AFON
Bl. 6, Ysgol y Gelli, Caernarfon, 1995

 

Nant y mynydd
yn disgleirio
fel blaen nodwydd,
yn troi a throelli
drwy’r mwsogl a’r brwyn.
Dyma guddfan
yr eog a’r brithyll,
a lloches
crëyr glas gosgeiddig.


Rhaeadr,
fel taran
yn taro’n erbyn
y cerrig a’r creigiau,
dafnau dŵr fel conffeti
a’r ewyn yn batrymau
ar frig y tonnau.

Dinistr …
mae cemegau,
carthion a sbwriel
yn llygru’r glannau.
Gwelwn bysgod fel dail
ar wyneb y merddwr
a’r afon bellach
fel nodwydd
wedi rhydu.

 

Beth am drafod?

A
1 Darllenwch gerddi eraill am afonydd. Dyma rai i chi:

Cân y Nant (Caradog Prichard)
Nant y Mynydd (Ceiriog)
Ar y Ffordd i’r Môr (J. Gwyn Griffith)

ac yn Saesneg
The Brook (Tennyson)

2 Gwrandewch ar ddarn o gerddoriaeth sydd yn disgrifio hynt Afon Moldau yn Nhiecoslofacia o’i tharddle ymlaen. Mae’r darn yn rhan o’r dilyniant cerddorol “Ma Vlast” (Fy Ngwlad) gan y cyfansoddwr Smetana.

Beth sydd gan y beirdd a’r cyfansoddwr i’w ddweud neu i’w gyfleu am daith afon?

Sut mae rhythm y geiriau a’r gerddoriaeth yn rhan o’r mynegiant?

Sut mae hyn yn cymharu â disgrifiad plant Ysgol y Gelli o afon?

 

B
Yn rhan olaf y gerdd Afon, mae’r disgyblion yn disgrifio afon sydd wedi ei llygru gan ddiwydiant a’i difrodi’n llwyr gan esgeulustod dyn.

Ai dyna mae’r llun wrth ochr y disgrifiad yn ei ddangos?

Ydy’r afonydd rydych chi wedi eu gweld yn debyg i’r disgrifiad neu i’r lluniau?

Pryd a ble welsoch chi’r afonydd hyn?

Wyddoch chi am afon oedd mewn cyflwr trychinebus yn y gorffennol ond sydd erbyn heddiw wedi ei hadfer?

Wyddoch chi pwy sydd yn gofalu am afonydd a bywyd gwyllt y dŵr a’r glannau?
Os na, holwch, yna cysylltwch â hwy am fwy o wybodaeth am y gwaith holl bwysig hwn.