Dim ond awgrymiadau yw’r cwestiynau sydd yn dilyn – athrawon pynciol yw’r arbenigwyr a hwy yn unig fedr wneud y defnydd gorau o’r adnoddau.
| 1. |
I ba gyfeiriad oedd yr awyren yn teithio pan gymerwyd y llun hwn? |
| 2. |
Pa fynydd ydy A ar y llun? |
| 3. |
Pa fynydd ydy’r un y tu hwnt i Lyn Ogwen sydd â’i gopa ynghudd
yn y niwl (B ar y llun?) |
| 4. |
Beth ydy cyfeiriad Carnedd Llywelyn o Lyn Ogwen? |
| 5. |
Pa ddigwyddiad daearegol/hanesyddol sydd yn gyfrifol am ffurf y
cymoedd a’r cribau o’u hamgylch? Pa rym a gerfiodd y tirwedd? |
| 6. |
Pam oedd cael ffordd dda (C ar y llun) rhwng Capel Curig a Bangor
mor bwysig i Thomas Telford? |
| 7. |
Yn ôl tystiolaeth y llun a’r map, ai ffordd Telford oedd y gyntaf i
ddilyn y llwybr hwn rhwng y Carneddau a’r Glyderau? |
| |
|
| [Cyfeiria’r gair tirwedd yn benodol at uchder a siap y tir, tra mae’r gair tirlun yn cynnwys nid yn unig ffurf y tir ond hefyd y defnydd a wneir ohono. Cyfeiria “defnydd tir” at yr adeiladau ar y tir a’r defnydd a wneir o’r adeiladau yn ogystal â’r defnydd a wneir o dir agored.
Gweler ymhellach Tirwedd a Thirlun (Toni Schiavone) Gwaith Maes, ffolder Daearyddiaeth] |
| |
|
| 8. |
Nodwch y defnydd tir a welir yn y llun er mwyn gwahaniaethu
rhwng ystyr tirwedd a thirlun. |
| 9. |
Mae Ch ar y llun yn dangos lleoliad Helyg, caban enwog Clwb y
Dringwyr. Beth mae hwn yn ei ddweud wrthym am newid yn y
defnydd o hen adeiladau yn yr ardal fynyddig hon? |
| 10. |
Lluniwch ddisgrifiad syml o’r tirwedd ac yna ail ddisgrifiad o’r tirlun cyfan.
|
Mae hawlfraint y llun yn eiddo i Gyngor Brenhinol Henebion Cymru a dymuna Cymdeithas Gwaith Maes gydnabod ei diolch iddynt am eu cefnogaeth a’u cymorth.