Awyrluniau Hen Ddiwydiant
 

 

Awgrymu un trywydd i’w ddilyn ar sail yr awyrluniau yw pwrpas y cwestiynau isod. Byddai trefnu ymweliad â’r ddwy safle’n fuddiol a diddorol, ac mae digon o wybodaeth ar gael am y datblygiadau
diweddaraf yng Nglyn Ebwy.

Mae hawlfraint y lluniau yn eiddo i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a dymuna Cymdeithas Gwaith Maes gydnabod ei diolch iddynt am eu cefnogaeth a’u cymorth.

 

Bydd angen y mapiau Arolwg Ordnans canlynol:

 

Y Fenni a’r Mynydd Du [Cyfeirnod gwaith dur Glyn Ebwy: 175085]
  Landranger 161 1:50 000
   
Aberystwyth [Cyfeirnod gwaith plwm Goginan: 693821]
  Landranger 135 1:50 000

 

 

1. Beth ydy cyfeiriad safle Glyn Ebwy o dref Y Fenni?
   
2. Beth ydy cyfeiriad safle Goginan o dref Aberystwyth?
   
3. Beth ddigwyddodd i safle gwaith dur Glyn Ebwy rhwng 2001
(llun A) a 2003 (llun B)?
   
4. Pam y bu’r newid?
   
5. Pa ddatblygiadau pellach fydd yn debygol o ddigwydd yma?
Am ba resymau?

 

 

 

 

Llun A
Safle gwaith dur Glyn Ebwy 2001



Hawlfraint y Goron: CBHC

 

 

Llun B
Safle gwaith dur Glyn Ebwy 2003



Hawlfraint y Goron: CBHC

 

 

Llun C
Safle hen waith plwm Goginan yn 2004



Hawlfraint y Goron: CBHC

 

 

Caeodd gwaith plwm Goginan dros 120 o flynyddoedd yn ôl ac mae llun C yn dangos y safle heddiw. Gwaith bychan fu Goginan erioed ac ychydig o ddynion oedd yn gweithio yno.

6. Nodwch sut mae’r safle wedi newid ers i’r gwaith gau.
   
7. Pam na ddatblygodd safle Goginan yn yr un ffordd ag y mae Glyn Ebwy yn debyg o wneud?