Mae Cymru yn adnabyddus fel gwlad fechan, fynyddig. Ond, ble yn union y mae’r “mynydd-dir” yn dechrau a sut fath o gynefin ydyw?

Diffinir yr ucheldiroedd, gan amlaf, fel tir uwchlaw 240 metr (800 troedfedd) uwch lefel y môr, ac mae’n cynnwys 39% o arwynebedd Cymru - gweler y map. Yn ddieithriad, mae priddoedd yr ardaloedd hyn yn wael, a cheir mwy o law na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Poblogaeth isel iawn a geir yn yr ucheldiroedd ond mae rhyngberthynas bwysig rhwng y bobl a’r tir yn y cymunedau hynny.

Ucheldiroedd Cymru
= tir dros 240 metr

Ucheldiroedd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol

Yn y Cwricwlwm Cenedlaethol mae addysg amgylcheddol yn elfen bwysig, ac mae daearyddiaeth a gwyddoniaeth yn cynnwys adrannau sy’n ymwneud ag effaith pobl ar yr amgylchedd. Mae gofyn i athrawon ddysgu plant ynglŷn â sut y gellir atgyweirio cynefin a ddifrodwyd, ac i ystyried ffyrdd o warchod a rheoli rhai mathau o gynefin.

Yng Nghymru mae gennym ein hucheldiroedd sydd yn enghreiffto hyn. Yma ceir ychydig o gefndir a syniadau am waith y gellid ei wneud yn y dosbarth ac yn y maes.

Gwaith Maes – darganfod

Edrychwch ar fap Arolwg Ordnans sy’n cynnwys ucheldir.
Graddfa 1:25,000 fyddai orau.

Chwiliwch am: a) y tir dros 240 metr
  b) ffermydd a thai diarffordd
  c) pentrefi neu drefi lle ceir ysgolion, siopau ac ati
  ch) lonydd (cul a llydan)

Trafodwch broblemau pobl sydd yn byw ar fferm neu mewn tŷ arall anghysbell.
Pa fath o wasanaethau y mae arnynt eu hangen?
Pa mor bell y maent o’r gwasanaethau hynny?

Craffwch ar y newyddion neu bapurau newydd, nodwch enghreifftiau
o gymunedau anghysbell sydd yn ymladd cynlluniau i gau ysgolion neu swyddfeydd post gwledig a sylwch ar ddadleuon y trigolion.

 

Economi’r Ucheldiroedd

Bu ffermio’n anodd erioed ar yr ucheldiroedd. Yn 70au ac 80au cynnar yr ugeinfed ganrif, gwaethygodd y sefyllfa a bu’n rhaid i’r llywodraeth gynllunio’n arbennig ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth yr ucheldiroedd, a hynny’n rhannol trwy fabwysiadu polisïau Marchnad Gyffredin Ewrop.

Yn chwedl Culhwch ac Olwen cawn gyfeiriad at y coedwigoedd oedd yn gorchuddio Cwm Cowlyd am filoedd o flynyddoedd.

Erbyn y 19eg ganrif newidiodd yr enw i Gwm Brwynog ac er fod cymuned rymus yn trigo yno gyda dau gapel ac ysgol, mae’n rhaid
na fu bywyd yn hawdd erioed. Erbyn yr Ail Ryfel Byd, ymddengys mai dim ond rhyw deulu neu ddau oedd yn dal i fyw yno, ac erbyn hyn, dim ond adfeilion sydd ar ôl. Er mai’r un teuluoedd sydd yn cadw defaid yn y cwm, maent yn byw ar lawr Dyffryn Conwy â’i holl gyfleusterau ac yn gyrru i fyny i gasglu a chneifio.

Cwm Brwynog, Conwy

Er mwyn galluogi cadw rhagor o anifeiliaid ar y tir, cafodd rhannau helaeth o dir mynydd eu gwella. Bu ffermwyr wrthi yn draenio trwy agor ffosydd drwy’r corsydd er mwyn eu sychu, cyn eu haredig a’u hadu o’r newydd â glaswellt. Gwnaed llawer o ymchwil i ddatblygu gweiriau addas ar eu cyfer yn y Fridfa Blanhigion yn Aberystwyth a gyda llawer o wrtaith artiffisial, daeth y tir ymylol hwn i gynhyrchu porfa well i fwydo llawer mwy o ddefaid. Fodd bynnag, trwy wneud hyn, dinistriwyd erwau lawer o blanhigion gwyllt a oedd, tan hynny, wedi bod yn cynnal pryfed ac adar o bob math.

Gorbori

Rhwng 1946 ac 1981 cynyddodd nifer y defaid yng Nghymru 60%. Gwelwyd y cynnydd yn arbennig ar diroedd a wellwyd ond, ar yr un pryd, cynyddodd nifer y defaid ar y tiroedd uchaf, gan gynnwys pob math o gynefin gwyllt. Yr oedd cymorth ariannol ar gael i ffermwyr ar gyfer pob un ddafad ac felly yr oedd yn fanteisiol cadw cynifer o ddefaid â phosibl ar y tiroedd gwael hyn; nid oedd y taliadau yn ystyried ansawdd yr anifeiliaid na thymhorau pori.

