn yn poeni llawer am adeiladu nyth o gwbl, boed yn gywrain neu’n flêr. Dydy’r cwtiad torchog ( ringed plover ) ddim yn gwneud dim mwy na dodwy ei bedwar ŵy mewn pant yn y graean ar lan y môr. Weithiau cluda ychydig gerrig a chregyn i’w gosod o’i gwmpas, ac ar un o draethau Môn cefais nyth cwtiad torchog oedd wedi cario darnau o wydr gwyrdd i addurno’r pant. Gwnâi’r cyfan ddarlun tlws iawn, yr wyau gwynion â’u smotiau duon a’r darnau gwydr o’u cwmpas yn sgleinio yng ngolau’r haul, ond a oedd yn syniad da? Yn lle cadw’r nyth yn ddiogel o olwg ysglyfaethwyr, roedd yr addurn yn tynnu sylw ato.
Fe geir digonedd o grefftwyr hefyd ymhlith yr adar. Y saer coed yw cnocell y coed ( woodpecker ) sy’n tyllu ei gartref ym moncyff coeden. Pentwr o ddarnau bychain o bren ar waelod y twll ydy defnydd y nyth ei hun. Y plastrwr ydy delor y cnau ( nuthatch ) sy’n aml yn cymryd drosodd hen dwll cnocell. Fel rheol, mae’r twll yn rhy fawr i aderyn cymaint llai ac fe welwch chi’r delor yn casglu mwd a phlastro’n ddiwyd i leihau’r drws. Y chwarelwr neu’r mwynwr ydy glas y dorlan sy’n tyllu ei dwnnel i mewn i’r dorlan ar lan yr afon.
Dyma chwarelwr bach arall – y pâl
Cloddio twnel a thwll uwchben clogwyni môr y bydd yr aderyn annwyl hwn ac adeiladu’r nyth yno.
Mae hyn yn ei roi mewn perygl o golli’r wyau a’r cywion i greaduriaid fel llygod mawr. Bu bron i Ynys Seiriol golli ei hadar pâl i gyd ac oni bai i’r wardeniaid gael gwared o’r pla blewog, nid “Puffin Island” fyddai hi wedi bod byth mwy! |
 |
|
| |
|
Adar pâl (puffins) yn ymyl eu “pentref”
Dyma ffordd hawdd o ddysgu ychydig mwy am arferion nythu yr adar yn gynnar yn y gwanwyn. Tua chanol mis Mawrth mi fydda i’n gosod blwch pren ar bolyn yn yr ardd (o fewn cyrraedd adar ond allan o gyrraedd pwsi!) a thros ei wyneb ddarn o rwyd weiar. |
|

Jymbl sêl yr adar |
Mi fydda i wedyn yn llenwi’r blwch â gwlân, mwsogl, darnau bach o edau a llinyn a phlu. Fydd yr adar ddim yn hir cyn darganfod y trysor hwn, ac fe ddôn nhw yno i gasglu deunydd nythu trwy wthio’u pigau drwy’r tyllau a chipio pluen neu wlân neu beth bynnag arall sy’n cymryd eu ffansi fel leinin i’w nyth newydd. Cewch dystiolaeth pa aderyn sy’n dewis beth o’r jymbl sêl! |
Mi gredaf i fod yma ddigon o bethau i chi eu gwneud ond mi hoffwn ddiweddu efo gair o rybudd eto: byddwch yn ofalus a gwnewch yn hollol siwr mai HEN nythod yn unig y byddwch yn eu tynnu o’r gwrychoedd a’r llwyni.
|