| |

Mae gorfod dyfeisio cylch o wersi o fewn un thema heb esgeuluso na gwneud cam ag unrhyw un o fyrdd agweddau’r Cwricwlwm yn peri cryn grafu pen ar brydiau.
Y tro hwn, mae Gwaith Maes yn cynnig cynnwys amrywiol sydd yn ddigon thematig i fodloni’r arolygwr mwyaf beirniadol ond sydd ar yr un pryd yn sicr o ddiddori plant. Beth sydd yn denu plant yn ddiffael fel hoelion at fagned? Dŵr! O’r pwtyn pum mlwydd yn camu’n benderfynol trwy’r pyllau glaw yn ei esgidiau gorau i’r llafnyn pymtheg yn cicio dŵr dros ei fêts ar y ffordd i’r bloc Gwyddoniaeth, fedr ieuenctid byth wrthsefyll ei demtasiwn.

|
Yn ôl un o hen Dribannau Morgannwg,
Mae Afon Rhymni dirion
Yn llifo, llifo’n gyson;
Er gweled llawer tro ar fyd,
Yr un o hyd yw’r afon.
Llyn Dinas, Gwynedd
|
Ond, diolch byth, fel cymaint o afonydd tebyg, nid yw Afon Rhymni “yr un o hyd.” Diolch i’r newid yn niwydiant y cymoedd ac i lafur awdurdodau a gwirfoddolwyr, gall plant heddiw bysgota ynddi a’i mwynhau. Tan yn ddiweddar, fyddai neb yn meiddio breuddwydio am y fath beth, a’r atgof am afon lân, llawn bywyd, yn ddim amgen na chof gwerin o hen baradwys goll.
Po fwyaf y bydd disgyblion yn ei ddeall am ddŵr a’i bwysigrwydd i bawb a phopeth, po orau y byddant yn cyfrannu at ei warchod a’i drysori pan ddaw eu tro hwy i wneud mwy na chwarae ynddo.

 |
Rhifyn Nesaf
Tachwedd 2005 |
|
Cyfrifoldeb athrawon yw asesu peryglon unrhyw weithgaredd neu ymweliad |
|
Cliciwch ar enw'r awdur i fynd ymlaen |
|