Faint ydy eich hoed?

Rydym ni yn gwybod ein hoedran ein hun gan ein bod wedi clywed ein rhieni yn sôn am pryd cawsom ni ein geni, a ph’run bynnag, mae’r dyddiad wedi ei gofnodi’n hollol glir ar dystysgrif ein genedigaeth.

Beth am oed adeilad felly?

Nid mor hawdd yw darganfod oed adeiladau mewn trefi a phentrefi neu allan yng nghanol y wlad, ond os edrychwch chi o gwmpas eich hardal leol, efallai y gallwch ddod o hyd i gliwiau gwerthfawr.

Fedrwch chi feddwl am rai? Nodwch eich syniadau isod.

 

...........................................................................................................

...........................................................................................................

...........................................................................................................

Gadewch i ni yn awr edrych ar ddau ddull posibl o ddarganfod oedran adeiladau.
Beth am chwilio a oes dyddiad yn rhywle ar yr adeilad ei hun?

Mae dyddiad codi rhai adeiladau i’w weld wedi ei naddu ar garreg uwchben y drws neu rywle arall ar y muriau.

Weithiau cewch fod cerrig o’r fath wedi eu haddurno â gwaith celf diddorol yn ogystal â’r dyddiad ei hun.

Dyma rai enghreifftiau:
Stabl Cwmcoednerth, Ceredigion
Gelliargwellt Uchaf, Morgannwg
Castell March, Gwynedd

Fedrwch chi ddod o hyd i gerrig dyddiad yn eich hardal chi?

Gallwn wedyn ddefnyddio’r dyddiadau hyn i ddarganfod beth yw oed
tebygol yr adeilad.

Pa mor hen yw’r enghreifftiau yn y tabl isod?
Ychwanegwch unrhyw rai yr ydych chi wedi eu casglu.

 

 

Mae Richard Suggett o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gweithio ar restr o gerrig dyddiad ar adeiladau yng Nghymru.

Gallwch chi ei helpu trwy yrru ato fanylion unrhyw rai y dewch ar eu traws – trwy e-bost neu mewn llythyr:

CHCC / NMRW
Plas Crug,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 1NJ.

e-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk

 

Does dim dyddiad ar lawer o adeiladau ac mae rhaid mynd ati i ddarganfod eu hoed trwy ddulliau eraill.

Un ffordd yw trwy amcangyfrif oed y pren a ddefnyddiwyd yn yr adeilad. Coed-ddyddio (tree-ring dating) neu dendrocronoleg (dendrochronology) yw’r enw am hyn.

 

Bob blwyddyn, mae coed fel derw yn tyfu haen newydd o bren o dan y rhisgl – dyma’r cylch coed. Mae dendrocronoleg yn defnyddio’r cylchoedd hyn i benderfynu pa mor hen yw’r pren. Mae’r dendrocronolegydd yn cymryd samplau o brif drawstiau a physt yr hen adeilad â dril ac yn rhoi prawf arno mewn labordy. Bydd y gwyddonydd yn medru dweud ym mha flwyddyn ac hyd yn oed weithiau ym mha dymor y torrwyd y goeden. O’r dyddiad hwnnw, cawn wybod pryd codwyd yr adeilad.
Daniel Miles, dendrocronolegydd, yn cymryd samplau o drawstiau canoloesol
â dril.
 
Tŷ Aberconwy, yn nhref gaerog Conwy, yw un o’r tai hynaf yng Nghymru. Cafodd ei adeiladu â phren a dorrwyd yng ngwanwyn 1420. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, cyfrifwch oedran y tŷ ei hun.
  Tŷ Aberconwy, Conwy

 

 

Coflein

Coflein yw cronfa ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Ynddi, mae manylion miloedd ar filoedd o adeiladau a safleoedd archaeoloegol ar dir ac o dan y môr, ynghyd â mynegai i’r lluniadau, y llawysgrifiau a’r ffotograffau sydd yng nghasgliadau archifol helaeth CHCC.

Defnyddiwch ein gwefan www.cbhc.gov.uk i chwilio ein basdata neu i lawr-lwytho lluniau. Hefyd mae rhai o’n hawyrluniau ar gael ar wefan Casglu’r Tlysau www.tlysau.org.uk

Y Comisiwn Brenhinol yw prif gorff y llywodraeth sy’n gyfrifol am arolygu a chofnodi adeiladau hanesyddol a safleoedd archaeolegol Cymru. Mae’n gofalu am Gofnod Henebion Cymru sy’n gallu darparu deunydd ar gyfer eich hysgol chi: ffotograffau, awyrluniau, mapiau a darluniau o’ch hardal leol.

Hoffech chi dderbyn deunydd neu drefnu ymweliad?

Cysylltwch ag Angharad Williams ein Swyddog Addysg.
Ffôn: 01970 621248
e-bost: angharad.williams@cbhc.gov.uk

neu

Cysylltwch â’n gwasanaeth ymholiadau
Ffôn: 01970 621200
e-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk

Gellir hefyd gwneud ymholiadau trwy ein gwefan: www.cbhc.gov.uk

CBHC
Plas Crug,
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ

 

Lluniau gyda chaniatad © Y Goron:CBHC