Mae llawer o law yn syrthio yng Nghymru, felly mae gennym lawer o enwau am bethau naturiol gwlyb. Wrth gwrs, does dim rhewlifoedd yma, ac mae eira go iawn yn weddol brin hefyd.

Wyddoch chi fod gan iaith yr Escimo neu’r Inwit dros 15 o enwau am fathau gwahanol o eira?

Copïwch y lluosog cywir o’r rhestr ar y dde ar gyfer pob un o’r enwau unigol yn y golofn ar y chwith, yna dysgwch y ddau (unigol a lluosog)
gan eu sillebu’n gywir bob tro.

       
Unigol Saesneg Lluosog  
aber estuary ......................................... llifogydd
afon river ......................................... cymerau
argae dam ......................................... rhewlifau
cors marsh, bog ......................................... ffrydiau
cronfa reservoir ......................................... aberoedd
cymer confluence ......................................... pyllau
dŵr water ......................................... llynnoedd
eira snow ......................................... glawogydd
ffos ditch, leat ......................................... nentydd
ffrwd stream ......................................... argaeau
ffynnon spring, well ......................................... moroedd
glaw rain ......................................... rhaeadrau
llif flood, (flow) ......................................... tarddleoedd
llyn lake ......................................... afonydd
môr sea ......................................... cronfeydd
nant stream ......................................... dyfroedd
pwll pool ......................................... ffosydd
rhaeadr waterfall ......................................... corsydd
rhewlif glacier ......................................... ffynhonnau
tarddle source ......................................... dim lluosog!


Dim ond unigol y geiriau Saesneg sydd wedi’i nodi, er bod y lluosog Cymraeg yno hefyd. Pam hynny?

Beth sydd yn wahanol am luosog enwau yn y Gymraeg a’r Saesneg?

Beth ydyn nhw?

Mae rhaid gwybod yn union beth yw’r nodweddion hyn. Defnyddiwch eiriadur os oes angen, yna gwnewch lun bach i ddangos eich bod yn deall yr ystyr. Os ydych chi’n gweithio ar y cyfrifiadur, efallai y medrwch gael hyd i fwy o luniau o fas data “ClipArt” a’u gosod yn eu lle. Mae pedwar wedi’u gwneud yn barod i chi.

aber
afon
argae
cors
cronfa
cymer
dŵr
eira
ffos
ffrwd
ffynnon
glaw
llif
llyn
môr
nant
pwll
rhaeadr
rhewlif
tarddle

 

Cofiwch: nid dyma’r unig enwau cywir yn y Gymraeg am y nodweddion hyn … er bod y rhan fwyaf yr un fath ym mhob tafodiaith. Glaw ydy glaw i ni i gyd!
Enwau arall am beth ydy pistyll a sgwd, mign a siglen?

 

Llenwi bylchau

Wedi dysgu’r holl enwau ar y rhestr, yn unigol a lluosog, llenwch y bylchau yn y brawddegau isod trwy gyfieithu’r gair Saesneg sydd mewn cromfachau.

Pa dreiglad sydd yn dilyn o?

1. Faint o (reservoirs) _____________ sydd yng Nghwm Elan?
   
2. Sylwch ar yr holl (lakes) ______________ sydd i’w gweld o gopa
Cader Idris.
   
3. Mae dwy o (rivers) ________________ mwyaf Cymru yn tarddu ar
Bumlumon.
   
4. Yng Nghasnewydd mae (estuary) __________ Afon Wysg.
   
5. Man poblogaidd iawn gan ymwelwyr ydy (waterfall) ____________
Cwm yr Aber.
   
6. Peidiwch â nofio yn y (pools) ______________ yn yr afon – maen
nhw’n ddwfn iawn.
   
7. Gallwch ymweld ag un o (bogs) _______________ mwyaf diddorol
y wlad ychydig i’r gogledd o Dregaron.
   
8. Mae’r (streams) _____________ yn orlawn ar ôl glaw trwm.
   
9. Ble mae (waters) __________________ Afon Aman ac Afon Llwchwr yn cyfarfod?
   
10.

Rhaid fod y (glacier) _____________ a gerfiodd gribau ysgythrog Eryri yn glamp o un mawr.