Wrth feddwl am fyd natur a bywyd gwyllt, rhaid cofio am y rhan honno o’r blaned sydd yn wlyb. Mae 70% o arwyneb y blaned dan y cefnforoedd
– dim ond 3% o’r dŵr ar y ddaear sydd yn groyw.

Mae’r cefnforoedd yn bwysig iawn i fywyd economaidd y Deyrnas Unedig
  - cludo nwyddau mewn llongau
- cael mwynau a physgod
- teithio a hamddena
- amddiffyn y wlad
- cael gwared o wastraff a charthion

Gan fod llawer o ddiwydiant a threfi ar lan y môr, mae’n syndod ein bod yn trin y tir a’r môr ar wahân yn hytrach nag fel un amgylchedd cyfan.

Mae’n amlwg fod angen meddwl yn fwy gofalus am ein gweithgareddau ar y môr a sut maen nhw’n effeithio ar y cefnforoedd. Mae gwyddonwyr yn credu fod rhwng 5 a 10 miliwn o rywogaethau gwahanol yn byw yn y môr a dim ond tua 2 filiwn ar y tir.

Rydym mewn perygl o golli cyfoeth o fywyd trwy anghofio amdano a chamdrin moroedd y byd. Mae rhaid defnyddio’r moroedd yn fwy cynhaliol a chofio eu bod yn bwysig o ran
  - rheoli hinsawdd y byd
- y cylch dŵr
- gwaith arbrofol gwyddonwyr
- cylch bywyd y blaned
Rhai o’r peryglon i’r môr y mae dynion yn gyfrifol amdanyn nhw:
1.
gwastraff plastig yn cydio mewn creaduriaid neu mae adar
y môr yn bwyta digon o ddarnau bychain yn lle wyau pysgod
ac felly maen nhw’n marw.
2.
olew o lanhau tanciau llongau yn dod ag olew i’r glannau
yn gyson. Nid trychinebau tanceri ydy’r brif broblem.
3.
draenio aberoedd i adeiladu arnyn nhw neu eu llygru
gan afonydd budr yn bygwth cadwyni bwyd pwysig.

Mae nifer o adar y môr yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywyd ar y môr gan ddefnyddio ynysoedd a chlogwyni’r arfordir i nythu a magu cywion.
Dau o’r adar hyn yw’r pâl a’r hugan.

Isod cewch ddau weithgaredd i’w gwneud yn y dosbarth fel gwaith dilynol i waith maes neu waith ar thema’r môr. Os na fedrwch drefnu i’r plant weld yr adar eu hunain, yna gallant gywain gwybodaeth o gyfeirlyfrau neu o wefannau priodol e.e. www.rspb.org

 

Gweithgaredd 1
YR HUGAN A’R PÂL

Gweithiwch mewn parau neu grwpiau bach arall.

Mae pob un o’r brawddegau hyn yn sôn am yr hugan neu am y pâl.
Casglwch y rhai sydd yn disgrifio’r hugan i golofn A a’r rhai sydd yn disgrifio’r pâl i golofn B. [Os ydych chi’n gweithio ar y cyfrifiadur, defnyddiwch adnodd “torri a gludo” i symud y brawddegau.]

A. Yr hugan (Saesneg: gannet) B. Y pâl (Saesneg: puffin)
Dim ond ar Ynys Gwales (Grassholm) mae hwn yn nythu yng Nghymru Mae’r pâl yn nythu ar Ynys Môn,
ym Mhen Llŷn ac ar ynysoedd Sir Benfro.

 

   
  1. Mae ganddo adenydd 2 fetr ar draws.
2. Mae esgyrn y pen yn gryf iawn.
3. Mae’r pig yn lliwgar iawn yn ystod y tymor nythu.
4. Mae’n gallu plymio i’r môr o 50 metr.
5. Mae ganddo adenydd byr.
6. Mae ganddo sachau aer yn ei wddf i leihau’r sioc wrth daro’r dŵr.
7. Mae’n nythu mewn tyllau ar ben clogwyni.
8. Mae’r nyth wedi ei wneud o wymon a phlanhigion fel arfer.
9. Erbyn diwedd Awst mae wedi gadael ei nyth.
10. Mae’r pig yn agor yn llydan i ddal nifer o bysgod ar y tro.
11. Ei enw gwyddonol Lladin yw Sula bassana.
12. Ei enw gwyddonol Lladin yw Fratercula arctica.

Gweithgaredd 2
CYLCH MAETHIAD

Gweithiwch ar eich pen eich hun neu mewn grŵp. Cysylltwch y llun gyda’r disgrifiad cywir ohono. Ar ôl gwneud hyn, lluniwch gadwyn fwyd gyda phopeth wedi ei gysylltu i lun o’r haul.

Rydw i’n defnyddio egni’r haul a maethiad o’r
dŵr i dyfu. Mae llawer o anifeiliaid yn fy mwyta.
FFYTOPLANCTON ydw i.
Rydw i’n cael egni o fwyta creaduriaid llai.
CIGYSYDD ydw i.
Rydw i’n cadw llawr y môr yn lân trwy fwyta
planhigion ac anifeiliaid marw a gwastraff arall.
DETRISYDD ydw i.
Rydw i’n cael egni o fwyta ffytoplancton
ac yn cael fy mwyta gan gigysyddion.
SŴPLANCTON ydw i.
Rydw i’n cael egni o fwyta ffytoplancton ac yn
cael fy mwyta gan greaduriaid hollysol.
LLYSYSYDD ydw i.
Rydw in cael egni o fwyta ffytoplancton a phob
math o greaduriaid eraill.
HOLLYSYDD ydw i.