 

Defaid y ffriddoedd llwm

Yn ôl rhai ystadegau, mae poblogaeth defaid Cymru yn uwch na’r boblogaeth ddynol – testun llawer i jôc ymhlith ymwelwyr.
Rhaid cydnabod fod unigeddau gwag fel y Migneint, Pumlumon a’r Elenydd, heb fawr i’w weld ond am y smotiau gwynion gwlanog, yn apelio at laweroedd sydd am ddianc o ddwndwr prysur y dinasoedd.

 

 

Effaith y gorbori hwn yw bod llawer o dir grugog wedi diflannu o’r ucheldiroedd a lleiniau glaswelltog wedi eu pori mor agos at y pridd nes bod amryw o rywogaethau o blanhigion, trychfilod ac adar gwyllt wedi diflannu. Mae gorbori hefyd yn achosi erydu’r tir gan wynt a glaw.

Gwaith Maes – arolwg

Chwiliwch am dair ardal yn yr ucheldiroed
i) sydd wedi eu gwella
ii) sydd yn dal yn wyllt ond lle mae defaid yn pori
iii) sydd yn wyllt heb ddefaid yn pori yno.

Nodwch
i) pa fath a faint o wahanol blanhigion sydd yn tyfu yno
ii) beth yw cyfartaledd uchder y planhigion
iii) pa fath a faint o wahanol adar sydd yn byw yno (gan ystyried adeg
y flwyddyn. Mae llawer o adar yr ucheldiroedd yn fudwyr tymhorol.)

Yn ôl eich arsylwadau
a) beth yw effaith pori ar y planhigion?
b) beth yw effaith pori ar yr adar?

 

Coedwigaeth

Ers yr Ail Ryfel Byd plannwyd miloedd o erwau o goed conifferaidd ar ucheldiroedd Cymru a rhoddodd y llywodraeth anogaeth bellach i’r diwydiant ym 1981 trwy gynnig cymorth ariannol ac ad-daliad trethi. Mynna rhai mai dim ond y cwmnïau coedwigo mawr sydd wedi elwa ac nad yw’r diwydiant wedi bod o fawr gymorth i greu swyddi lleol. Nid yw’r planhigfeydd yn boblogaidd bob amser gydag ymwelwyr, cerddwyr na phobl cefn gwlad oherwydd credant eu bod yn difetha’r tirwedd naturiol, tra mae haneswyr yn galaru gweld olion patrymau amaethu a mwyngloddio’r gorffennol yn cael eu llyncu gan y coed. (Darllenwch y gerdd “Rhydcymerau” gan Gwenallt fel enghraifft o’r teimladau yn erbyn coedwigaeth.)

 

Problem arall sy’n gysylltiedig â phlanigfeydd conifferaidd yw dŵr asid. Mae coed conifferaidd yn amsugno asidau o’r awyr ac yn eu gwaddodi yn y pridd a’r nentydd o’u hamgylch. Mae’r dŵr asidaidd hwn yn lladd trychfilod sydd yn y dŵr ac yn ei dro mae hynny’n effeithio ar bysgod, adar a mamaliaid sy’n dibynnu ar y trychfilod am eu bwyd.
Coed Gwydir, Conwy

 

 

 

Gwaith Maes – casglu tystiolaeth

Os ydych o fewn cyrraedd ardal lle ceir coedwigoedd conifferaidd, holwch bobl am eu teimladau tuag atynt.

Faint o bobl leol sydd wedi cael gwaith yno?
Beth yw cyflwr tir uchel, garw yr ardal lle na phlannwyd coed?

 

Rheoli’r mynydd – mynegi barn, egluro safbwynt a chwarae rôl

Rhannwch y dosbarth yn grwpiau a gofynnwch i bob grŵp baratoi syniadau ar gyfer rheoli’r ucheldiroedd o safbwyntiau gwahanol elfennau cymdeithas e.e.

ffermwyr

cerddwyr

corff gwarchod tirlun

corff gwarchod planhigion

corff gwarchod adar

awdurdod lleol (â chyfrifoldeb am les pawb)

cymuned fach yr ardal

cwmni coedwigaeth

Bydd angen i bob grŵp ystyried diddordebau’r grwpiau eraill wrth wneud penderfyniadau. Dylent geisio cynnwys syniadau a fydd yn bodloni’r lleill tra’n osgoi bradychu eu safbwynt eu hunain.

Gofynnwch wedyn iddynt gyflwyno’u syniadau a’u cynigion i bawb arall yn y dosbarth, ac i ymateb i unrhyw ddadl neu gŵyn fydd yn codi. Datblygiad pellach fyddai cael llefarydd i chwarae rôl aelod o bob grŵp.