spacer

spacer spacer
 

Mae meithrin y ddawn o bwyso a mesur yn elfen bwysig o’n gwaith fel athrawon – yr arsylwi, y pwyso a’r mesur sydd nid yn unig yn rhan annatod o bob gwaith ymarferol gwyddonol, ond sydd hefyd yr un mor hanfodol wrth ystyried dilysrwydd pob math o dystiolaeth.

Efallai mai prif nodwedd y Dadeni oedd parodrwydd i herio llawer o’r hyn a dderbynid fel gwirionedd diysgog dros y canrifoedd blaenorol. O’r cywreinrwydd herfeiddiol hwnnw y tyfodd llu o’r datblygiadau diweddarach ac felly ein dull ni o fyw heddiw.

A oes perygl heddiw ein bod yn llithro yn ôl i feddylfryd didaro, sydd yn derbyn pob damcaniaeth ysgubol yn llywaeth ac sydd yn trin gwrthwynebiad iddynt fel heresi? A yw plant yn clywed digon o eiriau pwyllog fel “Credir …,” “Y syniad diweddaraf yw …” neu "Efallai …” mewn rhaglenni gwyddoniaeth neu hanes?
Na fydded i neb ddioddef tynged Galileo fyth eto!

Llun: Huw James, Glanllyn Mesur yn y maes
 

Rhaid i addysg ein disgyblion eu harwain i ystyried pa mor gadarn yw sail yr hyn a glywant ac i ganfod sut mae gogwydd personol yn medru llurgunio’r gallu i ffurfio barn ddiduedd.

Dyma felly rifyn o Gwaith Maes sydd yn cynnwys deunydd ymchwil amrywiol iawn, o asesu gwirionedd hen goelion tywydd at nodi dylanwad dyn ar ei gynefin. Fel arfer,
byddwn wrth ein bodd cael clywed am eich defnydd ohono ac am unrhyw ganlyniadau diddorol.

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Rhifyn Nesaf
Mai 2005

Cyfrifoldeb athrawon yw asesu peryglon unrhyw weithgaredd neu ymweliad

Cliciwch ar enw'r awdur i fynd ymlaen

GWLAD YR UCHELFANNAU

ARWYDDION TYWYDD

MISOEDD Y FLWYDDYN

CANFOD COED

AWYRLUNIAU
PORTHMADOG A DOC PENFRO

DADANSODDI NYTHOD

Y DITECTIF AMSER - OED ADEILADAU

TIRWEDD A THIRLUN