Allwch chi ddod o hyd i dref Penfro ar y map isod?
Allwch chi ddod o hyd i dref Doc Penfro?
Mae’r ddwy dref yn eitha agos at ei gilydd yn Sir Benfro, De Cymru.

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Rhif trwydded: 100017916, 2005.
Wrth edrych ar y map allwch chi weld y gwahaniaeth ym mhatrwm strydoedd y ddwy dref?
Mae gan Doc Penfro strydoedd trefnus iawn, gyda nifer ar ongl o 90º i’w gilydd. Mae tref Penfro’n wahanol iawn, yn dref hir a chul heb batrwm mor bendant i’r strydoedd.
Allwch chi feddwl pam fod y ddwy dref yn wahanol?
Yn aml mae’r tirlun yn effeithio ar dwf pentrefi neu drefi, e.e. gall afon neu fynydd rwystro gwaith adeiladu ar un ochr i’r dref.
Oes unrhyw wahaniaeth yn y tirlun o amgylch y ddwy dref?
Mae oedran tref hefyd yn gwneud gwahaniaeth i siâp a threfniant yr ardal adeiledig.
Yn yr erthygl hon edrychwn ar hanes tref Penfro.
| Tref Penfro |
Castell Penfro |
 |
 |
© Hawlfraint y Goron: CBHC 89-cs-183
Tref ganoloesol wedi ei hadeiladu wrth
y castell yw Penfro.
Allwch chi ddod o hyd i’r castell ar y map a’r llun uchod? |
© Hawlfraint y Goron: CBHC 95-cs-687
Adeiladwyd y castell cyntaf, o bren, yn 1093 gan Iarll Roger de Montgomery, ar ddarn o dir uchel rhwng dwy gilfach llanw, wedi ei leoli’n strategol ar lwybr pwysig i’r Iwerddon.
Dechreuodd William Marshall adeiladu’r castell trawiadol sy’n sefyll heddiw tua’r flwyddyn 1190. Mae’r castell yn enwog gan mai yma y ganed Brenin Harri’r VII ym 1457. |
Yn ogystal gellir gweld olion rhannau o waliau’r dref. Tybir iddynt gael eu hadeiladu ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Adeiladwyd y waliau lawr o’r castell ac o amgylch perimedr y penrhyn cul.
Beth ydych chi’n ei feddwl oedd pwrpas adeiladu wal o amgylch y dref ganoloesol?
Allwch chi weld olion y waliau yn y llun nesaf?
 |
Heddiw, mae canol tref Penfro yn parhau i fod yn agos i’r castell ac o fewn perimedr wal y dref. Mae’r strydoedd yn parhau i ddilyn eu patrwm canoloesol.
Edrychwch ar enwau rhai o’r strydoedd ar y map isod.
Ydy enwau rhai o’r strydoedd yn adlewyrchu’r ffaith fod Penfro’n dref ganoloesol?
© Hawlfraint y Goron: CBHC 2002-cs-0504
|

Adeiladwyd nifer o’r adeiladau a welwn yng nghanol y dref heddiw yn ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar ddeg er bod rhai adeiladau hŷn wedi goroesi.
 |
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf
adeiladwyd tai newydd o amgylch
yr hen dref ymhellach o’r môr
ac ar ochr arall yr afon.
Allwch chi weld y tai newydd yn y
llun ar y chwith?
© Hawlfraint y Goron: CBHC 90-cs-578 |
 |
Os ydych am ddarganfod mwy o wybodaeth am adeiladau a
safleoedd hanesyddol ym Mhenfro gellir defnyddio:
Coflein: www.coflein.gov.uk
|
Am fwy o wybodaeth am dref Penfro a’r castell gallwch ymweld â’r gwefanau canlynol:
www.pembrokecastle.co.uk/home.htm
www.pembroketown.org.uk/pembroke.php
Ydych chi’n byw mewn neu’n agos i dref gyda chastell?
Oes rhannau o waliau’r dref i’w gweld yno?
Os na, allwch chi ddyfalu ble fyddai’r waliau wedi cael eu hadeiladu?
Gall fod yn ddefnyddiol i edrych ar awyrluniau neu fapiau o’ch tref leol.
Am awyrluniau o drefi canoloesol eraill yng Nghymru cysylltwch â CHCC.
Ffôn: 01970 621200 e-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
CBHC, Plas Crug, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1NJ
Hefyd gellir gwneud ymholiadau trwy ein gwefan: www.cbhc.gov.uk
|