|
Yn yr erthygl wreiddiol (Rhifyn 12) defnyddiwyd Afon Ceiriog i enghreifftio nodweddion afon. I hwyluso’r gwaith o ail-gyflwyno ar y we, defnyddiodd y golygydd Afon Lledr yn hytrach nag Afon Ceiriog oherwydd ei lleoliad mwy cyfleus i gymryd lluniau newydd.
| MAP AROLWG ORDNANS |
Landranger 125 |
Yr Wyddfa |
GWEITHGAREDD 1 -
Cyflwyniad i Afon Lledr
| Lleoliad: |
mae Afon Lledr yn rhan o fasn draeniad (gweler isod)
Afon Conwy yng Ngwynedd. |
1 |
Defnyddiwch atlas i ddod o hyd i leoliad yr afon. |
2 |
Lluniwch fap syml i ddangos lleoliad y ddwy afon a rhai o brif
afonydd eraill Cymru e.e. Dyfrdwy, Mawddach, Hafren, Taf a Theifi |
3 |
Disgrifiwch leoliad Afon Lledr e.e. y tarddle, cyfeiriad y llif,
trefi neu bentrefi ar hyd ei thaith/chwrs a’r cymer ag Afon Conwy
(gweler isod am y termau hyn ac am unrhyw rai eraill dieithr.) |
Geirfa ddaearyddol dŵr (Defnyddiwch eiriadur yn ôl yr angen.)
Mae’r geiriau mewn cromfachau yn fwy tafodieithol ond yr un mor ddilys.
Tirffurfiau (nodweddion tirlun)
| cwm, dyffryn, (ystrad) |
ystum, ystumllyn |
cymer, cydlif |
afon, gwely _ , llif _ ,
cwrs _ , llwybr _ |
geirw (rapids)
silt |
dôl, gorlifdir
cors, mign, siglen |
| rhaeadr, (sgwd, pistyll) |
sianel |
llyn |
| llechwedd, llethr, (tyle) |
moryd |
nant, ffrwd, llednant |
tarddle, tarddell, llygad
|
aber |
ceunant |
| basn draeniad |
gwahanfa ddŵr |
|
| |
|
|
Gwaith afon – proses ac effaith
| erydu |
ystumio, dolennu |
| gorlifo |
llifo |
| cludo, cario |
dyddodi, gollwng |
| draenio |
|
|
|
Nodweddion dynol
cored
argae
cronfa (ddŵr)
|
|

Gall gwahanfa ddŵr fod yn hawdd ei chanfod fel crib neu gefnen amlwg rhwng dau fasn draeniad e.e. Moel Druman [cyfeirnod 672476] lle mae’r dŵr i’r gogledd yn rhan o fasn draeniad Afon Lledr tra mae’r dŵr i’r de yn cyfrannu at Afon Dwyryd. Gall hefyd fod yn ddarn eang o dir dinodwedd lle mae llwybr y dŵr yn gymhleth ac yn anodd ei ddilyn (gweler yr enghraifft isod.)
Mae’r llun isod yn dangos Llynnau’r Cŵn (A) [cyfeirnod 662487], Llyn Edno (B)
[cyfeirnod 662497] a tharddle Afon Cwm Edno (C) [cyfeirnod 667 501
 |
Mae’r dŵr o Lynnau’r Cŵn a Llyn Edno
yn cyfrannu at Afon Edno, llednant o fewn
basn draeniad Afon Glaslyn sydd â’i haber
ym Mhorthmadog ac felly’n gwagio i Fae Ceredigion.
Mae Afon Cwm Edno yn tarddu o’r gors 150m i’r gogledd o Lyn Edno ac yn ymuno ag Afon Lledr sydd yn rhan o fasn draeniad Afon Conwy ac felly’n gwagio i Fae Lerpwl. |
GWEITHGAREDD 2 - Dilyn yr Afon
| MAP AROLWG ORDNANS |
Landranger 115 |
Yr Wyddfa |
Lluniau o rannau allweddol o daith Afon Lledr o’i tharddle i’w chymer ag Afon Conwy.
 |
 |
Tarddle – ucheldir garw, corsiog
uwchben Blaenau Dolwyddelan
Cyfeirnod: 683494 |
Sianel yr afon ger Dolwyddelan
Cyfeirnod: 745526 |
| |
|
 |
 |
Ystumiau ar un o lednentydd Afon
Lledr. (Sylwch ar yr hen gorlannau.)
Cyfeirnod: 701492 |
Cymer Afon Lledr ac Afon Conwy.
Mae Afon Lledr yn llifo o’r dde.
Cyfeirnod: 798543 |
| A |
Cymharwch y lluniau â’r map gan ystyried y pwyntiau
canlynol: |
| 1 |
Sianel yr afon – y “toriad” yn y tir a grëwyd ganddi, ei lled,
cyfeiriad y llif, a phatrwm ei llwybr - troellog, ystumiog. |
| 2 |
Y tir o gwmpas sianel yr afon ac uwchben llawr y dyffryn – uchder,
ansawdd ac ongl y llechweddau, defnydd o’r tir. |
| 3 |
Nodweddion dynol ardal yr afon – ffyrdd, aneddiadau,melinau dŵr |
| B |
Dewiswch afon yn eich hardal chi , defnyddiwch y map
perthnasol a chymharwch y safleoedd â safleoedd cyffelyb
Afon Lledr. |
GWEITHGAREDD 3 - Arolwg o afon __________________
|